Return to The Electoral Commission Homepage

Cyflwyniad

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) mae rheolaethau ar y rhoddion y gall plaid wleidyddol gofrestredig eu derbyn a'r benthyciadau y gallant eu trefnu. Rhaid i rai rhoddion a benthyciadau gael eu cofnodi a rhaid rhoi gwybod i ni amdanynt. Rydym yn cyhoeddi manylion y rhoddion a'r benthyciadau y rhoddir gwybod i ni amdanynt mewn cofrestr ar ein gwefan.

Mae rheolau ar wahân sy'n gymwys i bleidiau sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr ac yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r canllawiau i bleidiau sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr. Ar gyfer canllawiau i bleidiau yng Ngogledd Iwerddon, gweler Rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon.

Pwy sy'n cael rhoddion a benthyciadau?

Gwneir rhoddion a benthyciadau i bleidiau gwleidyddol cofrestredig a'u hunedau cyfrifyddu (adrannau o blaid nad yw eu cyllid wedi'i reoli'n uniongyrchol gan bencadlys y blaid).

Rhaid i bleidiau benodi rhywun i gael ei gofrestru â ni fel eu trysorydd. Y trysorydd cofrestredig sy'n gyfrifol am sicrhau bod y blaid yn dilyn y rheolau ar roddion a benthyciadau.

Mae hyn yn cynnwys cynnal systemau addas yn y blaid i sicrhau yr ymdrinnir â rhoddion a benthyciadau'n gywir.

Trysoryddion pleidiau canolog a thrysoryddion unedau cyfrifyddu

Mae trysoryddion pleidiau canolog yn gyfrifol am:

  • sicrhau bod y blaid yn cadw cofnodion cyfrifyddu digonol i ddangos ac esbonio'r trafodion y mae wedi ymrwymo iddynt, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â rhoddion a benthyciadau
  • cymryd pob cam rhesymol i sicrhau y gellir derbyn y rhoddion a'r benthyciadau hyn
  • rhoi gwybod i ni, y Comisiwn Etholiadol, am rai rhoddion a benthyciadau

Nid yw trysoryddion unedau cyfrifyddu yn gyfrifol o dan PPERA am roi gwybod am roddion a benthyciadau, ac nid ydynt yn rhoi gwybod i ni amdanynt ar wahân. Fodd bynnag, dylai trysoryddion unedau cyfrifyddu bob amser ddilyn gweithdrefnau eu plaid. Rhaid iddynt hefyd roi'r holl wybodaeth berthnasol i drysorydd y blaid ganolog pan ofynnir amdani.

I bwy mae'r canllawiau hyn?

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer trysoryddion cofrestredig. Yn y canllawiau hyn, rydym yn defnyddio ‘chi’ pan fyddwn yn cyfeirio at drysorydd cofrestredig plaid a'i gyfrifoldebau.

Rydym yn defnyddio ‘rhaid’ pan fyddwn yn cyfeirio at ofyniad cyfreithiol neu reoliadol penodol. Rydym yn defnyddio ‘dylai’ ar gyfer eitemau sydd yn arfer dda ofynnol yn ein barn ni, ond nad ydynt yn ofynion cyfreithiol.

Diweddariadau i'n canllawiau

Dyddiad y diweddariadDisgrifiad o'r newid
Awst 2024

Diweddarwyd i egluro pryd y mae rhoddion nas caniateir yn adroddadwy

Termau a ddefnyddir yn y canllawiau hyn

Uned gyfrifyddu

Adran o blaid sydd wedi'i chofrestru â'r Comisiwn Etholiadol sy'n gyfrifol am ei chyllid ei hun. Mae gan bob uned gyfrifyddu ei thrysorydd cofrestredig ei hun a swyddog ychwanegol.

Budd

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), defnyddir ‘budd’ i gyfeirio at roddion a benthyciadau sy'n werth dros £500 gyda'i gilydd.

Cymynrodd

Arian neu eiddo a roddir i rywun drwy ewyllys.

Y blaid ganolog

Sefydliad canolog, neu bencadlys, plaid. Mae trysorydd y blaid ganolog yn gyfrifol am sicrhau bod y blaid yn cydymffurfio â'r rheolaethau ariannol o dan PPERA.

Rhodd

O dan PPERA, mae rhodd yn cynnwys arian, nwyddau, neu wasanaethau a roddir i blaid, am ddim neu ar delerau anfasnachol, ac sy'n werth dros £500. 

Mae enghreifftiau cyffredin o roddion yn cynnwys: 

  • rhodd o arian neu eiddo 
  • nawdd i ddigwyddiad neu gyhoeddiad 
  • tanysgrifiad neu daliadau ymlyniad 
  • defnydd am ddim, neu am bris gostyngol arbennig, o swyddfa

Gweler Pa roddion a gwmpesir gan y rheolau? am ragor o wybodaeth.

Nas caniateir

Defnyddir y term ‘nas caniateir’ i gyfeirio at roddion a benthyciadau na all pleidiau eu derbyn/trefnu o dan PPERA. Yn ein canllawiau a'n ffurflenni, byddwn weithiau'n defnyddio'r term ‘trafodion anawdurdodedig’ i gyfeirio at fenthyciadau nas caniateir, sef y term a ddefnyddir yn PPERA.

Benthyciad

O dan PPERA, caiff y mathau canlynol o drafodion eu rheoleiddio, os byddant yn werth dros £500:

  • benthyciadau ariannol 
  • cyfleusterau credyd, megis cardiau credyd a gorddrafftiau 
  • sicrhadau neu warantau ar gyfer rhwymedigaethau plaid i rywun arall 

O dan PPERA, caiff y rhain eu galw'n drafodion a reoleiddir. Yn y canllawiau hyn, defnyddir y term ‘benthyciadau’ i gyfeirio at bob un o'r mathau hyn o drafodion.

Gweler Pa fenthyciadau a gwmpesir gan y rheolau? am ragor o wybodaeth.

Gwerth marchnadol

Y pris y gellid disgwyl yn rhesymol ei dalu am eitem, nwyddau neu wasanaeth pe bai'r eitem ar werth ar y farchnad agored. 

Plaid lai

Plaid sydd wedi'i chofrestru â'r Comisiwn Etholiadol ar gofrestr Prydain Fawr y gall ond ymladd etholiadau cynghorau cymuned a/neu blwyf yng Nghymru a Lloegr, yn y drefn honno. O dan PPERA, nid yw pleidiau llai yn gorfod dilyn y rheolaethau ariannol y mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol cofrestredig gydymffurfio â nhw ac nid oes rhaid iddynt roi gwybod am roddion na benthyciadau.

Etholwr tramor

Dinesydd Prydeinig sy'n byw dramor sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU.

A ganiateir

Defnyddir y term ‘a ganiateir’ i gyfeirio at roddion a benthyciadau y gall pleidiau eu derbyn/trefnu o dan PPERA. Yn ein canllawiau a'n ffurflenni, byddwn weithiau'n defnyddio'r term ‘trafodion awdurdodedig’ i gyfeirio at fenthyciadau a ganiateir, sef y term a ddefnyddir yn PPERA.

CYLLID CYHOEDDUS

Taliadau yw'r rhain gan:

  • Gronfeydd Cyfunol y Deyrnas Unedig, yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon, yn y drefn honno
  • arian a roddir gan y Senedd neu a neilltuir drwy Ddeddf Cynulliad Gogledd Iwerddon
  • unrhyw un o Weinidogion y Goron, Gweinidogion Cymru, Gweinidogion yr Alban neu unrhyw Weinidog o fewn ystyr Deddf Gogledd Iwerddon 1998
  • unrhyw adran o'r llywodraeth (gan gynnwys un o adrannau Gogledd Iwerddon), Llywodraeth Cynulliad Cymru neu unrhyw ran o Weinyddiaeth yr Alban
  • Comisiwn Senedd Cymru, Corff Corfforedig Senedd yr Alban neu Gomisiwn Cynulliad Gogledd Iwerddon
  • y Comisiwn Etholiadol.

Plaid wleidyddol gofrestredig

Plaid sydd wedi'i chofrestru â'r Comisiwn Etholiadol o dan PPERA. Gall pleidiau fod wedi'u cofrestru o dan gofrestr Prydain Fawr neu gofrestr Gogledd Iwerddon a rhaid iddynt gydymffurfio â'r rheolaethau a'r cyfrifoldebau a nodir o dan PPERA.

Cymdeithas anghorfforedig

Cymdeithas â dau unigolyn neu fwy sydd wedi dod ynghyd i gyflawni diben a rennir. Gweler Cymdeithasau anghorfforedig am ragor o wybodaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Pa roddion a gwmpesir gan y rheolau?

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae rhodd yn cynnwys arian, nwyddau, neu wasanaethau a roddir i blaid, am ddim neu ar delerau anfasnachol, ac sy'n werth dros £500.

Mae enghreifftiau cyffredin o roddion yn cynnwys:

  • rhodd o arian neu eiddo 
  • nawdd i ddigwyddiad neu gyhoeddiad 
  • tanysgrifiad neu daliadau ymlyniad 
  • defnydd am ddim, neu am bris gostyngol arbennig, o swyddfa

Rhoddion o £500 neu lai

Mae rhoddion o £500 neu lai y tu allan i gwmpas PPERA ac nid oes angen i chi eu cofnodi na rhoi gwybod amdanynt.

Fodd bynnag, rhaid i chi fod yn effro i sefyllfaoedd lle yr ymddengys fod rhoddwr yn ceisio osgoi PPERA. Mae'n drosedd ceisio osgoi'r rheolaethau ynglŷn â rhoddion. Er enghraifft, os gwneir nifer o roddion o £400 o'r un ffynhonnell mewn amgylchiadau tebyg.

Os credwch y gallai hyn fod yn digwydd, dylech gysylltu â ni am gyngor.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Beth sydd angen i chi ei wneud pan fyddwch yn cael rhodd?

Gwiriadau ar roddion

Dim ond rhoddion gan rai ffynonellau penodol y gellir eu derbyn, sydd wedi'u lleoli yn y DU yn bennaf. Gweler Gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion a benthyciadau? am fanylion ynghylch pa ffynonellau a ganiateir.

Cyn i'ch plaid dderbyn unrhyw rodd sy'n fwy na £500, rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i: 

  • sicrhau eich bod yn gwybod pwy yw'r ffynhonnell wirioneddol
  • cadarnhau bod y rhodd gan ffynhonnell a ganiateir

Faint o amser sydd gennych i gadarnhau a yw rhodd yn un a ganiateir?

Pan fyddwch yn cael rhodd, bydd gennych 30 diwrnod i benderfynu a allwch ei derbyn ai peidio.

Rhaid i chi fodloni eich hun fod y ffynhonnell yn un a ganiateir bob tro y gwneir rhodd, hyd yn oed os byddwch wedi gwneud gwiriadau o'r fath mewn perthynas â rhoddion gan yr un ffynhonnell yn y gorffennol.

Dylech gadw cofnod o'ch holl wiriadau i gadarnhau a yw ffynhonnell yn un a ganiateir er mwyn dangos eich bod wedi dilyn y rheolau.

Os nad yw'r rhodd gan ffynhonnell a ganiateir, neu os na allwch fod yn siŵr pwy yw'r ffynhonnell wirioneddol am unrhyw reswm, darllenwch Beth i'w wneud os byddwch yn cael rhodd gan ffynhonnell nas caniateir neu ffynhonnell anhysbys? i gael canllawiau pellach ar y camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Rhoddion a roddir ar ran eraill a gan ffynonellau anhysbys

Rhoddion ar ran eraill

Os rhoddir rhodd ar ran rhywun arall, rhaid i'r person sy'n rhoi'r rhodd i chi (yr asiant) ddweud wrthych:

  • bod y rhodd ar ran rhywun arall; a  
  • manylion y rhoddwr gwirioneddol

Un enghraifft o rywun yn gweithredu fel asiant yw lle mae trefnydd digwyddiad yn trosglwyddo'r enillion o ginio a gynhaliwyd yn benodol i godi arian ar ran eich plaid.

Os credwch fod rhywun yn gweithredu fel asiant o bosibl, dylech ganfod y ffeithiau fel y gallwch wneud y gwiriadau priodol. Os nad ydych yn siŵr pwy y dylech ei drin fel y rhoddwr, cysylltwch â ni am gyngor.

