| Argraffu'r canllawiau llawn

Rheoli gwariant ar ymgyrch

Pwy sy’n gyfrifol am wariant ymgyrch plaid?

Fel arfer, trysorydd cofrestredig plaid sy’n gyfrifol am sicrhau bod y blaid yn dilyn y cyfreithiau ar wariant ymgyrch.1   Fodd bynnag, os yw plaid wedi cofrestru swyddog ymgyrch, y person hwn sy’n gyfrifol am wariant ymgyrch yn hytrach.2

Gallwch benodi dirprwyon i gynorthwyo gyda rhai o’ch cyfrifoldebau. Gallwch wneud hyn ar PEF Ar-lein neu drwy ddefnyddio Ffurflen RP5.

Awdurdodi a thalu treuliau ymgyrch

Yr unig rai a all ysgwyddo a thalu am wariant ymgyrch plaid yw’r person cyfrifol sydd wedi'i gofrestru gyda ni, ei ddirprwyon, a phobl a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y person cyfrifol.3

Drwy'r term ‘ysgwyddo’ rydym yn golygu gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario’r arian. Er enghraifft, gall rhywun gael ei awdurdodi i wario arian ar eitemau penodol, neu hyd at swm penodol.

Rydych yn ysgwyddo gwariant etholiad pan rydych yn dod yn rhan o drafodiad gyda chyflenwr ac yn dod yn atebol am dalu am yr eitem, y nwyddau neu’r gwasanaeth y maent wedi ei ddarparu i chi. Er enghraifft, rydych yn prynu gwasanaeth cwmni argraffu i argraffu taflenni, neu rydych yn arwyddo cytundeb i rentu swyddfa.

Yn aml, caiff taliadau eu hysgwyddo a'u talu ar yr un pryd. Er enghraifft, os ydych yn prynu rhywbeth ar-lein neu mewn siop. 

Weithiau, caiff gwariant ei ysgwyddo cyn iddo gael ei dalu. Er enghraifft, os ydych yn cael cwmni digwyddiadau i gynnal eich lansiad maniffesto, ysgwyddir y gwariant pan fyddwch yn gwneud defnydd o’i wasanaethau. Gwneir y taliad hwyrach ymlaen, ar ôl i'r cwmni eich anfonebu ar ôl y digwyddiad.

Bydd gwariant gan y blaid neu ar ei rhan i hyrwyddo ymgeiswyr rhestr plaid yn cyfrif fel gwariant ymgyrch plaid.4  Felly, rhaid i’r person cyfrifol awdurdodi’r treuliau hyn.  

Mae’r cyfreithiau hyn ar waith i sicrhau bod gennych reolaeth o wariant eich plaid a’ch bod yn ei gofnodi ac yn adrodd arno'n gywir. Mae’n bwysig bod gennych brosesau digonol ar waith i’ch galluogi i gadw golwg ar wariant.

Dylech sicrhau bod eich gwirfoddolwyr a’ch ymgyrchwyr yn gwybod pwy all a phwy na all ysgwyddo a thalu costau.

Pleidiau gydag unedau cyfrifyddu

Efallai bod gan eich plaid unedau cyfrifyddu sydd wedi’u cofrestru gyda ni, megis pleidiau etholaeth. Er eu bod yn adrodd am eu cyfrifon ar wahân, mae unedau cyfrifyddu yn parhau’n rhan o’r blaid. 

Mae unrhyw wariant gan neu ar ran uned gyfrifyddu yn wariant gan y blaid.5  Felly, mae’n rhaid iddo gael ei ysgwyddo a’i dalu gan rywun a awdurdodwyd gan y person cyfrifol ac mae’n rhaid iddo ymddangos ar y ffurflen wariant, ynghyd â derbynebau ar gyfer unrhyw eitemau sydd dros £200.6

Mae unrhyw drafodiad rhwng unedau cyfrifyddu, neu rhwng uned gyfrifyddu a’r blaid ganolog, yn drafodiad mewnol. Mae hyn yn cynnwys er enghraifft unrhyw anrhegion, benthyciadau neu werthiannau.

Golyga hyn nad yw’n bosibl i uned gyfrifyddu roi rhodd i’r blaid ganolog. Yn hytrach, byddai hyn yn cael ei ystyried fel y blaid yn symud ei hasedau o gwmpas yn fewnol fyddai hyn.

Yn yr un modd, os yw uned gyfrifyddu yn darparu neu’n trosglwyddo rhywbeth i’r blaid ganolog i'w ddefnyddio yn yr ymgyrch, nid yw hyn yn wariant tybiannol. Y rheswm am hyn yw, gan fod yr uned gyfrifyddu yn rhan o’r blaid, ni all ddarparu na throsglwyddo unrhyw beth nad yw’r blaid eisoes yn berchen arno.

Yn y sefyllfa hon, byddai’r blaid ganolog yn defnyddio rhywbeth y mae eisoes yn berchen arno. Felly, os dyma’r tro cyntaf i blaid ei ddefnyddio, byddai’r gwariant yn cyfrif fel gwariant plaid yn yr etholiad hwn - gweler Defnyddio eitemau.

Er enghraifft, mae gan uned gyfrifyddu lawer iawn o bapur dros ben y mae’n ei roi i’r blaid ganolog i’w ddefnyddio ar gyfer argraffu taflenni. Gan fod y papur eisoes yn eiddo i'r blaid, nid rhodd yw hyn. Rhaid i’r gwariant ar y papur ymddangos yn y ffurflen blaid, a chan ei fod yn werth mwy na £200, rhaid cynnwys yr anfoneb am y papur a brynwyd gan yr uned gyfrifyddu hefyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Medi 2025