Datganiad o dreuliau personol - Ymgeiswyr rhestr plaid
Ar ôl yr etholiad, rhaid i chi gyflwyno datganiad o dreuliau personol i'r Swyddog Canlyniadau. Rhaid cyflwyno hwn o fewn 35 diwrnod o gyhoeddi canlyniad yr etholiad.1
Ni ddylech gynnwys unrhyw dreuliau personol sydd wedi'u talu neu eu had-dalu gan y blaid yn y datganiad.2
Os byddwch y tu allan i'r Deyrnas Unedig pan fydd angen cyflwyno'r datganiad, caiff y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r datganiad ei ymestyn i nid yn hwyrach na 14 diwrnod ar ôl i chi ddychwelyd.3
Rhaid i chi barhau i gyflwyno datganiad hyd yn oed os nad ydych wedi ysgwyddo unrhyw dreuliau personol.
Mae’n drosedd gwneud datganiad ffug yn ymwybodol.4