Cronfeydd ymladd pleidiau lleol

Yn ystod etholiadau, efallai y bydd eich plaid yn cynnal cronfeydd ymladd lleol i ymgeiswyr. Os yw'r gronfa wedi'i rheoli gan y blaid ac nid yr ymgeisydd, caiff rhoddion i'r gronfa eu trin fel rhoddion i'r blaid fel arfer, oni chaiff rhodd ei rhoi'n benodol tuag at ymgyrch etholiadol yr ymgeisydd.

Er enghraifft, mae cangen plaid yn casglu rhoddion i godi arian ar gyfer ymgyrchoedd etholiadol yn yr ardal leol. Os bydd y blaid leol yn nodi'n glir y rhoddir y rhoddion hyn er mwyn talu am dreuliau etholiad yr ymgeisydd, neu os bydd rhoddwr yn nodi bod ei rodd at y diben hwn, yna dylid trin y rhodd fel rhodd i'r ymgeisydd.

Os na roddir rhodd yn benodol er mwyn talu am dreuliau etholiad yr ymgeisydd yn y sefyllfa hon, dylid ei thrin fel rhodd i'r blaid.

Rhoddion gan ffynonellau anhysbys

Os na allwch gadarnhau gan bwy y ceir rhodd, neu ganiatáu ei bod gan ffynhonnell a ganiateir, dylech ei chofnodi a'i dychwelyd. 

Os bydd unrhyw log wedi'i ennill ar y rhodd, gall eich plaid ei gadw am nad yw'n cael ei drin fel rhodd.

Gweler Beth i'w wneud os byddwch yn cael rhodd gan ffynhonnell nas caniateir neu ffynhonnell anhysbys? am ganllawiau ar sut i ddychwelyd rhodd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Pryd y byddwch yn cael ac yn derbyn rhodd?

Pryd y byddwch yn cael rhodd?

Byddwch fel arfer yn ‘cael’ rhodd ar y diwrnod y byddwch yn dod yn berchen arni.

Er enghraifft: 

  • os rhoddir taflenni am ddim i chi, byddwch yn cael y rhodd pan gaiff y taflenni eu trosglwyddo i chi
  • os rhoddir siec i chi, byddwch yn cael y rhodd ar y diwrnod y bydd y siec yn cael ei chlirio
  • os trosglwyddir rhodd yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc, byddwch yn cael y rhodd ar y dyddiad y bydd yr arian yn cyrraedd eich cyfrif

Pryd y byddwch yn derbyn rhodd?

Byddwch yn derbyn rhodd ar y diwrnod y byddwch yn cytuno i gadw'r rhodd. Ar gyfer rhoddion nad ydynt yn rhai ariannol, os byddwch yn defnyddio'r rhodd, byddwch wedi'i derbyn o ganlyniad. Os bydd eich plaid yn cadw rhodd ar ôl y cyfnod o 30 diwrnod, ystyrir hefyd eich bod wedi'i derbyn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Sut mae cyfrifo gwerth rhodd?

Os bydd eich plaid yn cael neu'n gwerthu eitem, nwyddau neu wasanaeth, rhaid i chi gyfrifo'r gwerth marchnadol. Mae'r gwerth marchnadol yn golygu'r pris y gellid disgwyl yn rhesymol ei dalu am yr eitem, y nwyddau neu'r gwasanaeth pe bai/baent ar werth ar y farchnad agored.

Mae angen cyfrifo'r gwerth marchnadol er mwyn penderfynu a wnaed rhodd a beth yw'r gwerth. Nid ystyrir bod unrhyw incwm masnachol y byddwch yn ei ennill o'r trafodion hyn yn rhodd.

Mae'r adran ganlynol yn rhoi canllawiau am sut i asesu gwerth marchnadol nwyddau a gwasanaethau, penderfynu a wnaed rhodd i'r blaid, a chyfrifo gwerth y rhodd.

Nwyddau a gwasanaethau y mae'r blaid yn eu cael

Yn ogystal â rhoddion ariannol, efallai y byddwch hefyd yn cael rhoddion ar ffurf nwyddau a gwasanaethau. Os byddwch yn cael nwyddau neu wasanaethau am ddim, neu am bris gostyngol anfasnachol, rhaid i chi sicrhau bod y rhain yn cael eu prisio ar gyfradd gymharol y farchnad. 

Gostyngiadau anfasnachol yw gostyngiadau arbennig a roddir i'ch plaid, yn benodol, gan gyflenwyr. Mae'r rhain yn wahanol i ostyngiadau masnachol sydd ar gael i bob cwsmer, megis gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol. Dim ond i ostyngiadau anfasnachol y mae'r rheolau ynglŷn â rhoddion yn gymwys.

Os byddwch yn cael nwyddau neu wasanaethau, caiff y rhain eu hystyried fel rhodd os: 

  • bydd gwerth marchnadol y nwyddau neu'r gwasanaethau, os cawsant eu rhoi am ddim, yn fwy na £500, neu
  • bydd swm y gostyngiad anfasnachol yn fwy na £500

Gwerth y rhodd yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth yr hyn a gewch a'r swm (os o gwbl) a dalwch amdano.

Bydd angen i chi wybod gwerth marchnadol yr eitemau neu'r gwasanaethau er mwyn cyfrifo gwerth y rhodd. Fel gyda phob math o rodd, rhaid i chi hefyd sicrhau bod unrhyw rodd rydych yn ei derbyn sydd dros £500 gan roddwr a ganiateir.

Nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu gwerthu gan y blaid

Os bydd eich plaid yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau, rhaid i chi sicrhau bod y rhain yn cael eu prisio ar gyfradd gymharol y farchnad hefyd. 
Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o werth marchnadol y nwyddau a'r gwasanaethau rydych yn eu gwerthu oherwydd os bydd rhywun yn talu mwy na'r gwerth marchnadol, ystyrir bod y gwahaniaeth rhwng y swm y mae'n ei dalu i chi a'r gwerth marchnadol yn rhodd os bydd y swm hwn yn fwy na £500. 

Mae hyn oherwydd y byddwch yn cael unrhyw daliad ychwanegol ar delerau anfasnachol, a bydd y rheolau ynglŷn â rhoddion yn gymwys. Nid yw'r gwerth marchnadol, neu incwm masnachol, yn rhodd.

Yr egwyddor arweiniol

Yr egwyddor arweiniol ym mhob achos yw y dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o werth y nwyddau neu'r gwasanaethau rydych yn eu cael neu'n eu gwerthu.

Os yw'r union eitem neu wasanaeth, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech ddefnyddio'r cyfraddau a godir gan ddarparwyr eraill fel arweiniad wrth brisio. Er enghraifft, os mai darparwr masnachol yw'r rhoddwr, dylech ddefnyddio'r cyfraddau y mae'n eu codi ar gwsmeriaid tebyg eraill.

Os nad yw'r union nwyddau neu wasanaethau, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech seilio eich asesiad ar gyfraddau nwyddau/gwasanaethau cyfatebol rhesymol ar y farchnad. Os byddwch yn dal yn ansicr ynghylch sut y dylech brisio rhodd benodol, cysylltwch â ni am gyngor.

Mae'n ofynnol i'ch plaid gadw cofnodion sy'n dangos ac yn esbonio'r trafodion y mae wedi ymrwymo iddynt. Er mwyn bodloni'r gofyniad hwn, dylech sicrhau eich bod yn cadw cofnod o asesiadau a phrisiadau fel y gallwch esbonio p'un a wnaed rhodd ai peidio. 

Gwerthu gwasanaethau unigryw

Wrth geisio pennu'r gwerth marchnadol, efallai y byddwch hefyd am ystyried y lefel briodol ar y farchnad ar gyfer yr hyn rydych yn ei werthu. 

Er enghraifft, mewn rhai achosion, efallai y bydd yn rhesymol defnyddio prisiad yn seiliedig ar y gwerthoedd uchaf ar y farchnad. Mae hyn yn arbennig o wir mewn achosion lle mae'r gwasanaethau yn unigryw a/neu lle mae gennych rywfaint o fonopoli ar y farchnad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Prisio nwyddau a gwasanaethau: enghreifftiau

Enghraifft 1: sut i fynd ati i brisio gwasanaethau a roddir i blaid

Mae unigolyn yn cysylltu â phlaid gan gynnig i'r blaid ddefnyddio ei eiddo am ddim fel lleoliad ar gyfer digwyddiad cinio gyda'r nos ac arwerthiant. Mae'r blaid yn cadarnhau bod yr unigolyn yn rhoddwr a ganiateir cyn derbyn y cynnig.

Dylai'r blaid chwilio am leoliadau tebyg sydd ar gael i'w llogi ar gyfer digwyddiadau cymharol. Efallai y bydd y blaid am gymharu â lleoliadau yn yr un ardal yn unig.

Mae'r blaid yn dod o hyd i dri lleoliad tebyg sydd ar gael i'w llogi ac mae'n defnyddio'r prisiau a hysbysebir i amcangyfrif gwerth masnachol defnyddio'r eiddo.

Enghraifft 2: sut i fynd ati i brisio gwasanaethau y mae plaid yn eu gwerthu

Mae sefydliad arall yn cysylltu â phlaid i gael cyngor ar sut i gynnal ymgyrchoedd gwleidyddol effeithiol. Mae'r blaid gofrestredig yn penderfynu codi tâl ar y sefydliad am y gwasanaeth hwn. 

I ddechrau, dylai'r blaid chwilio am gyflenwyr sydd union yr un peth, neu gyflenwyr tebyg, sy'n darparu gwasanaethau o'r fath ar y farchnad. Os na all y blaid ddod o hyd i gyflenwr cymharol na gwasanaeth o'r math hwn, dylai chwilio am opsiwn amgen priodol sydd ar gael ar y farchnad. 

Mae'r blaid yn dod o hyd i rai cyflenwyr sy'n darparu gwasanaethau ymgynghori ar gynnal ymgyrchoedd gwleidyddol llwyddiannus.

Mae'r blaid yn nodi tri chwmni sy'n cynnig y mathau hyn o wasanaethau er mwyn amcangyfrif y gwerth masnachol at ddibenion PPERA. Gan fod y gwasanaeth y mae'r blaid yn ei ddarparu yn unigryw, am nad yw ei phrofiad o ymgyrchu etholiadol ar gael yn gyffredin ar y farchnad, gall fod yn briodol i'r blaid ddefnyddio prisiad yn seiliedig ar y gwerthoedd uchaf ar y farchnad yn yr achos hwn. 

Mae'r tair adran nesaf yn rhoi canllawiau ar sut i brisio rhoddion a geir drwy gyllido torfol, gwobrau mewn arwerthiannau a nawdd, a rhoi gwybod amdanynt.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Cyllido torfol

Beth yw cyllido torfol?

Cyllido torfol yw pan ddefnyddir llwyfan ar y we i gasglu rhoddion. Yn gyffredinol, caiff y llwyfan ei reoli gan ddarparwr trydydd parti a bydd gan bob ymgyrch codi arian unigol dudalen ar y wefan. Fel arfer caiff ymgyrchoedd eu cynnal am gyfnod penodol. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, caiff yr arian a godwyd, ar ôl tynnu ffi a delir i'r darparwr, ei drosglwyddo i'r derbynnydd.

Tryloywder 

Dylech sicrhau bod y dudalen we cyllido torfol yn nodi'n glir i bwy y rhoddir yr arian ac at ba ddiben. Er enghraifft, a yw'r arian yn mynd i'ch plaid wleidyddol neu i dalu am wariant eich ymgeisydd ar yr ymgyrch etholiadol. Mae hyn oherwydd bod trothwyon cofnodi ac adrodd gwahanol ar gyfer rhoddion i ymgeiswyr. Mae'r canllawiau hyn yn esbonio'r rheolau ynglŷn â rhoddion cyllido torfol i'r blaid.

Dylech sicrhau bod y dudalen we yn cynnwys gwybodaeth sy'n esbonio y caiff gwiriadau eu cynnal er mwyn sicrhau bod ffynonellau rhoddion yn rhai a ganiateir yn unol â'r rheolau, ac y gall gwybodaeth am roddion, gan gynnwys manylion rhoddwyr, gael eu cyhoeddi. 

Rydym hefyd yn argymell eich bod yn cynnwys argraffnod ar eich tudalen cyllido torfol. 

Canllawiau statudol ar argraffnodau digidol – ledled y DU

Argraffnodau ar ddeunydd argraffedig: Pleidiau gwleidyddol yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Yr hyn a ganiateir

Dim ond o ffynhonnell a ganiateir y gallwch dderbyn rhoddion dros £500.

