| Argraffu'r canllawiau llawn

Pa weithgareddau sy’n cyfrif fel gwariant?

Gwariant ar ymgyrch yw’r swm y mae’r blaid yn ei wario ar weithgareddau penodol i hyrwyddo ei hun neu ei hymgeiswyr, neu i feirniadu pleidiau eraill, yn ystod y cyfnod a reoleiddir.1

Bydd gwariant ar ymgyrch plaid hefyd yn cynnwys gwariant ar weithgareddau i hyrwyddo eich ymgeiswyr. Rhaid i’r blaid awdurdodi gwariant a ysgwyddir gan ymgeiswyr rhestr plaid.2

Mae gwariant ar ymgyrch yn cynnwys unrhyw eitemau neu wasanaethau a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod a reoleiddir, gan gynnwys:

  • eitemau neu wasanaethau a brynwyd cyn dechrau’r cyfnod a reoleiddir, ond a ddefnyddiwyd yn ei ystod3
  • eitemau neu wasanaethau a roddwyd i’r blaid am ddim neu ar ostyngiad anfasnachol o dros 10% ac yna’n cael eu defnyddio yn eich ymgyrch (gweler Gwariant tybiannol)4

Rhaid i holl wariant y blaid gael ei adrodd i’r Comisiwn Etholiadol ar ôl yr etholiad.5

Mae gweithgareddau sydd wedi’u cynnwys yn y gwariant ar ymgyrch yn cynnwys:6

  • darllediadau gwleidyddol plaid, os oes gan eich plaid hawl i un
  • hysbyseb plaid o unrhyw fath. Er enghraifft, baneri stryd, gwefannau neu fideos YouTube
  • deunydd digymell a anfonwyd at bleidleiswyr ynghylch y blaid. Er enghraifft, costau cynhyrchu’r anerchiadau etholiadol a'r llythyrau neu daflenni a anfonwch nad ydynt mewn ymateb i ymholiadau penodol
  • y maniffesto ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n nodi polisïau eich plaid
  • ymchwil i'r farchnad neu ddulliau eraill o ganfod pa blaid y mae pobl yn bwriadu pleidleisio drosti (fodd bynnag, lle mae’r ymchwil yn cynnwys ymgeiswyr a nodwyd, gall fod yn wariant ymgeisydd)
  • cynadleddau gwasg plaid neu gysylltiadau eraill â'r cyfryngau
  • trafnidiaeth o ran hyrwyddo neu roi cyhoeddusrwydd i’ch plaid
  • digwyddiadau neu ralïau plaid, gan gynnwys cost presenoldeb pobl, ac unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir

Pa gostau sydd wedi’u cynnwys?

Rhaid i chi gynnwys unrhyw gostau perthnasol sy’n gysylltiedig â phob gweithgaredd. Er enghraifft, os ydych chi’n cynhyrchu taflenni neu’n hysbysebu, rhaid i chi gynnwys y costau dylunio a dosbarthu. Rhaid i chi hefyd gynnwys unrhyw gostau gweinyddol neu orbenion sy’n gysylltiedig â phob gweithgaredd.

Mae canllawiau ar y costau perthnasol sy’n gysylltiedig â phob gweithgaredd wedi’u cynnwys yn yr adrannau canlynol. Nid yw’n rhestr gynhwysfawr. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch costau gorbenion penodol, cysylltwch â ni am gyngor.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Medi 2025