Os oes gennych chi hawl i ddarllediad gwleidyddol plaid, rhaid i chi gynnwys costau cynhyrchu fel gwariant ar ymgyrch. Nid oes angen i chi gynnwys gwerth yr amser ar yr awyr.
Rhaid i chi gynnwys cost defnyddio, neu logi, unrhyw:
asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
safleoedd neu gyfleusterau
cyfarpar
a ddefnyddir i baratoi, cynhyrchu neu hwyluso’r gwaith o gynhyrchu’r cynnwys neu i ddarlledu’r cynnwys.
Gorbenion a chostau cysylltiedig
Mae’n cynnwys cost unrhyw feddalwedd o unrhyw fath a ddefnyddir ar unrhyw ddyfais ar gyfer dylunio a chynhyrchu deunyddiau yn fewnol.
Er enghraifft, ffi drwyddedu ar gyfer rhaglen feddalwedd i’w defnyddio i ddylunio cynnwys darlledu.
Mae’n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar ar gyfer paratoi, cynhyrchu, hwyluso cynhyrchiad neu ddarlledu’r cynnwys.
Mae’n cynnwys cyfran berthnasol o gost:
swyddfa
ardrethi busnes
trydan
rhentu ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
sy’n gysylltiedig â pharatoi, cynhyrchu, hwyluso cynhyrchiad a/neu ddarlledu’r cynnwys.
Mae’n cynnwys cost bwyd a/neu lety ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaethau mewn perthynas â darlledu ar gyfer y blaid, lle telir neu ad-delir hynny gan y blaid.