Fel gyda phob math o rodd, mae gennych 30 diwrnod i gynnal gwiriadau er mwyn cadarnhau bod ffynhonnell y rhodd yn un a ganiateir a phenderfynu a allwch dderbyn y rhodd. Y dyddiad derbyn yw'r dyddiad y byddwch yn cael y cyllid o'r wefan cyllido torfol.

Ni chaiff arian a roddir i blaid drwy dudalen we cyllido torfol sy'n £500 neu'n llai ei ystyried yn rhodd o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ac nid oes rhaid rhoi gwybod amdano.

Fodd bynnag, pan fyddwch yn derbyn rhoddion, rhaid i chi fod yn ymwybodol o sefyllfaoedd lle mae'n ymddangos bod rhoddwr yn ceisio osgoi'r rheolau ynglŷn â rhoddion. Er enghraifft, os bydd rhywun yn gwneud sawl rhodd o £500 neu lai mewn ymgais i osgoi'r rheolau ynglŷn â rhoddion a ganiateir. Mae'n drosedd ceisio osgoi'r rheolaethau ynglŷn â rhoddion. Os ydych yn bryderus y gallai hyn fod yn digwydd, cysylltwch â ni i gael cyngor.

Dylech sicrhau bod gennych ddigon o wybodaeth gan ddarparwr y llwyfan cyllido torfol a'ch bod yn cadw eich cofnodion mewn ffordd sy'n eich galluogi i ganfod a oes sawl rhodd wedi dod o'r un ffynhonnell. 

Rhaid i chi gasglu gwybodaeth ddigonol gan bob rhoddwr i sicrhau y gallwch gadarnhau'n briodol fod pob rhodd gan ffynhonnell a ganiateir. Dylech nodi'n glir ar y dudalen we mai dyma'r rheswm rydych yn casglu unrhyw wybodaeth. Os nad ydych yn siŵr pwy yw'r rhoddwr gwirioneddol, rhaid i chi beidio â derbyn y rhodd. Ni allwch dderbyn rhoddion dienw dros £500.

Rhaid i chi hefyd gasglu gwybodaeth ddigonol i gydymffurfio â gofynion adrodd.

Cryptoarian

Arian cyfred digidol sy'n gweithredu'n annibynnol ar unrhyw fanc neu awdurdod canolog yw cryptoarian.

Mae'r un rheolau'n berthnasol i roddion a geir mewn cryptoarian ag unrhyw roddion eraill. Rhaid casglu gwybodaeth ddigonol er mwyn cadarnhau bod rhoddion yn rhai a ganiateir. Rhaid bod ffordd o brisio unrhyw rodd a geir mewn unrhyw gryptoarian.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Astudiaeth achos

Mae plaid wleidyddol yn penderfynu codi arian i wario ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir drwy wefan cyllido torfol. 

Mae'r blaid yn ymrwymo i gytundeb â'r wefan cyllido torfol sy'n gosod 5 Ionawr fel terfyn amser a tharged o £40,000. 

Yna mae'r blaid yn llunio tudalen we sy'n cynnwys: 

  • argraffnod priodol 
  • cyngor yn nodi y caiff gwiriadau eu cynnal mewn perthynas â rhoddion dros £500 er mwyn sicrhau eu bod o ffynonellau a ganiateir
  • cyngor yn nodi na ellir derbyn rhoddion dienw dros £500
  • cyngor yn nodi ei bod yn drosedd ceisio osgoi'r rheolau ynglŷn â rhoddion 
  • gwybodaeth yn nodi y caiff manylion rhoddion sydd dros y trothwy adrodd, gan gynnwys pwy yw'r rhoddwr, eu cyhoeddi ar wefan y Comisiwn Etholiadol (gweler Pa roddion a benthyciadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt?)

Mae'r blaid wedi dewis gwefan cyllido torfol sy'n casglu digon o wybodaeth gan roddwyr i sicrhau y gall fodloni ei rhwymedigaethau cofnodi ac adrodd. 

Ar ôl cyrraedd y swm targed, mae'r blaid yn cael y cyllid ar 5 Ionawr ynghyd â manylion y rhoddion unigol a roddwyd gan ddarparwr y llwyfan cyllido torfol. Mae'r rhoddion yn cynnwys: 

  • rhodd o £550 ar y dudalen we cyllido torfol ar 17 Rhagfyr 
  • rhodd o £12,000 ar y dudalen we cyllido torfol ar 10 Rhagfyr 
  • 3 rhodd o £4,000 gan yr un ffynhonnell ar y dudalen we cyllido torfol ar 10 Rhagfyr, 17 Rhagfyr a 3 Ionawr 
  • sawl rhodd arall rhwng £500 a £1,000 gan ffynonellau y gellir eu hadnabod ar y dudalen we cyllido torfol yn ystod y cyfnod targed 

Dylai'r blaid ddechrau cynnal gwiriadau i sicrhau bod y rhoddion gan ffynonellau a ganiateir ar 5 Ionawr oherwydd dyma'r dyddiad derbyn. 

Mae'r rhodd o £550 gan ffynhonnell ddienw. Mae'r blaid yn dychwelyd y rhodd i'r sefydliad ariannol y cafwyd y rhodd ganddo yn wreiddiol cyn diwedd y cyfnod 30 diwrnod ar gyfer cynnal gwiriadau er mwyn sicrhau bod rhoddion gan ffynonellau a ganiateir. 

Mae'r blaid yn derbyn y rhodd o £12,000 ar ôl cynnal gwiriad i sicrhau ei bod gan ffynhonnell a ganiateir. Mae'r rhoddwr yn cael gwybod o'r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen we y caiff ei enw ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn Etholiadol

Mae'r blaid yn cydgrynhoi'r tair rhodd o £4,000 gan yr un ffynhonnell ar ôl cynnal gwiriadau i gadarnhau bod y ffynhonnell yn un a ganiateir, ac yn eu derbyn. Mae'r rhoddwr yn cael gwybod o'r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen we y caiff ei enw ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn Etholiadol. 

Mae'r blaid yn derbyn y rhoddion rhwng £500 a £1,000 ar ôl cynnal gwiriadau i gadarnhau bod y ffynonellau yn rhai a ganiateir. Mae'r blaid yn cofnodi'r rhoddion hyn ond nid yw'n ofynnol iddi roi gwybod amdanynt am nad ydynt yn cyrraedd y trothwy adrodd.

Mae'r blaid yn rhoi gwybod am yr un rhodd o £12,000 a'r tair rhodd o £4,000 gan yr un ffynhonnell a gydgrynhowyd am fod y rhain yn cyrraedd y trothwy adrodd o £11,180. Caiff manylion y rhoddion hyn eu cyhoeddi'n ddiweddarach ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Ebrill 2024

Gwobrau arwerthiant

Beth yw gwobr arwerthiant? 

Gwobr arwerthiant yw unrhyw beth a roddir i'w werthu neu a gaiff ei werthu i godi arian. Er enghraifft, gall gwobrau arwerthiant gynnwys ceir, y defnydd o gartrefi gwyliau, gwaith celf, neu wasanaethau megis darparu cogydd am noson. 

Rhaid i chi brisio'r wobr fel y gallwch benderfynu a yw'n cyfrif fel rhodd. Os yw'n rhodd, rhaid i chi gadarnhau y gallwch ei derbyn, ei chofnodi ac, mewn rhai achosion, roi gwybod i ni, y Comisiwn Etholiadol, amdani.

Gall gwobrau arwerthiant fod yn: 

  • eitemau diriaethol, neu'n
  • fuddion neu'n wasanaethau anniriaethol

Gall fod yn hawdd dod o hyd i werth gwobrau arwerthiant diriaethol ac anniriaethol. Er enghraifft, gall gwobr fod yn eitem fel car sydd â phris manwerthu argymelledig. Gall fod yn anos pennu gwerth gwobr megis llun wedi'i lofnodi gan ffigur gwleidyddol blaenllaw.

Gwobrau raffl

Mae egwyddorion tebyg yn gymwys i eitemau neu wasanaethau a geir a ddefnyddir yn ddiweddarach fel gwobrau mewn raffl.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Yr egwyddor arweiniol

Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu a oes angen i chi drin gwobr arwerthiant fel rhodd. Yr egwyddor arweiniol ym mhob achos yw y dylech gynnal asesiad gonest, yn seiliedig ar y ffeithiau, o werth yr eitem neu'r gwasanaeth a ddefnyddir fel gwobr mewn arwerthiant neu raffl. 

Bydd hyn yn syml ar gyfer y rhan fwyaf o eitemau. Fodd bynnag, bydd yn fwy cymhleth i rai. Bydd yr enghreifftiau yn yr adran nesaf yn eich helpu i ddeall sut y dylech fynd ati i gynnal eich asesiad. 

Pryd y mae gwobr arwerthiant yn rhodd?

Dylid ystyried a yw gwobrau arwerthiant yn rhoddion yn unol â'r ddwy elfen ganlynol:

  • pryd y byddwch yn cael eitem neu wasanaeth ar gyfer arwerthiant
  • pryd rydych yn arwerthu'r eitem neu'r gwasanaeth

Cael y wobr

Mae angen i chi roi gwybod am wobr arwerthiant pan fyddwch yn cael gwobr ar gyfer arwerthiant naill ai am ddim neu am ostyngiad anfasnachol. Mae hyn yn cyfrif fel rhodd i chi: 

  • os yw gwerth y wobr, os rhoddir yr eitem am ddim, yn fwy na £500, neu,
  • os yw swm y gostyngiad yn fwy na £500

Os rhoddir yr eitem am ddim, swm y rhodd fydd gwerth yr eitem. Os rhoddir yr eitem am ostyngiad, swm y rhodd fydd gwerth y gostyngiad. 

Yn yr arwerthiant

Gwneir rhodd bellach i chi os bydd y prynwr yn talu mwy na gwerth y wobr, ac os yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth yr eitem a'r hyn y mae'r prynwr yn ei dalu yn fwy na £500.

Os byddwch yn talu gwerth llawn yr eitem pan fyddwch yn cael gwobr arwerthiant, ni fyddwch wedi cael rhodd ar y pwynt hwnnw. Os bydd y cynnig llwyddiannus am y wobr arwerthiant yr un peth â gwerth y wobr, neu'n is, ni fydd rhodd wedi'i gwneud. Os bydd y cynnig llwyddiannus am y wobr arwerthiant fwy na £500 yn uwch na gwerth y wobr, bydd rhodd wedi'i gwneud.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Prisio gwobrau: sut i wneud asesiad gonest

Cyfrifo gwerth

Pan gewch wobr arwerthiant cyn iddi gael ei harwerthu, rhaid i chi gyfrifo ei gwerth fel eich bod yn gwybod p'un a ddylid ei thrin fel rhodd ai peidio. Ffordd gyffredin o bennu gwerth gwobr arwerthiant yw cadarnhau ei phris (neu bris eitem gyfatebol resymol). Os bydd amheuaeth ynghylch union werth eitem neu wasanaeth, dylech gael tri dyfynbris masnachol a defnyddio cyfartaledd y tri.

Yn yr arwerthiant

Gwneir unrhyw rodd ddilynol os bydd y cynigydd llwyddiannus yn talu mwy na phris marchnadol yr eitem neu'r gwasanaeth; yr elfen rhodd yw'r gwahaniaeth rhwng y pris a dalwyd gan y prynwr a gwerth y wobr. Caiff cynigion llwyddiannus sy'n rhoddion eu categoreiddio fel rhoddion ariannol bob amser.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Prisio gwobrau: enghreifftiau

Mae'r enghreifftiau isod yn dangos sut i gymhwyso'r egwyddor arweiniol mewn rhai amgylchiadau cyffredin. 

Bwriedir iddynt eich helpu i ystyried sut y gallwch asesu gwerth gwobr arwerthiant. Nid ydynt yn gynhwysfawr. Ym mhob achos, rhaid i chi ystyried y ffeithiau penodol er mwyn cynnal asesiad gonest o sut i brisio'r wobr/y gwobrau arwerthiant. 

Os nad ydych yn siŵr sut y dylech brisio gwobr benodol, gallwch gysylltu â ni i gael cyngor. Rydym yn hapus i drafod sut rydych yn bwriadu asesu gwerth gwobr benodol. 

Gan ei bod yn ofynnol i'ch plaid gadw cofnodion sy'n dangos ac yn esbonio'r trafodion y mae wedi ymrwymo iddynt, dylech sicrhau eich bod yn cadw cofnod o asesiadau a phrisiadau fel y gallwch esbonio p'un a wnaed rhodd ai peidio.

