| Argraffu'r canllawiau llawn

Gwariant tybiannol

Weithiau, efallai y byddwch yn defnyddio rhywbeth yn eich ymgyrch na fu’n rhaid i chi wario arian arno, oherwydd ei fod wedi ei roi i chi fel rhodd mewn da, am ddim neu am ostyngiad anfasnachol. 

Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd bod y cyflenwr yn cefnogi eich ymgyrch. 

Mae rhai enghreifftiau o rodd mewn da yn cynnwys:

  • lle mewn neuadd ar gyfer digwyddiad
  • argraffu
  • darparu bwyd a thrafnidiaeth i wirfoddolwyr

Pan mae hyn yn digwydd, mae gwerth masnachol llawn o’r hyn a ddefnyddiwyd gennych yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant a rhaid adrodd arno.1

Gelwir hyn yn ‘wariant tybiannol’. 

Mae’n rhaid bodloni pum prawf er mwyn i eitem (h.y. nwyddau, cyfleuster neu wasanaeth) gyfrif fel gwariant tybiannol:

  1. ei bod yn cael ei throsglwyddo i chi neu ei darparu i’w defnyddio gennych chi neu er eich budd chi 
  2. rydych yn derbyn yr eitem am ddim neu ar ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%
  3. mae’r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y gyfradd fasnachol a’r hyn rydych chi’n ei dalu dros £200
  4. mae'r eitem yn cael ei defnyddio gan y blaid neu ar ei rhan
  5. byddai wedi bod yn wariant ymgyrch pe byddech chi wedi ysgwyddo’r gwariant (gweler Pa weithgareddau sy’n cyfrif fel gwariant?)

Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wariant tybiannol hefyd yn rhodd i’r blaid os yw’n fwy na £500, a rhaid adrodd amdano ar wahân. Gweler ein canllawiau ar ragor o wybodaeth am roddion i bleidiau gwleidyddol.

Os byddwch yn derbyn eitemau am ddim, yna mae’n rhaid i chi gofnodi gwerth marchnad llawn yr eitem os yw’n fwy na £200.

Os byddwch yn derbyn eitemau am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10% ac mae’r gwahaniaeth mewn gwerth yn fwy na £200, rhaid i chi gynnwys gwerth y gwariant fel gwariant tybiannol. Rhaid i'r swm rydych yn ei dalu mewn gwirionedd gael ei gynnwys fel gwariant plaid arferol.

Gostyngiadau masnachol ac anfasnachol

Dim ond i ostyngiadau anfasnachol sy’n ostyngiadau arbennig a roddwyd i chi, yn benodol, gan gyflenwyr, mae gwariant tybiannol yn berthnasol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfradd arbennig nad yw ar gael ar y farchnad agored.

Mae’r rhain yn wahanol i ostyngiadau masnachol sydd ar gael i bob cwsmer, fel gostyngiadau ar gyfer archebion mawr neu ostyngiadau tymhorol. Ni fydd eitemau, nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu prynu gyda gostyngiadau masnachol yn cael eu trin fel gwariant tybiannol. 

Defnydd gan y blaid neu ar ei rhan

Os ydych yn cael eitem ond nid ydych yn ei defnyddio, bydd hon yn parhau i fod yn rhodd os yw’r gwerth dros £500, ond ni fydd yn wariant tybiannol.2

Yr unig adeg y mae person yn gwneud defnydd o rywbeth ar ran plaid wleidyddol yw pan mae’r defnydd hwnnw wedi’i gyfarwyddo, ei awdurdodi neu ei annog gan y blaid, y person cyfrifol, neu un o’i ddirprwyon.3

Prisio gwariant tybiannol 

Os yw’r cyflenwr yn ddarparwr masnachol, dylech ddefnyddio'r cyfraddau y mae’n eu codi ar gwsmeriaid eraill. Os nad yw’r wybodaeth hon ar gael, dylech ganfod faint mae darparwyr tebyg yn ei godi am yr un nwyddau neu wasanaethau a defnyddio hwn fel y gwerth masnachol. 

Dylech gadw cofnod o sut y gwnaethoch chi bennu'ch prisiad a chadw copïau o unrhyw ddyfynbrisiau a dderbynioch. 

Dylai’r gwerth rydych yn ei ddatgan ar eich ffurflen wariant fod yn asesiad gonest a rhesymol o’r gwerth masnachol.

Er enghraifft, darperir swyddfa i chi gynnal eich ymgyrch ohoni am ddim, ac rydych yn ei defnyddio am bedwar mis o’r cyfnod a reoleiddir. 

Byddech yn cyfrifo ac yn adrodd y gwariant tybiannol fel y nodir isod: 

Cyfradd fasnachol ar gyfer rhent misol: £1,200

Gwerth masnachol pedwar mis o rent: £1,200 x 4 = £4,800

Gwariant tybiannol i'w adrodd: £4,800

Gweler yma am ganllawiau ar brisio rhodd: Sut ydych chi’n cyfrifo gwerth rhodd? 

Staff ar secondiad

Os yw cyflogwr yn rhoi aelod staff ar secondiad i’ch ymgyrch, rhaid i chi gofnodi ei gyflog gros ac unrhyw lwfansau ychwanegol fel y gwerth tybiannol.

Nid oes angen i chi gynnwys cyfraniadau pensiwn nac yswiriant gwladol y cyflogwr.4

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Medi 2025