O dan y gyfraith, mae’n rhaid i ddeunydd ymgyrchu gynnwys manylion sy’n dangos pwy sy’n gyfrifol am y deunydd. Mae'n darparu tryloywder i bleidleiswyr.
Os ydych yn cynhyrchu deunydd sy’n ymwneud a digwyddiad etholiadol neu blaid, ymgeisydd neu ddaliwr swydd etholedig, efallai bydd angen i chi gynnwys argraffnod.
Gall fod angen argraffnodau ar ddeunydd digidol a deunydd argraffedig.
Mae gofynion argraffnodau gwahanol yn gymwys i etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau cynghorau yn yr Alban.