Trafnidiaeth o ran hyrwyddo neu roi cyhoeddusrwydd i’ch plaid
Cludo gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr
Mae’n cynnwys cost cludo:
gwirfoddolwyr
aelodau’r blaid, gan gynnwys aelodau o staff
ymgyrchwyr eraill
o amgylch yr ardal etholiadol, neu i’r ardal etholiadol ac oddi yno, gan gynnwys cost:
tocynnau ar gyfer unrhyw drafnidiaeth, gan gynnwys unrhyw ffi archebu
llogi unrhyw drafnidiaeth
tanwydd neu drydan ar gyfer unrhyw drafnidiaeth
parcio ar gyfer unrhyw drafnidiaeth
lle maent yn ymgymryd ag ymgyrchu ar ran y blaid.
Mae’n cynnwys cost trafnidiaeth sy’n cael ei thalu gan unrhyw unigolyn, plaid wleidyddol neu drydydd parti arall a delir neu ad-delir gan y blaid wleidyddol neu drydydd parti, lle roedd yr unigolion a oedd yn cael eu cludo yn ymgyrchu neu’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â'r ymgyrch ar gyfer y blaid.
Costau eraill sydd wedi’u cynnwys
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio, neu logi, unrhyw gerbyd neu ddull arall o drafnidiaeth sy’n arddangos deunydd i hyrwyddo’r blaid, gan gynnwys unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â:
dylunio a chymhwyso’r dyluniad i’r cerbyd neu’r dull trafnidiaeth
teithio rhwng ardaloedd etholiadol
teithio o gwmpas ardal etholiadol
ffioedd parcio lle caiff cerbyd ei ddefnyddio i arddangos deunydd
Mae’n cynnwys cyfran o gost:
swyddfa
ardrethi busnes
trydan
rhentu ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
pan mae’r rhain yn gysylltiedig â chynllunio, archebu neu ddefnyddio trafnidiaeth o unrhyw fath, neu pan mae cerbyd neu ddull trafnidiaeth yn cael ei baratoi at ddefnydd mewn ardaloedd etholiadol. Er enghraifft, cost dylunio a chymhwyso’r dyluniad sy’n hyrwyddo’r blaid ar ochr bws.
Mae’n cynnwys yr holl gostau trafnidiaeth sy’n gysylltiedig â materion gwariant eraill. Er enghraifft, cludo rhywun i rali.