| Argraffu'r canllawiau llawn

Terfynau amser ar gyfer derbyn a thalu anfonebau

Mae terfynau amser y mae’n rhaid i’r person cyfrifol dderbyn a thalu’r holl anfonebau ar gyfer eich gwariant ymgyrch.

Derbyn anfonebau gan gyflenwyr

Rhaid i chi gael eich holl anfonebau gwariant ar ymgyrch gan gyflenwyr cyn pen 30 diwrnod o’r etholiad.1  Gan fod y dyddiad hwn yn disgyn ar benwythnos, caiff ei symud i’r diwrnod gwaith nesaf.2

Y diwrnod olaf i dderbyn anfonebau gan eich cyflenwyr yw Dydd Llun 8 Mehefin 2026.

Gelwir anfonebau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn hawliadau heb eu talu at ddibenion adrodd. Rhaid i chi gofnodi hawliadau heb eu talu yn eich ffurflen wariant. 

Ni ddylech dalu hawliadau heb eu talu oni bai bod gorchymyn llys sy’n eich galluogi chi i wneud hynny. Gelwir hyn yn ganiatâd i dalu ac mae modd ei geisio gennych chi neu’r cyflenwr sy’n gwneud cais i’r llys perthnasol cyn y taliad.3

Talu anfonebau gan gyflenwyr

Rhaid i chi dalu eich holl anfonebau gan gyflenwr cyn pen 60 diwrnod o’r etholiad.  Y diwrnod olaf i dalu anfonebau yw dydd Llun 6 Gorffennaf 2026.

Gelwir anfonebau a dderbynnir ar amser ond sy'n parhau i fod heb eu talu ar ôl y dyddiad cau hwn yn hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch. Rhaid i chi gofnodi hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch yn eich ffurflen wariant. 

Ni ddylech dalu hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch oni bai bod gorchymyn llys sy’n eich galluogi chi i wneud hynny. Gelwir hyn yn ganiatâd talu ac mae modd ei geisio gennych chi drwy wneud cais i’r llys perthnasol cyn y taliad. Gall cyflenwyr hefyd wneud cais i’r llys perthnasol i gael dyfarniad neu orchymyn llys am daliad.4

Gorfodaeth

Efallai y byddwn yn cyhoeddi sancsiwn sifil am dorri’r rheolau hyn.

Fodd bynnag, ni fyddwn fel arfer yn ystyried cymryd camau gorfodi i fod yn gymesur pan mae’r oedi neu’r swm yn fach.

Mae penderfyniadau terfynol ar erlyniad am dderbyn a thalu anfonebau yn hwyr yn cael eu gwneud gan Wasanaeth Erlyn y Goron. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Medi 2025