| Argraffu'r canllawiau llawn

Treuliau personol ymgeiswyr

Mae gwariant ar hyrwyddo ymgeiswyr rhestr plaid yn cyfrif tuag at derfyn gwariant ymgyrch y blaid a rhaid i’r blaid adrodd amdano. 

Gall ymgeiswyr sy’n sefyll ar restr plaid ysgwyddo treuliau personol. Mae treuliau personol yn cynnwys treuliau byw a theithio rhesymol yr ymgeisydd at ddibenion yr etholiad ac mewn perthynas â’r etholiad.1  Yr unig adeg y bydd y treuliau hyn yn cyfrif tuag at derfyn gwariant y blaid yw os bydd y blaid yn ad-dalu’r ymgeisydd am y treuliau personol. 

Mae treuliau personol yn adroddadwy drwy gydol y cyfnod a reoleiddir. Unwaith y byddant yn ymgeisydd swyddogol, dim ond hyd at £900 y gall ymgeiswyr ei wario ar dreuliau personol. Rhaid i unrhyw dreuliau personol ychwanegol gael eu talu gan drysorydd y blaid.2  Nid oes terfyn ar faint y gall ymgeiswyr ei dalu am dreuliau personol cyn iddynt ddod yn ymgeisydd yn swyddogol. 

Rhaid i ymgeiswyr ar restr plaid gyflwyno datganiad i'r Swyddog Canlyniadau i roi gwybod am gyfanswm y treuliau personol a dalwyd ganddynt yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r datganiad hwn yw o fewn 35 diwrnod i gyhoeddi canlyniad yr etholiad.3  Ni ddylai'r ymgeisydd gynnwys unrhyw dreuliau personol a dalwyd neu a ad-dalwyd gan y blaid yn y datganiad.4

Am ragor o wybodaeth, gweler y Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Rhagfyr 2025