Enghraifft 1: car newydd

Mae rhoddwr a ganiateir yn rhoi car newydd i blaid wleidyddol fel gwobr arwerthiant. Mae'r rhoddwr yn gofyn am ffi enwol o £1,000 am y car. 

Ar ôl edrych ar wefan y gwneuthurwr, rydych yn penderfynu bod gan y car bris manwerthu argymelledig – gwerth – o £15,000. 

Yn y senario hon, mae'r rhoddwr wedi gwneud rhodd nad yw'n ariannol i'r blaid o werth y car llai'r ffi a godwyd ganddo, sef

  • £15,000 (gwerth y car) – £1,000 (ffi) = rhodd nad yw'n ariannol o £14,000.

Felly, cafwyd rhodd nad yw'n ariannol i'r blaid o £14,000 y mae'n rhaid rhoi gwybod amdani mewn adroddiad rhoddion chwarterol sy'n cwmpasu'r dyddiad pan dderbyniwyd y car. 

Yn yr arwerthiant, mae'r car yn gwerthu am £18,000. Er mwyn penderfynu a wnaed rhodd, tynnwch werth y car o'r cynnig buddugol: 

  • £18,000 (y cynnig buddugol) – £14,000 (gwerth y car) = rhodd ariannol o £4,000.

Gwnaed rhodd ariannol o £4,000 i'r blaid yn yr arwerthiant. Rhaid i'r blaid gadarnhau bod yr unigolyn yn rhoddwr a ganiateir cyn derbyn y rhodd.

Enghraifft 2: gwaith celf

Mae artist yn cyfrannu un o'i ddarnau am ddim i uned gyfrifyddu plaid wleidyddol er mwyn ei arwerthu. Y trothwy ar gyfer datgan rhoddion a dderbynnir gan uned gyfrifyddu i'r Comisiwn yw £2,230. 

Mae'r artist yn amcangyfrif bod ei waith yn werth £1,500 yn seiliedig ar ddarnau blaenorol a werthwyd. Dylech gadarnhau bod y prisiad hwn yn gywir yn seiliedig ar brisiau gwerthu darnau eraill yr artist er mwyn cynnal asesiad rhesymol a gonest o werth y gwaith. 

Os nad yw'r artist wedi gwerthu darnau tebyg o'r blaen, dylech gael ail farn a thrydedd farn er mwyn penderfynu p'un a oes angen rhoi gwybod i'r Comisiwn am y rhodd ai peidio. 

Mae dau arfarnwr yn prisio'r gwaith celf yn annibynnol ar £1,400 a £1,350. Er mwyn cael gwerth marchnadol y gwaith celf, dylech gyfrifo cyfartaledd y tri ffigur: 

  • (£1,500 + £1,400 + £1,350) ÷ 3 = £1,420 

Gan fod yr eitem wedi cael ei rhoi am ddim, dylech ddod i'r casgliad bod rhodd nad yw'n ariannol o £1,420 wedi'i gwneud i'r blaid. 

O bryd i'w gilydd, efallai na fyddwch yn gallu pennu gwerth eitem neu wasanaeth cyn arwerthiant. Er enghraifft, os yw'r gwaith celf wedi cael ei greu gan ffigwr cyhoeddus blaenllaw nad yw'n artist neu nad yw wedi gwerthu gwaith celf o'r blaen. Mewn achos o'r fath, efallai y bydd angen i chi aros nes i'r eitem neu'r gwasanaeth gael ei phrynu/ei brynu yn yr arwerthiant cyn neilltuo pris iddi/iddo, ac yna roi gwybod amdani/amdano fel rhodd, os bydd angen. 

Rydym yn hapus i gynnig cyngor mewn achosion o'r fath, felly cysylltwch â ni. 

Enghraifft 3: y defnydd o gartref gwyliau

Mae rhoddwr, Mr Smith, wedi cynnig i'ch plaid ddefnyddio ei gartref gwyliau yn Sbaen am ddim am wythnos yn ystod yr haf am y pum mlynedd nesaf. 

Os yw Mr Smith yn cynnig ei gartref gwyliau i'w rentu, dylech ddefnyddio'r pris y mae'n ei godi fel arfer a rhoi gwybod am y cynnig fel rhodd nad yw'n ariannol i'r blaid.

Fel arall, os nad yw'r cartref gwyliau ar gael i'w rentu fel arfer, dylech chwilio am gartrefi tebyg sydd ar gael i'w rhentu yn yr ardal a defnyddio'r cyfraddau a hysbysebir i gyfrifo gwerth marchnadol defnyddio cartref Mr Smith.

Yn yr achos hwn, rydych wedi cyfrifo mai gwerth y gwasanaeth hwn yw £15,000 yn seiliedig ar chwiliad ar y rhyngrwyd am brisiau cartrefi gwyliau i'w rhentu yn y rhan honno o Sbaen ar yr adeg honno o'r flwyddyn (£2,000 y flwyddyn x 5 mlynedd). Rhaid i chi gadarnhau bod Mr Smith yn rhoddwr a ganiateir a rhoi gwybod i'r Comisiwn am rodd nad yw'n ariannol o £15,000 gan Mr Smith yn yr adroddiad chwarterol nesaf. 

Yn yr arwerthiant, mae'r wobr hon yn denu cynnig buddugol o £30,000 gan Ms Brown. I gyfrifo elfen rhodd y trafodyn hwn, tynnwch werth marchnadol y wobr o'r cynnig buddugol fel hyn: 

  • £30,000 (y cynnig buddugol) - £15,000 (gwerth) = rhodd ariannol o £15,000

Rhaid i chi gadarnhau bod y rhodd ariannol o £15,000 gan Ms Brown yn rhodd a ganiateir, a rhoi gwybod amdani.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Mawrth 2024

Rhoi gwybod am wobrau arwerthiant a roddir

Ymhlith manylion y rhodd y mae angen i chi roi gwybod amdanynt, rhaid i chi nodi'r dyddiad rydych yn cael y rhodd. Rydych fel arfer yn cael rhodd ar y diwrnod rydych yn dod yn berchen arni'n gorfforol. Ond efallai y byddwch yn ei chael yn gynharach os bydd unigolyn yn gwneud ymrwymiad cadarn i'w rhoi i chi.

Er enghraifft, os bydd rhywun yn rhoi crât o siampên o flwyddyn gynhaeaf dda i chi ar gyfer arwerthiant, efallai y byddwch yn ei gael ar y dyddiad y bydd yr unigolyn yn rhoi'r crât i chi. Ond os yw'r unigolyn sy'n rhoi'r crât o siampên ei storio i chi nes y ceir cynnig llwyddiannus amdano mewn arwerthiant, byddwch yn cael y rhodd pan wneir yr ymrwymiad i roi'r crât.

Weithiau, gall fod yn anodd penderfynu pryd rydych wedi cael rhodd. Dylech gynnal asesiad gonest yn seiliedig ar yr holl amgylchiadau. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni i gael cyngor.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Nawdd

Beth yw nawdd?

Nawdd yw cefnogaeth a roddir i blaid wleidyddol, neu unigolyn neu sefydliad arall a reoleiddir, sy'n ei helpu i dalu am gostau:

  • unrhyw gynhadledd, cyfarfod neu ddigwyddiad arall (gan gynnwys cynadleddau neu ddigwyddiadau digidol)
  • paratoi, cynhyrchu neu ddosbarthu cyhoeddiad (argraffedig neu ddigidol), neu 
  • unrhyw astudiaeth neu ymchwil

Mae taliadau nawdd yn fath o rodd o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Lle nad yw taliad yn gyfystyr â nawdd, mae'n bosibl y bydd yn rhodd o hyd os yw'n bodloni'r diffiniad o rodd o dan PPERA. 

Beth yw'r rheolau ynglŷn â nawdd?

Yn yr un modd â rhoddion i bleidiau, dim ond gan ffynhonnell a ganiateir y gellir derbyn taliadau nawdd dros £500. Rhaid i chi roi gwybod am roddion rydych yn eu cael sydd dros drothwyon penodol. Gweler Gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion a benthyciadau? a Pa roddion a benthyciadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt? am ragor o fanylion.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

A oes unrhyw eithriadau i’r rheolau o ran nawdd?

Oes:

  • taliadau mynediad ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd neu ddigwyddiadau eraill – er enghraifft pasys mynediad i gynhadledd plaid neu ffi fynediad i fynychu digwyddiad a drefnir gan neu ar ran plaid, sefydliad a reoleiddir neu unigolyn
  • pris prynu unrhyw gyhoeddiadau
  • taliadau ar y gyfradd fasnachol am hysbysebion mewn cyhoeddiadau – ni fydd unrhyw symiau sy'n uwch na'r gyfradd fasnachol wedi'u heithrio ac ystyrir eu bod yn rhodd os byddant yn werth mwy na £500 
  • rhai taliadau ar gyfer stondinau mewn cynadleddau

A yw pob math o hysbysebu wedi'i eithrio?

Nac ydy. Dim ond hyd at werth masnachol hysbysebion sy'n ymddangos mewn cyhoeddiadau y mae'r eithriad yn gymwys. Er enghraifft, hysbysebion sy'n ymddangos mewn unrhyw gyhoeddiad, gan gynnwys cyhoeddiad sy'n nodi polisïau plaid, megis maniffesto cyn etholiad.

Dylai taliadau am unrhyw fathau eraill o hysbysebu, megis baneri mewn digwyddiad neu hysbysebu digidol mewn digwyddiad rhithwir, gael eu trin fel nawdd os byddant yn helpu i dalu am gost y digwyddiad.

Nid yw taliadau am hysbysebion nad ydynt yn helpu i dalu am gostau digwyddiad neu gyhoeddiad mewn unrhyw ffordd yn cyfrif fel nawdd. Er enghraifft, os byddwch yn gwerthu gofod hysbysebu ar gyfer eich digwyddiad ar-lein ond nad ydych yn mynd i unrhyw gostau uniongyrchol ar gyfer y digwyddiad.

Fodd bynnag, os bydd rhywun yn talu mwy na gwerth masnachol hysbyseb, bydd y gwahaniaeth rhwng y swm y mae'n ei dalu a'r gwerth masnachol yn rhodd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Faint o'r hyn rydych yn ei gael sy'n rhodd?

Wrth gyfrifo gwerth nawdd, dylid ystyried swm llawn y taliad a geir a rhoi gwybod amdano os yw'n fwy na'r trothwyon uchod.

Ni ddylid gwneud unrhyw ddidyniad ar gyfer unrhyw werth masnachol, neu fudd i'r noddwr, ac ati.

Digwyddiadau a chiniawau i godi arian

Os caiff digwyddiad ei gynnal gan neu ar ran plaid (neu uned gyfrifyddu plaid), neu sefydliad a reoleiddir neu unigolyn arall, rhaid trin cymorth i helpu i dalu am gostau'r digwyddiad fel nawdd. 

Ar gyfer taliadau am le neu fwrdd mewn cinio a drefnir gan y blaid neu sefydliad a reoleiddir neu unigolyn arall, bydd y gwahaniaeth rhwng gwerth y cinio a'r swm a delir yn rhodd.

Ymdrin â TAW

Lle mae taliad nawdd yn cynnwys TAW, bydd p'un a ddylid rhoi gwybod am yr elfen TAW fel rhan o'r nawdd yn dibynnu ar y ffeithiau. Er enghraifft, pe byddai'r blaid wedi bod yn atebol am y TAW pe na bai wedi'i thalu, yna mae ei thalu o fudd i'r blaid a dylid rhoi gwybod amdani fel nawdd.

Nawdd gan gwmnïau

Lle mae cwmni yn gwneud taliad a gaiff ei drin fel nawdd, ystyrir bod y swm cyfan yn rhodd o dan gyfraith etholiadol.

Felly bydd angen i gwmnïau sicrhau eu bod wedi cydymffurfio ag unrhyw reolaethau cymwys ynghylch gwneud rhodd wleidyddol o dan gyfraith cwmnïau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Cynadleddau pleidiau a stondinau mewn cynadleddau

Mae llawer o bleidiau gwleidyddol yn cynnal cynadleddau drwy'r flwyddyn. Mae rhai rheolau y dylai pleidiau fod yn ymwybodol ohonynt sy'n gymwys i daliadau y mae pleidiau yn eu cael tuag at eu cynadleddau.

