Pan ysgwyddir gorbenion perthnasol a chostau cysylltiedig, y swm sy’n cyfrif fel gwariant ar ymgyrch yw’r gyfran sy’n adlewyrchu’n rhesymol y defnydd yn ystod yr ymgyrch. Y gyfran honno sydd rhaid ei chynnwys yn y ffurflen ac sy’n cyfrif tuag at y terfyn gwariant.1
Mae hyn yn berthnasol i eitemau fel:
swyddfeydd
ardrethi busnes
biliau trydan
darparu llinellau ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
darparu cyfarpar swyddfa o unrhyw fath
Yn gyffredinol, y gyfran sy’n adlewyrchu defnydd yn rhesymol yw’r swm a ysgwyddir y tu hwnt i’r costau arferol o fewn cyfnod penodol.
Er enghraifft, mae plaid yn talu swm safonol pob mis am drydan. Yn y cyfnod cyn yr etholiad, mae’n ysgwyddo swm ychwanegol sy’n uwch na’r hyn fyddai’n ei dalu fel arfer. Y swm ychwanegol yw’r swm y mae’n rhaid adrodd amdano yn y ffurflen.
Er enghraifft, mae gan blaid gontract ar gyfer band eang am swm penodol pob mis. Er bod y blaid yn defnyddio band eang yn ystod y cyfnod a reoleiddir, mae’r pris yn aros yr un fath â’r arfer. Felly, nid oes angen adrodd am unrhyw wariant yn y ffurflen.
TAW
Os ydych chi wedi talu TAW ar eitem, rhaid i chi gynnwys hwn wrth adrodd am gostau’r eitem yn eich ffurflen. Rhaid i chi gynnwys TAW hyd yn oed os gellir ei adennill fel traul busnes.
Efallai na fydd anfonebau ar gyfer taliadau a wnaed i gwmnïau tramor yn cynnwys TAW bob amser. Os ydych chi wedi talu TAW, dylech gynnwys hwn fel rhan o gost yr eitem wrth adrodd, hyd yn oes nad yw TAW wedi’i gynnwys ar yr anfoneb.
Er enghraifft, rydych yn talu i ddeunydd digidol gael ei gyhoeddi fel hysbyseb ar blatfform cyfryngau cymdeithasol a leolir dramor. Rydych yn talu TAW ar yr hysbysebion, ond nid yw eich anfoneb yn cynnwys TAW. Rhaid i chi gynnwys y TAW a daloch wrth adrodd am gostau’r hysbysebion yn eich ffurflen.
Pa gostau nad ydynt wedi’u cynnwys?
Nid oes angen adrodd am gostau dŵr, nwy, treth y cyngor a gofal plant. Ni ystyrir bod ganddynt gysylltiad digon agos â gweithgareddau ymgyrch a reoleiddir.