Mae’r swm uchaf y gallwch ei wario ar ymgyrchu yn ystod y cyfnod a reoleiddir yn seiliedig ar nifer yr ymgeiswyr sydd gennych yn sefyll ym mhob etholaeth.
Mae 16 etholaeth yng Nghymru. Mae chwe sedd ym mhob etholaeth, ond gall plaid gyflwyno hyd at wyth ymgeisydd ar eu rhestr ar gyfer etholaeth.
Mae pob etholaeth y mae eich plaid yn ei frwydro yn ychwanegu swm at eich terfyn gwariant, yn seiliedig ar nifer yr ymgeiswyr sydd gennych yn sefyll yn yr etholaeth honno. Mae’r terfyn gwariant yn derfyn cenedlaethol. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi roi eich gwariant i etholaethau penodol. Nid oes terfyn gwariant i etholaethau.
Ar gyfer pob etholaeth rydych yn sefyll ynddi, rydych yn ychwanegu rhwng £52,500 a £70,000 i’ch terfyn gwariant, fel y nodir yn y tabl isod.1
Os oes gennych o leiaf chwe ymgeisydd yn sefyll mewn etholaeth, byddwch yn cael uchafswm o £70,000.
Nifer yr ymgeiswyr
Cyfanswm a ychwanegir at y terfyn gwariant
1
£52,500
2
£56,000
3
£59,500
4
£63,000
5
£66,500
6-8
£70,000
Os yw eich plaid yn sefyll o leiaf chwe ymgeisydd ym mhob etholaeth, bydd cyfanswm eich terfyn gwariant yn £1,120,000: £70,000 × 16 = £1,120,000
Er enghraifft, mae eich plaid yn brwydro chwe etholaeth. Mewn un etholaeth rydych yn sefyll wyth ymgeisydd, mewn tair etholaeth rydych yn sefyll chwe ymgeisydd, ac mewn dwy etholaeth dim ond un ymgeisydd rydych yn sefyll. Mae pob un o'r pedair etholaeth rydych yn sefyll o leiaf
chwe ymgeisydd yn cyfrannu £70,000 at eich terfyn gwariant. Mae pob un o'r ddwy etholaeth rydych yn sefyll un ymgeisydd yn cyfrannu £52,500 at eich terfyn.
Eich terfyn gwariant cenedlaethol yw (4 x £70,000) + (2 x £52,500) = £385,000