Mae rhai pleidiau gwleidyddol yn cynnig lle i arddangoswyr osod stondinau mewn cynadleddau. Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn darparu bod y Comisiwn yn gosod “uchafswm cyfradd” ac na chaiff achosion o logi'r stondinau hyn eu hystyried yn nawdd o dan y trothwy hwn. Mae'r Comisiwn wedi gosod uchafswm cyfraddau ar gyfer stondinau ffisegol mewn cynadleddau a stondinau mewn cynadleddau digidol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Stondinau ffisegol mewn cynadleddau

Nid oes angen trin taliadau o hyd at £15,000 (heb gynnwys TAW) am stondin ffisegol 3m x 3m fel nawdd nac unrhyw fath arall o rodd.

Dylai unrhyw swm uwchlaw £15,000 (heb gynnwys TAW) rydych yn ei gael am stondin 3m x 3m gael ei drin fel nawdd, ac felly fel rhodd i'r blaid. Rhaid i chi roi gwybod am y rhodd hon os bydd y swm rydych yn ei dderbyn gan un ffynhonnell yn fwy na'r trothwy adrodd perthnasol.

Gall swm pro rata uwch fod yn gymwys i stondinau sy'n fwy na 3m x 3m, ond nid oes angen cyfrifo swm is ar sail pro rata am stondinau llai o faint.

Os byddwch yn codi pris uwch na £15,000 (heb gynnwys TAW) am stondin sy'n fwy na 3m x 3m, rydym yn disgwyl i chi gadw cofnodion digonol i ddangos y trafodyn hwn. Mae hyn yn cynnwys manylion am faint y stondin, pa bris a godwyd gennych a sut y gwnaethoch gyfrifo'r pris hwn. Efallai y byddwn yn gofyn am gael gweld eich cofnodion at ddibenion sicrwydd.

Os byddwch yn defnyddio pris pro rata uwch am stondin ffisegol sy'n fwy na 3m x 3m mewn cynhadledd, rhaid trin unrhyw swm rydych yn ei gael sy'n uwch na'r pris perthnasol fel rhodd i'r blaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Stondinau mewn cynadleddau digidol

Os bydd plaid wleidyddol yn cynnal cynhadledd ddigidol ac yn cynnig cyfleoedd hyrwyddo byw ar y llwyfan ar-lein y mae'n ei ddefnyddio, gellir ei ystyried fel stondin mewn cynhadledd ddigidol. Mae nodweddion cyffredin stondin mewn cynhadledd ddigidol yn cynnwys:

  • rhaid i'r stondin ddigidol fod ar gael i'w llogi drwy gydol y gynhadledd
  • rhaid bod rhyw lefel o ryngweithio amser real rhwng y sawl sy'n arddangos a'r rhai sy'n bresennol
  • rhaid iddi fod yn fyw
  • hysbyseb neu faner (neu rywbeth tebyg) ar wefan neu lwyfan lletya'r gynhadledd (noder: ni fyddai hysbyseb ar wefan heb yr elfennau eraill yn cyfrif fel stondin ddigidol ynddi'i hun)

Nid oes angen trin taliadau o hyd at £7,000 (heb gynnwys TAW) am stondin ddigidol fel nawdd nac unrhyw fath arall o rodd.

Dylid trin unrhyw swm uwchlaw £7,000 (heb gynnwys TAW) rydych yn ei gael fel nawdd, ac felly fel rhodd i'r blaid. Rhaid i chi roi gwybod am y rhodd hon os bydd y swm rydych yn ei dderbyn gan un ffynhonnell yn fwy na'r trothwy adrodd perthnasol.

Os byddwch yn codi pris uwch na £7,000 (heb gynnwys TAW) am stondin ddigidol, rydym yn disgwyl i chi gadw cofnodion digonol i ddangos y trafodyn hwn. Mae hyn yn cynnwys manylion am y pris a godwyd gennych am y stondin a sut y gwnaethoch gyfrifo'r pris hwn. Efallai y byddwn yn gofyn am gael gweld eich cofnodion at ddibenion sicrwydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Digwyddiadau ategol, derbyniadau a chyfarfodydd

Mae rhai pleidiau gwleidyddol yn cynnal digwyddiadau ategol a chyfarfodydd eraill yng nghynadleddau eu plaid. Os byddwch yn cael taliadau i gynnal y digwyddiadau hyn, bydd y taliadau hyn yn cyfrif fel nawdd.

Yn yr achos hwn, dim ond gan roddwr a ganiateir y gellir derbyn unrhyw daliadau dros £500. Dylid ystyried gwerth llawn y taliad a geir a'i drin fel nawdd, ac felly fel rhodd i'r blaid. Rhaid i'r blaid roi gwybod am hyn os bydd y swm rydych yn ei dderbyn gan un ffynhonnell yn fwy na'r trothwyon ar gyfer rhoi gwybod am roddion.

Gweler Pa roddion a benthyciadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt? i gael manylion am y trothwyon adrodd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Pecynnau ar gyfer cynadleddau neu ddigwyddiadau

Mae'n bosibl y bydd rhai pleidiau yn cynnig gostyngiadau cyffredinol pan brynir pecyn cyfunol o eitemau sy'n ymwneud â digwyddiad gyda'i gilydd, er enghraifft stondin mewn cynhadledd, nifer o basys mynediad, a nifer o seddi mewn cinio.

Os byddwch yn cynnig pecyn cynhadledd, bydd angen i chi ystyried pob rhan o'r pecyn er mwyn asesu a oes angen rhoi gwybod amdano.

Efallai y bydd rhai elfennau wedi'u heithrio, megis tâl mynediad, lle caiff elfennau eraill o'r pecyn, megis mathau o hysbysebu nad ydynt wedi'u heithrio, eu trin fel nawdd os byddant yn helpu i dalu am gostau'r digwyddiad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Beth y mae'n rhaid i chi ei gofnodi pan fyddwch yn derbyn rhodd?

Os derbyniwch rodd gwerth dros £500, rhaid i chi gofnodi'r manylion hyn:

  • manylion gofynnol y rhoddwr (gweler Gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion a benthyciadau? i gael canllawiau ar y manylion y mae'n rhaid i chi eu cofnodi ar gyfer pob math o roddwr)
  • yr adran o'r blaid sydd wedi derbyn y rhodd (y blaid ganolog neu uned gyfrifyddu)
  • swm y rhodd, os yw'n rhodd ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw'n rhodd nad yw'n ariannol
  • y dyddiad y cafwyd y rhodd
  • y dyddiad y derbyniwyd y rhodd
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Beth i'w wneud os byddwch yn cael rhodd gan ffynhonnell nas caniateir neu ffynhonnell anhysbys?

Os byddwch yn cael rhodd nad yw gan ffynhonnell a ganiateir, rhaid i chi ei dychwelyd o fewn 30 diwrnod. Os bydd eich plaid yn cadw'r rhodd nas caniateir ar ôl y cyfnod o 30 diwrnod, ystyrir eich bod wedi'i derbyn. 

Os bydd eich plaid yn derbyn rhodd nas caniateir, gall eich plaid fod yn ddarostyngedig i sancsiynau sifil. Mae'n bosibl hefyd y bydd y blaid a'r trysorydd wedi cyflawni troseddau. Ymdrinnir ag unrhyw achos posibl o dorri'r rheolau yn unol â'n Polisi Gorfodi.

Os ydych wedi derbyn rhodd nas caniateir, dylech ddweud wrthym cyn gynted â phosibl. 

Rhaid i chi gofnodi:

  • enw'r ffynhonnell, os yw'n hysbys
  • swm y rhodd, os yw'n rhodd ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw'n rhodd nad yw'n ariannol
  • sut y rhoddwyd y rhodd 
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd 
  • y dyddiad y dychwelwyd y rhodd gennych 
  • y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, yr unigolyn neu'r sefydliad y dychwelwyd y rhodd iddo) 

Rhaid i chi gynnwys pob rhodd nas caniateir yn eich adroddiad chwarterol.

Sut ydych yn dychwelyd rhodd nas caniateir?

Os ydych yn gwybod pwy yw'r rhoddwr, rhaid i chi ei dychwelyd iddo o fewn 30 diwrnod i gael y rhodd. 

Os daw'r rhodd o ffynhonnell anhysbys (er enghraifft, rhodd ariannol o £600 yn ddienw), rhaid i chi ei dychwelyd o fewn 30 diwrnod i gael y rhodd i'r canlynol: 

  • y sawl a drosglwyddodd y rhodd i chi; neu 
  • y sefydliad ariannol a ddefnyddiwyd i drosglwyddo'r rhodd

Os nad ydych yn gwybod pwy yw'r naill na'r llall, rhaid i chi anfon y rhodd at y Comisiwn Etholiadol. Byddwn yn ei thalu i mewn i'r Gronfa Gyfunol, a gaiff ei rheoli gan Drysorlys Ei Mawrhydi.

Os byddwch wedi ennill llog ar y rhodd cyn i chi ei dychwelyd, gallwch ei gadw. Ni chaiff y llog hwn ei drin fel rhodd ac nid oes angen rhoi gwybod amdano.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Ionawr 2024

Pa fenthyciadau a gwmpesir gan y rheolau?

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), caiff y mathau canlynol o drafodion eu rheoleiddio:

  • benthyciadau ariannol 
  • cyfleusterau credyd, megis cardiau credyd a gorddrafftiau 
  • sicrhadau neu warantau ar gyfer rhwymedigaethau plaid i rywun arall 

Dim ond trafodion sy'n werth mwy na £500 a gwmpesir gan y rheolaethau. 

Yn y canllawiau hyn, rydym yn defnyddio ‘benthyciadau’ i gyfeirio at bob un o'r trafodion hyn.

Benthyciadau o £500 neu lai

Mae benthyciadau sy'n werth £500 neu lai y tu allan i gwmpas PPERA ac nid oes angen i chi eu cofnodi na rhoi gwybod amdanynt.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Beth sydd angen i chi ei wneud cyn trefnu benthyciad?

Gyda phwy y gallwch drefnu benthyciad?

Dim ond gyda rhai ffynonellau a ganiateir y gallwch drefnu benthyciad. Gweler Gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion a benthyciadau? am y rhestr lawn o ffynonellau a ganiateir. Rhaid i chi gwblhau gwiriadau i sicrhau bod y ffynhonnell yn un a ganiateir cyn trefnu benthyciad gan fod trefnu benthyciad â ffynhonnell nas caniateir yn drosedd. 

Rhaid i chi fodloni eich hun fod y ffynhonnell yn un a ganiateir bob tro y trefnir benthyciad, hyd yn oed os byddwch wedi gwneud gwiriadau o'r fath mewn perthynas â benthyciadau gan yr un ffynhonnell yn y gorffennol. Dylech hefyd wirio'n gyson drwy gydol cyfnod y benthyciad fod eich ffynhonnell yn parhau i fod yn un a ganiateir. Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i'r ffynhonnell barhau i fod yn un a ganiateir ar gyfer cyfnod cyfan y benthyciad. 

Dylech gadw cofnod o'ch holl wiriadau i gadarnhau a yw ffynhonnell yn un a ganiateir er mwyn dangos eich bod wedi dilyn y rheolau.

Os nad yw ffynhonnell yn un a ganiateir neu os bydd yn newid i fod yn ffynhonnell nas caniateir ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod y benthyciad, bydd y trafodyn yn annilys o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Rhaid i chi ad-dalu benthyciad sy'n annilys o hyd a gall y Comisiwn wneud cais i'r llysoedd i adennill yr arian os na chaiff ei ad-dalu.

Os byddwch wedi trefnu benthyciad nas caniateir, neu os bydd benthyciad yn dod yn un nas caniateir yn ystod cyfnod y benthyciad, darllenwch Beth i'w wneud os byddwch yn cael benthyciad nas caniateir? i gael canllawiau pellach ar y camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Sut ydych yn cyfrifo gwerth benthyciad?

Math o fenthyciad Gwerth
Benthyciad ariannol Y cyfanswm y byddwch yn ei fenthyca
Cyfleuster credyd Yr uchafswm y gallwch ei fenthyca
Sicrhad (trafodyn cysylltiedig) Y swm y byddai'r ffynhonnell yn atebol amdano pe bai eich plaid yn methu talu.

Os bydd y benthyciad yn caniatáu i unrhyw log gael ei ychwanegu at y cyfanswm rydych yn ei fenthyca, nid oes angen i chi gynnwys hyn yng ngwerth y benthyciad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Beth y mae'n rhaid i chi ei gofnodi pan fyddwch yn trefnu benthyciad?

