Etholiad Senedd 2026: Gwariant plaid
Deunydd digymell a anfonir at etholwyr
Costau sy’n gysylltiedig â chael gwybodaeth a thargedu neu adnabod pleidleiswyr, gan gynnwys costau cronfeydd data
Mae hyn yn cynnwys cost cyrchu, cael, prynu, datblygu neu gynnal:
- meddalwedd TG neu gronfeydd data cyswllt
- unrhyw wybodaeth, drwy ba bynnag ffordd
a ddefnyddir i hwyluso’r broses o anfon deunydd digymell i bleidleiswyr.
Er enghraifft, prynu cyfeiriadau e-bost.
Mae’n cynnwys y gost o gyrchu, cael neu ddatblygu setiau data, gan gynnwys dadansoddi data i dargedu pleidleiswyr drwy ba bynnag ffordd, gan gynnwys cost meddalwedd, asiantaethau, sefydliadau neu eraill sy’n adnabod grwpiau o bleidleiswyr, drwy ba bynnag ffordd.
Er enghraifft, cost unrhyw asiantaeth a delir i ddadansoddi cynnwys cyfryngau cymdeithasol er mwyn hwyluso targedu pleidleiswyr ar draws ardaloedd etholiadol a chost modelu gan unrhyw asiantaeth yn seiliedig ar y dadansoddiad hwnnw.
Mae’n cynnwys cost unrhyw wasanaethau i adnabod pleidleiswyr sy’n cael eu prynu, eu datblygu neu eu darparu cyn y cyfnod a reoleiddir, ond sy’n cael eu defnyddio i dargedu pleidleiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Pan geir gwybodaeth neu fynediad at wybodaeth gan drydydd parti, mae'r gost fasnachol o gael y wybodaeth honno gan y trydydd parti wedi’i chynnwys.
Costau sy’n gysylltiedig â pharatoi, cynhyrchu neu ddosbarthu deunydd digymell a anfonir at bleidleiswyr, gan gynnwys drwy ddulliau digidol
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio, neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safleoedd neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso cynhyrchu deunydd hysbysebu digymell
- rhannu’r deunydd digymell drwy ddosbarthu neu drwy ddull arall, gan gynnwys unrhyw gost a briodolir i gynyddu gwelededd deunydd mewn unrhyw ffordd.
Mae’n cynnwys y gost o ddanfon deunydd mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys dulliau electronig neu ddosbarthu deunyddiau yn ffisegol, er enghraifft cost amlenni a stampiau neu gost prynu system i anfon e-byst.
Mae’n cynnwys y gost o gyrchu, prynu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy’n hyrwyddo neu’n cynyddu gwelededd unrhyw ddeunydd digymell ar unrhyw blatfform.
Er enghraifft, taliad i ddatblygwr greu ap sy’n hwyluso’r gwaith o dargedu deunydd y blaid ar sianel cyfryngau cymdeithasol.
Mae’n cynnwys y gost o oruchwylio a chynnal yr holl gyfryngau cymdeithasol, cyfryngau digidol neu ddulliau eraill o ddosbarthu deunydd digymell. Mae hyn yn cynnwys cynnal yr holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys y rhai a gynhelir gan endid/unigolyn arall.
Anerchiad etholiadol
Mae gan swyddog enwebu pob plaid yr hawl i gostau postio am ddim i anfon dau anerchiad etholiadol at bleidleiswyr yn yr etholaeth. Rhaid i’r anerchiad gynnwys materion sy’n gysylltiedig â’r etholiad yn unig.1
Rhaid adrodd am gostau cynhyrchu’r anerchiadau etholiadol hyn fel gwariant plaid.
Costau eraill sydd wedi’u cynnwys
Mae’n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunydd digymell.
Mae’n cynnwys cost papur neu unrhyw gyfrwng arall y caiff deunydd digymell ei argraffu arno.
Mae’n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar arall sy’n gysylltiedig â:
- pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso’r gwaith o gynhyrchu’r deunydd digymell
- rhannu deunydd digymell drwy ddosbarthu neu drwy unrhyw fodd arall
Mae’n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:
- cyfarpar llungopïo
- cyfarpar argraffu
i'w defnyddio i argraffu deunydd digymell.
Mae’n cynnwys cyfran berthnasol o gost:
- swyddfa
- ardrethi busnes
- trydan
- rhentu ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
- sy’n gysylltiedig â pharatoi, cynhyrchu, rhannu a dosbarthu deunydd digymell.
Mae’n cynnwys cost bwyd a/neu lety ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaethau mewn perthynas â deunydd digymell ar gyfer y blaid, lle telir neu ad-delir hynny gan y blaid.
Costau nad ydynt wedi’u cynnwys
Nid yw’n cynnwys unrhyw gost sy’n gysylltiedig â chael data fel y caniateir dan unrhyw statud neu reoliad.
Er enghraifft, mae gan bleidiau gwleidyddol yr hawl i gopi o’r gofrestr etholiadol yn ôl rheoliad 102 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001. Nid oes angen cyfrifo am unrhyw wariant tybiannol o ran defnyddio cofrestr o’r fath.
- 1. Erthygl 67, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1