Os byddwch yn trefnu benthyciad dros £500, rhaid i chi gofnodi'r manylion hyn: 

  • manylion gofynnol y ffynhonnell (gweler Gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion a benthyciadau? i gael canllawiau ar y manylion y mae'n rhaid i chi eu cofnodi ar gyfer pob math o ffynhonnell)
  • yr adran o'r blaid sydd wedi trefnu'r benthyciad (y blaid ganolog neu uned gyfrifyddu)
  • natur y trafodyn – p'un a yw'n fenthyciad, yn gyfleuster credyd neu'n drefniant sicrhad 
  • gwerth y benthyciad 
  • y dyddiad y trefnwyd y benthyciad 
  • dyddiad ad-dalu’r benthyciad neu ddatganiad ei fod yn benagored neu, fel arall, sut y caiff y dyddiad ei bennu o dan y cytundeb 
  • os yw'r benthyciad wedi dod i ben, y dyddiad y daeth i ben
  • y gyfradd llog – neu sut y caiff y gyfradd ei phennu o dan y cytundeb, neu ddatganiad nad oes unrhyw log yn daladwy
  • p'un a yw'r cytundeb yn cynnwys darpariaeth sy'n golygu y gellir ychwanegu llog nas talwyd at y swm dyledus
  • p'un a roddwyd unrhyw sicrhad ar gyfer y benthyciad ai peidio
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Beth i'w wneud os byddwch yn cael benthyciad gan ffynhonnell nas caniateir?

Os nad yw ffynhonnell yn un a ganiateir neu os bydd yn newid i fod yn ffynhonnell nas caniateir ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod y benthyciad, bydd y trafodyn yn annilys. Nid oes ganddo unrhyw effaith gyfreithiol a rhaid i chi ad-dalu unrhyw swm sy'n ddyledus gennych. Felly, rhaid i chi barhau i wirio bod y ffynhonnell yn un a ganiateir drwy gydol cyfnod y benthyciad. 

Os ydych wedi trefnu benthyciad gan ffynhonnell nas caniateir, dylech roi gwybod i ni cyn gynted ag y byddwch yn darganfod bod y ffynhonnell yn un nas caniateir. 

Rhaid i chi gofnodi'r manylion canlynol:

Rhaid i chi gynnwys pob benthyciad nas caniateir yn eich adroddiad chwarterol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion a benthyciadau?

Ffynhonnell a ganiateir yw: 

  • unigolyn sydd wedi'i gofrestru ar un o gofrestrau etholiadol y DU, gan gynnwys etholwyr tramor a'r rhai sy'n gadael cymynroddion 
  • cwmni sydd wedi'i gofrestru yn y DU ac sy'n gwmni corfforedig yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU 
  • plaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru ym Mhrydain Fawr 
  • undeb llafur sydd wedi'i gofrestru yn y DU 
  • cymdeithas adeiladu sydd wedi'i chofrestru yn y DU 
  • partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'i chofrestru yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
  • cymdeithas gyfeillgar neu ddiwydiannol a darbodus sydd wedi'i chofrestru yn y DU 
  • cymdeithas anghorfforedig sydd wedi'i lleoli yn y DU ac sy'n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU

Gallwch hefyd dderbyn rhoddion, ond nid benthyciadau, gan rai mathau o ymddiriedolaethau, rhai cronfeydd cyllid cyhoeddus ac unrhyw un sy'n talu am gostau rhesymol ymweliad tramor. 

Ni chaniateir i elusennau wneud rhoddion gwleidyddol o dan gyfraith elusennau, hyd yn oed os byddant yn perthyn i un o'r categorïau rhoddwr a ganiateir.

Os ydych yn gwybod bod rhoddwr yn elusen, dylech sicrhau ei fod yn cael cyngor gan y Comisiwn Elusennau cyn rhoi rhodd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Unigolion

Beth sy'n gwneud unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir?

Rhaid i unigolion fod ar un o gofrestrau etholiadol y DU pan fyddwch yn cael y rhodd neu'r benthyciad. Mae hyn yn cynnwys etholwyr tramor. 

Os cewch gymynrodd, a bod yr unigolyn ar y gofrestr etholiadol ar unrhyw adeg yn ystod y pum mlynedd cyn iddo farw, cewch dderbyn y rhodd.

Sut ydych yn cadarnhau bod unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir?

Gallwch ddefnyddio'r gofrestr etholiadol i gadarnhau bod unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir. Mae hawl gan bleidiau gwleidyddol cofrestredig (heblaw am bleidiau llai) i gael copi am ddim o'r gofrestr etholiadol lawn. 

Fel arfer caiff fersiwn newydd o'r gofrestr etholiadol ei chyhoeddi ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn, a chaiff ei diweddaru'n rheolaidd. 

Dylech gysylltu â Swyddog Cofrestru Etholiadol y cyngor lleol perthnasol yn ysgrifenedig i ofyn am eich copi, gan egluro eich bod yn gofyn amdano fel plaid wleidyddol gofrestredig. Dylech ofyn i'r swyddog anfon yr holl ddiweddariadau atoch hefyd. Byddwch yn cael y gofrestr ar ffurf electronig oni bai eich bod yn gofyn am fersiwn argraffedig o'r gofrestr.

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt cynghorau lleol drwy ddefnyddio ein hadnodd chwilio codau post.

Rhaid i chi edrych ar y gofrestr a'r diweddariadau'n ofalus, er mwyn sicrhau bod y person ar y gofrestr ar y dyddiad y trefnwyd y benthyciad, neu'r dyddiad y cawsoch y rhodd. 

O dan amgylchiadau arbennig, mae gan bobl gofrestriad dienw. Os yw'r unigolyn wedi'i gofrestru'n ddienw, rhaid i chi ddarparu datganiad i gadarnhau eich bod wedi gweld tystiolaeth bod gan yr unigolyn gofnod dienw ar y gofrestr. Bydd tystiolaeth ar ffurf tystysgrif o gofrestriad dienw. Rhaid i chi gyflwyno copi o'r dystysgrif gyda'ch adroddiad chwarterol.

Dim ond er mwyn cadarnhau a yw unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir neu at ddibenion etholiadol y cewch ddefnyddio'r gofrestr. Rhaid i chi beidio â'i rhoi i unrhyw un arall.

Beth sydd angen i chi ei gofnodi? 

Rhaid i chi gofnodi: 

  • enw llawn yr unigolyn  
  • y cyfeiriad fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr etholiadol, neu os mai etholwr tramor yw'r unigolyn, ei gyfeiriad cartref 

Efallai y bydd yn ddefnyddiol nodi rhif etholiadol yr unigolyn fel cofnod o'ch gwiriad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Cwmnïau

Beth sy'n gwneud cwmni yn ffynhonnell a ganiateir? 

Mae cwmni yn ffynhonnell a ganiateir: 

  • os yw wedi'i gofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau; 
  • os yw wedi'i gorffori yn y DU; ac  
  • os yw'n cynnal busnes yn y DU 

Rhaid i chi fod yn siŵr bod y cwmni yn bodloni pob un o'r tri maen prawf.

Sut ydych yn cadarnhau cofrestriad cwmni? 

Dylech edrych ar y gofrestr yn Nhŷ'r Cwmnïau, gan ddefnyddio'r gwasanaeth Webcheck am ddim yn companieshouse.gov.uk. Dylech edrych ar gofnod cofrestru llawn y cwmni. 

Sut ydych yn cadarnhau a yw cwmni yn cynnal busnes yn y DU? 

Rhaid i chi fodloni'ch hun bod y cwmni yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw. 

Hyd yn oed os ydych yn gyfarwydd â'r cwmni eich hun, dylech edrych ar gofrestr Tŷ'r Cwmnïau er mwyn gweld: 

  • a yw'r cwmni yn cael ei ddiddymu, yn segur, neu ar fin cael ei ddileu o'r gofrestr 
  • a yw cyfrifon a ffurflen flynyddol y cwmni yn hwyr 

Mae'n bosibl bod cwmni yn dal i gynnal busnes os yw'n cael ei ddiddymu, yn segur neu'n hwyr yn cyflwyno dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol er mwyn bodloni'ch hun mai felly y mae. 

O ran unrhyw gwmni, dylech ystyried edrych ar y canlynol: 

  • gwefan y cwmni 
  • cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau dibynadwy masnachau perthnasol 
  • y cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau

Os nad ydych yn siŵr o hyd a yw'r cwmni yn cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig gan gyfarwyddwyr y cwmni ynglŷn â'i weithgareddau busnes.

Beth sydd angen i chi ei gofnodi? 

Rhaid i chi gofnodi: 

  • yr enw fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr 
  • cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni 
  • rhif cofrestru'r cwmni
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig

Beth sy'n gwneud partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ffynhonnell a ganiateir? 

Mae partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ffynhonnell a ganiateir:

  • os yw wedi'i chofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau 
  • os yw'n cynnal busnes yn y DU

Sut ydych yn cadarnhau bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ffynhonnell a ganiateir?

Dylech edrych ar y gofrestr yn Nhŷ'r Cwmnïau, gan ddefnyddio'r gwasanaeth Webcheck am ddim yn companieshouse.gov.uk.

Sut ydych yn cadarnhau a yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU? 

Rhaid i chi fodloni'ch hun bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw. 

Hyd yn oed os ydych yn gyfarwydd â'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig eich hun, dylech edrych ar gofrestr Tŷ'r Cwmnïau er mwyn gweld: 

  • a yw'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cael ei diddymu, yn segur, neu ar fin cael ei dileu o'r gofrestr 
  • a yw cyfrifon a ffurflen flynyddol y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn hwyr 

Mae'n bosibl bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn dal i gynnal busnes os yw'n cael ei diddymu, yn segur neu'n hwyr yn cyflwyno dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol er mwyn bodloni'ch hun mai felly y mae. 

O ran unrhyw bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, dylech ystyried edrych ar y canlynol:

  • gwefan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig 
  • cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau dibynadwy masnachau perthnasol
  • y cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau

Os nad ydych yn siŵr o hyd a yw'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig gan gyfarwyddwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ynglŷn â'i gweithgareddau busnes.

Beth sydd angen i chi ei gofnodi?

Rhaid i chi gofnodi: 

  • yr enw fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr 
  • cyfeiriad swyddfa gofrestredig y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Cymdeithasau anghorfforedig

Beth sy'n gwneud cymdeithas anghorfforedig yn ffynhonnell a ganiateir?

Mae cymdeithas anghorfforedig yn ffynhonnell a ganiateir: 

  • os oes ganddi fwy nag un aelod 
  • os yw'r brif swyddfa yn y DU
  • os yw'n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU 

Sut rydych yn cadarnhau bod cymdeithas anghorfforedig yn ffynhonnell a ganiateir?

Nid oes unrhyw gofrestr o gymdeithasau anghorfforedig. Mae p'un a yw'n ffynhonnell a ganiateir yn fater ffeithiol ym mhob achos. 

Yn gyffredinol, cymdeithas sydd â dau unigolyn neu fwy sydd wedi dod ynghyd i gyflawni diben a rennir yw cymdeithas anghorfforedig.

Mae gan gymdeithas anghorfforedig aelodaeth adnabyddadwy sydd wedi'i rhwymo ynghyd gan reolau adnabyddadwy neu gytundeb rhwng yr aelodau. Mae'r rheolau hyn yn nodi sut y dylid rhedeg a rheoli'r gymdeithas anghorfforedig. 

Weithiau, efallai y caiff y rheolau eu ffurfioli, er enghraifft mewn cyfansoddiad ysgrifenedig. Fodd bynnag, nid oes rhaid eu ffurfioli.

Er enghraifft, gall clybiau aelodau fod yn gymdeithasau anghorfforedig weithiau.

Os nad ydych yn siŵr a yw cymdeithas yn bodloni'r meini prawf, dylech ystyried a yw'r rhodd gan yr unigolion ynddi mewn gwirionedd (yn hytrach na'r gymdeithas) neu a oes rhywun yn y gymdeithas yn gweithredu fel asiant dros eraill.

Os credwch mai felly y mae, rhaid i chi gadarnhau bod pob un o'r unigolion a gyfrannodd fwy na £500 yn ffynonellau a ganiateir a'u trin fel y ffynhonnell.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gynnal busnes yn yr adran flaenorol Sut rydych yn cadarnhau a yw cwmni yn cynnal busnes yn y DU?

Os bydd cymdeithas anghorfforedig yn rhoi rhoddion gwleidyddol gwerth mwy na £37,270 yn ystod blwyddyn galendr, dylech ei hysbysu bod yn rhaid iddi roi gwybod i ni am hyn. Gweler ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am gymdeithasau anghorfforedig.

Beth sydd angen i chi ei gofnodi? 

Bydd angen i chi gofnodi:

  • enw'r gymdeithas anghorfforedig
  • cyfeiriad prif swyddfa'r gymdeithas
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Chwefror 2024

Ymddiriedolaethau

Beth sy'n gwneud ymddiriedolaeth yn ffynhonnell a ganiateir? 

Ymddiriedolaethau a sefydlwyd cyn 27 Gorffennaf 1999

Mae ymddiriedolaeth a sefydlwyd cyn 27 Gorffennaf 1999 yn ffynhonnell a ganiateir 

  • os na throsglwyddwyd unrhyw eiddo i'r ymddiriedolaeth ers y dyddiad hwn, ac
  • os nad yw telerau'r ymddiriedolaeth wedi amrywio ers y dyddiad hwn

Os yw ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth a sefydlwyd cyn 1999, rhaid i chi roi gwybod am y canlynol:

  • bod y rhodd gan ymddiriedolwr;
  • y dyddiad y cafodd yr ymddiriedolaeth ei chreu;
  • enw llawn y 
    • sawl a sefydlodd yr ymddiriedolaeth;  
    • pob unigolyn neu sefydliad y trosglwyddwyd eiddo ganddo, neu o dan ei ewyllys, i’r ymddiriedolaeth cyn 27 Gorffennaf 1999

Ymddiriedolaethau rhoddwyr a ganiateir

Mae'n bosibl i ymddiriedolaethau rhoddwyr a ganiateir fod wedi'u sefydlu cyn neu ar ôl 27 Gorffennaf 1999.

Mae ymddiriedolaeth rhoddwr a ganiateir yn ffynhonnell a ganiateir

  • os cafodd yr ymddiriedolaeth ei sefydlu gan unigolyn neu sefydliad a oedd yn ffynhonnell a ganiateir ar y pryd; ac
  • os mai dim ond eiddo gan ffynonellau a ganiateir a drosglwyddwyd i'r ymddiriedolaeth 

Os cafodd ymddiriedolaeth ei sefydlu gan ewyllys unigolyn, rhaid i'r unigolyn hwnnw fod wedi bod ar un o gofrestrau etholiadol y DU ar unrhyw adeg o fewn pum mlynedd cyn dyddiad ei farwolaeth.

Ni all ymddiriedolaeth fod yn ymddiriedolaeth rhoddwr a ganiateir os yw wedi cael unrhyw eiddo o ffynhonnell nas caniateir neu ffynhonnell anhysbys.

Os yw'r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth rhoddwr a ganiateir, rhaid i chi roi gwybod am y canlynol:

  • bod y rhodd gan ymddiriedolwr;
  • manylion gofynnol 
    • yr unigolyn neu'r sefydliad a sefydlodd yr ymddiriedolaeth er mwyn sicrhau ei fod yn ffynhonnell a ganiateir;  
    • pob unigolyn neu sefydliad arall y trosglwyddwyd eiddo ganddo, neu o dan ei ewyllys, i’r ymddiriedolaeth
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Cyllid cyhoeddus ac ymweliadau y tu allan i'r DU

Cyllid cyhoeddus

Mae cyllid cyhoeddus a geir gan bleidiau cofrestredig yn rhoddion a ganiateir, heblaw am grantiau a delir tuag at gostau diogelwch mewn cynadleddau pleidiau.

Beth sydd angen i chi ei gofnodi?

Bydd angen i chi gofnodi:

  • enw llawn a chyfeiriad y sefydliad sy'n gwneud y taliad i'r blaid, e.e. Swyddfa Ffïoedd Tŷ'r Cyffredin
  • o dan ba ddarpariaeth y gwnaed y taliad i'r blaid, e.e. Penderfyniad Tŷ'r Cyffredin (nodwch ddyddiad a rhif, os yw'n gymwys)

Ymweliadau y tu allan i'r DU

Caiff taliadau a geir gan bleidiau cofrestredig i dalu costau cymwys rhesymol yr eir iddynt mewn cysylltiad ag ymweliad y tu allan i’r DU gan aelod neu swyddog o’r blaid eu trin fel rhoddion a ganiateir.

Mae costau cymwys mewn perthynas ag ymweliad yn cynnwys teithio i'r DU ac oddi yno, neu gostau teithio, llety neu gynhaliaeth yn ystod yr ymweliad.

Beth sydd angen i chi ei gofnodi?

Bydd angen i chi gofnodi:

  • enw llawn a chyfeiriad yr unigolyn neu'r sefydliad a ariannodd yr ymweliad
  • y dyddiad(au) y cynhaliwyd yr ymweliad
  • y wlad neu'r gwledydd lle y cynhaliwyd yr ymweliad
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Ffynonellau eraill

Pleidiau gwleidyddol cofrestredig

Rhaid i blaid fod ar gofrestr Prydain Fawr er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. Gallwch weld y rhestr lawn o bleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr ar ein cofrestr o bleidiau gwleidyddol.

Undebau llafur

Rhaid i undeb llafur fod wedi'i restru fel undeb llafur gan y Swyddog Ardystio er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. Dylech edrych ar y rhestr swyddogol o undebau llafur gweithredol ar wefan y Swyddog Ardystio.

Cymdeithasau adeiladu

Rhaid i gymdeithas adeiladu fod yn gymdeithas adeiladu o fewn ystyr Deddf Cymdeithasau Adeiladu 1986 er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. Dylech edrych ar y rhestr o gymdeithasau adeiladu sydd wedi'u cofrestru gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar y Gofrestr Gyhoeddus o Gwmnïau Cydfuddiannol.

Cymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus

Rhaid i gymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus fod wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974, Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 neu Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus (Gogledd Iwerddon) 1969 er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. Dylech edrych ar y Gofrestr Gyhoeddus o Gwmnïau Cydfuddiannol a gynhelir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Beth sydd angen i chi ei gofnodi?

Bydd angen i chi gofnodi: 

  • enw'r rhoddwr
  • y cyfeiriad, fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr berthnasol
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023

Pa roddion a benthyciadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt?

Rhaid i chi roi gwybod i ni am rai rhoddion a benthyciadau er mwyn i ni allu eu cyhoeddi i sicrhau tryloywder i bleidleiswyr. Rydyn ni’n cyhoeddi manylion am symiau a’r rhoddwyr a’r benthycwyr ar ein gwefan. Nid ydym yn cyhoeddi cyfeiriadau unigolion sy’n rhoi neu’n benthyca arian.1

Rhaid i chi gyflwyno adroddiadau chwarterol yn dangos rhoddion a dderbyniwyd a benthyciadau yr ymrwymodd eich plaid iddyn nhw yn ystod pob cyfnod adrodd. Rhaid i chi adrodd am yr holl roddion nas caniateir yr ymdriniwyd â nhw (a ddychwelwyd neu a fforffedwyd) a phob benthyciad nas caniateir yr ymrwymwyd iddyn nhw yn ystod y cyfnod adrodd perthnasol. Rhaid i chi hefyd adrodd am newidiadau penodol i fenthyciadau presennol. Mae adroddiadau ar wahân ar gyfer rhoddion a benthyciadau.

Rydyn ni’n defnyddio ‘buddion’ i gyfeirio at roddion a benthyciadau dros £500. Nid yw buddion o £500 neu lai wedi’u cynnwys yn y gyfraith ac nid oes angen eu cofnodi, eu hadio na’u hadrodd.2

Mae’r gofynion adrodd isod yn berthnasol i fuddion a dderbyniwyd gan sefydliad plaid ganolog. Os oes gan eich plaid unedau cyfrifyddu, trysorydd y blaid yn ganolog sy’n gyfrifol am adrodd am fuddion gan unedau cyfrifyddu hefyd.3  Mae trothwy adrodd gwahanol yn berthnasol i unedau cyfrifyddu. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr adran Pleidiau ag unedau cyfrifyddu.

Buddion a ganiateir

Mae’n ofynnol i bleidiau adrodd am fudd-daliadau sy’n uwch na throthwy penodol, boed hynny drwy rodd unigol neu drwy fudd-daliadau lluosog. Mae hyn yn sicrhau bod cydraddoldeb rhwng rhoddion a benthyciadau sengl a chyfanredol.  

Yn y ddeddfwriaeth, mae budd-daliadau lluosog yn adroddadwy pan fydd “swm cyfanredol” y budd-daliadau yn fwy na'r trothwy adrodd. Yn y canllawiau, rydym yn galw hyn yn grwpio budd-daliadau.

Y tro cyntaf y bydd cyfanswm yr holl roddion a ganiateir a dderbyniwyd neu fenthyciadau yr ymrwymir iddyn nhw o'r un ffynhonnell yn yr un flwyddyn galendr yn fwy na £11,180, mae’n rhaid i chi adrodd am y buddion hyn. Gall hyn fod yn un rhodd neu fenthyciad o dros £11,180, neu’n gyfuniad o fuddion sydd gyda’i gilydd yn dod i fwy na £11,180.4

Unwaith y byddwch wedi derbyn buddiant neu grŵp o fuddion o fwy na £11,180 mewn blwyddyn galendr, am weddill y flwyddyn mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw fuddion ychwanegol a gewch chi o’r un ffynhonnell bob tro y bydd cyfanswm y buddion nad oedd angen eu hadrodd yn flaenorol dros £2,230.5

Enghraifft: trothwy adrodd is

Mae partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn rhoi rhodd o £12,000 i blaid ym mis Mawrth a rhodd o £3,000 ym mis Gorffennaf.

Rhaid i'r blaid adrodd am y rhodd o £12,000, oherwydd ei bod dros y trothwy adrodd o £11,180. Ar ôl derbyn y rhodd hon, mae’r trothwy adrodd ar gyfer buddion pellach o’r un ffynhonnell yn disgyn i £2,230 am weddill y flwyddyn. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r blaid hefyd adrodd am y rhodd o £3,000, gan ei bod yn cyrraedd y trothwy isaf o fod dros £2,230.

Amserlen 12 mis o hyd sy’n dangos rhodd o £12,000 a dderbyniwyd ym mis Mawrth a rhodd o £3,000 gan yr un ffynhonnell a dderbyniwyd ym mis Gorffennaf. Mae’r ddau fenthyciad yn adroddadwy.

Buddion nas caniateir

Rhaid i chi adrodd am yr holl roddion dros £500 nas caniateir yr ymdriniwyd â nhw (a ddychwelwyd neu a fforffedwyd) a benthyciadau yr ymrwymwyd iddyn nhw yn ystod y chwarter perthnasol.6  Does dim angen i chi adio’r buddion nas caniateir gyda’i gilydd.

Newidiadau i fenthyciadau

Rhaid i chi adrodd am y newidiadau canlynol i fanylion y benthyciadau a ganiateir rydych eisoes wedi rhoi gwybod i ni amdanynt: 

Does dim angen i chi roi gwybod am ad-daliad rhannol o fenthyciad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Ionawr 2025

Grwpio buddion

Rhaid i chi adio buddion a ganiateir:

  • sydd dros £500
  • sydd o’r un ffynhonnell
  • sydd i’r un rhan o’r blaid (plaid ganolog neu uned gyfrifyddu)
  • sydd yn yr un flwyddyn galendr
  • sydd wedi’u derbyn ers y buddiant diwethaf a adroddwyd (os oes un)

Dylech adio’r holl fuddion yn y drefn y gwnaethoch eu derbyn. Rhaid i chi adrodd am grŵp o fuddion pan fydd y cyfanswm yn uwch na'r trothwy adrodd (naill ai £11,180 neu £2,230).1  Rhaid adrodd am yr holl fuddion yn y grŵp yn y chwarter lle mae’r cyfanswm a dderbyniwyd yn fwy na’r trothwy adrodd.2  Rhaid i bob buddiant yn y grŵp gael eu cofnodi a’u hadrodd ar wahân. 

Gall grŵp o fuddion gynnwys unrhyw gyfuniad o roddion a benthyciadau. Er enghraifft, mwy nag un rhodd, mwy nag un benthyciad neu gyfuniad o'r ddau. Os yw grŵp o fuddion yn cynnwys rhoddion a benthyciadau, rhaid i chi nodi hyn yn eich adroddiadau chwarterol.3

Gall grŵp o fuddion gynnwys un buddiant sy’n uwch na’r trothwy adrodd, os mai hwnnw yw’r buddiant sy’n mynd â’r cyfanswm yn y grŵp dros y trothwy.
 

Diagram yn dangos grŵp o fuddion sydd gyda’i gilydd yn uwch na’r trothwy adrodd, un buddiant sy’n uwch na’r trothwy adrodd, a grŵp o fuddion sy’n cynnwys buddiant sy’n uwch na’r trothwy adrodd

Enghraifft: grwpio rhoddion a benthyciadau

Mae unigolyn yn rhoi rhodd o £6,000 i blaid ac yna, yn yr un flwyddyn galendr, yn ymrwymo i fenthyciad o £12,000.

Rhaid i'r blaid adrodd am unrhyw fuddion a ganiateir pan fydd y cyfanswm o'r un ffynhonnell mewn blwyddyn galendr yn fwy na £11,180. O'u hadio at ei gilydd, cyfanswm gwerth y buddion hyn yw £18,000, sy'n fwy na'r trothwy o £11,180. Rhaid adrodd am y buddion yn y grŵp hwn yn y chwarter yr ymrwymwyd i’r benthyciad, gan mai dyma'r buddiant a aeth â'r cyfanswm dros y trothwy adrodd.

 Dros £2,230   Amserlen 12 mis o hyd sy’n dangos rhodd o £6,000 a dderbyniwyd ym mis Mai a benthyciad o £12,000 gan yr un ffynhonnell a dderbyniwyd ym mis Awst. Ychwanegwyd y budd-daliadau hyn at ei gilydd rac maent yn fwy na'r trothwy adrodd o £11,180, ac felly maent yn adroddadwy.

Unwaith y bydd grŵp o fuddion yn fwy na'r trothwy adrodd a bod yn rhaid adrodd amdanynt, ddylech chi ddim ychwanegu unrhyw fuddion pellach i'r grŵp hwn.1  Rhaid ychwanegu unrhyw fuddion pellach mewn grŵp newydd, ac mae'n rhaid i chi adrodd amdanynt pan fydd y cyfanswm yn y grŵp newydd yn fwy na'r trothwy adrodd. 

Diagram yn dangos grŵp o fuddion sy'n cyrraedd y trothwy adrodd a grŵp newydd, ar wahân o fuddion

Enghraifft: grwpiau o fuddion

Mae plaid wedi derbyn rhodd o dros £11,180 gan undeb llafur ac wedi adrodd amdani. Dros yr un flwyddyn, mae'r undeb llafur wedyn yn rhoi saith rhodd gwerth £1,000 yr un i'r blaid.

Oherwydd bod y blaid eisoes wedi adrodd am rodd gan yr undeb llafur, mae'r trothwy adrodd isaf o £2,230 yn berthnasol i fuddion pellach gan yr undeb y flwyddyn honno.

Mae’r tair rhodd gyntaf o £1,000 wedi’u grwpio gyda’i gilydd, gan fod y cyfanswm yn uwch na’r trothwy adrodd o £2,230. Rhaid i'r blaid adrodd am y rhoddion hyn yn y chwarter y derbyniwyd y trydydd rhodd, gan mai dyma'r rhodd a aeth â'r cyfanswm dros y trothwy.

Mae’r un peth yn wir am y tair rhodd nesaf, sy’n creu grŵp newydd sydd dros y trothwy adrodd. Rhaid i'r blaid adrodd am y rhoddion hyn yn y chwarter y derbyniwyd y trydydd o’r rhoddion hyn.

Nid oes angen adrodd am y rhodd derfynol ar hyn o bryd. Mae'n is na'r trothwy adrodd ac nid yw wedi'i grwpio gyda rhoddion blaenorol, gan eu bod eisoes mewn grwpiau o dros £2,230. Mae’n bosib y bydd angen adrodd amdani os bydd y rhoddwr yn gwneud rhoddion ychwanegol.

Amserlen 12 mis o hyd sy’n dangos rhodd o dros £11,180 a saith rhodd o £1,000 gan yr un ffynhonnell a dderbyniwyd. Mae’r rhodd o dros £11,180 a chwech o’r saith rhodd o £1,000 yn adroddadwy.
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Ionawr 2025

Pleidiau ag unedau cyfrifyddu

Rhaid i bleidiau ag unedau cyfrifyddu hefyd adrodd am roddion a ganiateir a dderbyniwyd, rhoddion nas caniateir yr ymdriniwyd â hwy, a benthyciadau yr ymrwymir iddynt gan eu hunedau cyfrifyddu.1  Rhaid i chi hefyd adrodd am newidiadau penodol i fenthyciadau presennol.

Nid yw trysoryddion unedau cyfrifyddu yn adrodd i ni ar wahân. Rhaid iddyn nhw roi'r holl wybodaeth berthnasol am fuddion i drysorydd y blaid ganolog pan ofynnir iddyn nhw wneud hynny. Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar drysorydd y blaid ganolog i roi gwybod am fuddion a dderbyniwyd gan y blaid ganolog a’r unedau cyfrifyddu.2

Buddion a ganiateir

Rhaid i chi adrodd am fuddion a ganiateir i uned gyfrifyddu bob tro y bydd cyfanswm y buddion a dderbyniwyd:

  • wedi dod gan yr un ffynhonnell
  • wedi digwydd yn yr un flwyddyn galendr
  • heb fod angen adrodd arnynt o'r blaen yn fwy na £2,230.

Buddion nas caniateir

Rhaid i chi roi gwybod am yr holl roddion nas caniateir yr ymdriniwyd â nhw a benthyciadau dros £500 yr ymrwymwyd iddyn nhw yn ystod y chwarter perthnasol. Does dim angen i chi adio’r buddion nas caniateir gyda’i gilydd.

Newidiadau i fenthyciadau

Rhaid i chi adrodd am y newidiadau canlynol i fanylion y benthyciadau a ganiateir rydych eisoes wedi rhoi gwybod i ni amdanynt:

Does dim angen i chi roi gwybod am ad-daliad rhannol o fenthyciad.

Cyrch diwedd blwyddyn

Yn adroddiadau Ch1-Ch3, ddylech chi ddim adio buddion o'r un ffynhonnell a dderbyniwyd gan wahanol adrannau o'r blaid at ei gilydd. Ar ddiwedd y flwyddyn galendr, yn eich adroddiadau Ch4, mae'n rhaid i chi gymryd cam ychwanegol i adrodd am fuddion o'r un ffynhonnell a dderbyniwyd gan wahanol adrannau o'r blaid: y cyrch diwedd blwyddyn. 

Camau allweddol

  • Cam 1: dylech gwblhau eich adroddiadau Ch4 fel arfer, gan adrodd ar fuddion i'r blaid ganolog a'r unedau cyfrifyddu sy'n bodloni'r trothwyon adrodd.
  • Cam 2: Yna mae'n rhaid i chi nodi unrhyw fuddion a ganiateir sydd wedi'u derbyn gan unedau cyfrifyddu ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, ond nas adroddwyd oherwydd eu bod o dan y trothwy adrodd. 
  • Cam 3: Dylid trin y buddion hyn fel pe baen nhw wedi cael eu derbyn gan y blaid ganolog ar ddiwrnod olaf y flwyddyn (31 Rhagfyr). 
  • Cam 4: Rhaid i chi adrodd am y buddion hyn mewn grwpiau os ydyn nhw’n cyrraedd trothwy adrodd y blaid ganolog sy'n berthnasol ar y dyddiad hwnnw. Y trothwy fydd naill ai £11,180, neu, os yw’r blaid ganolog eisoes wedi derbyn buddion o fwy na £11,180 gan y ffynhonnell honno yn ystod y flwyddyn, £2,230.

Gellir grwpio'r buddion hyn gyda buddion eraill nas adroddwyd o'r un ffynhonnell sydd wedi'u derbyn gan y blaid ganolog. Wrth grwpio buddion, dylech ddechrau gydag unrhyw fuddion i'r blaid ganolog nas adroddwyd ac yna adio unrhyw fuddion nas adroddwyd at yr unedau cyfrifyddu yn y drefn y cawsant eu derbyn.

Os yw grŵp yn mynd dros y trothwy, rhaid i chi adrodd am y buddion yn unigol, gan roi manylion yr uned gyfrifyddu a’u derbyniodd, a’r dyddiad y cawsant eu derbyn gan yr uned gyfrifyddu. Yn eich adroddiadau Ch4, rhaid i chi nodi buddion rydych yn adrodd amdanynt fel rhan o'r cyrch diwedd blwyddyn.7

Diagram yn dangos rhoddion i unedau cyfrifyddu nas adroddwyd yn cael eu grwpio gyda rhoddion i'r blaid ganolog nas adroddwyd
Diagram yn dangos rhoddion i unedau cyfrifyddu nas adroddwyd yn cael eu grwpio gyda rhoddion i'r blaid ganolog nas adroddwyd

Enghraifft: grwpio buddion plaid ganolog ac uned gyfrifyddu

Yn Ch1, mae cwmni'n gwneud rhodd o £10,000 i'r blaid ganolog a dwy rodd o £1,000 i wahanol unedau cyfrifyddu. Nid adroddir am y rhoddion hyn yn Ch1, gan eu bod o dan y trothwyon adrodd perthnasol (£11,180 ar gyfer y blaid ganolog, a £2,230 ar gyfer yr unedau cyfrifyddu).

Yn Ch4, caiff y rhoddion i'r unedau cyfrifyddu eu trin fel petaen nhw wedi'u derbyn gan y blaid ganolog ar 31 Rhagfyr. Mae cyfanswm y rhoddion o'r un ffynhonnell bellach yn £12,000, sy'n uwch na throthwy adrodd y blaid ganolog. Rhaid i'r blaid adrodd am y rhoddion hyn, gan roi manylion pa adran o'r blaid a'u derbyniodd a'r dyddiad yn Ch1 y cawsant eu derbyn.

Enghraifft: grwpio buddion plaid ganolog ac uned gyfrifyddu

Mae'r blaid ganolog yn derbyn rhodd o dros £11,180 yn Ch1 ac yn adrodd amdani.

Mae'r un rhoddwr hefyd yn gwneud tair rhodd o £1,000 i wahanol unedau cyfrifyddu yn Ch2. Nid adroddir am y rhoddion hyn ar hyn o bryd, gan eu bod yn is na'r trothwy adrodd ar gyfer unedau cyfrifyddu. Yn Ch4, mae'r blaid ganolog yn derbyn rhodd ychwanegol o £2,000. Ar ei phen ei hun, mae'r rhodd hon yn is na throthwy adrodd y blaid ganolog o £2,230.

Yn Ch4, caiff y rhoddion i'r unedau cyfrifyddu eu trin fel petaen nhw wedi'u derbyn gan y blaid ganolog ar 31 Rhagfyr. Mae'r rhodd gyntaf o £1,000 wedi'i grwpio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Rhagfyr 2024

Sut i roi gwybod am roddion a benthyciadau

Rhaid i ni dderbyn eich adroddiadau o fewn 30 diwrnod o ddiwedd pob chwarter adrodd. Byddwn yn ymchwilio i unrhyw fethiant i gyflwyno adroddiad o fewn y terfyn amser yn unol â'n Polisi Gorfodi.

Dyma'r terfynau amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau chwarterol: 

ChwarterDyddiad y dylid cyflwyno'r adroddiad
Un (1 Ionawr – 31 Mawrth)30 Ebrill
Dau (1 Ebrill – 30 Mehefin)30 Gorffennaf
Tri (1 Gorffennaf – 30 Medi)  30 Hydref
Pedwar (1 Hydref – 31 Rhagfyr)30 Ionawr

Cyflwyno eich adroddiadau

Gallwch gyflwyno eich adroddiadau chwarterol ar CPE Ar-lein. Fel arall, gallwch lawrlwytho'r ffurflenni adrodd isod ac anfon y ffurflenni wedi'u cwblhau atom drwy e-bost i [email protected] neu gallwch eu hanfon atom drwy'r post. 

Eithriadau o ran adroddiadau chwarterol

Os nad ydych wedi cael unrhyw roddion, wedi trefnu unrhyw fenthyciadau newydd nac wedi gwneud unrhyw newidiadau i'ch benthyciadau presennol, bydd angen i chi gyflwyno adroddiadau chwarterol o hyd. Gelwir hwn yn ‘adroddiad dim trafodion’. Gallwch gyflwyno adroddiadau dim trafodion drwy CPE Ar-lein neu, os byddwch yn defnyddio'r ffurflenni papur, bydd angen ffurflen RP10QN arnoch ar gyfer rhoddion a ffurflen RP10QNB ar gyfer benthyciadau. 

Os byddwch yn cyflwyno pedwar adroddiad dim trafodion yn olynol, byddwch wedi'ch eithrio rhag cyflwyno adroddiadau pellach hyd nes y byddwch yn cael rhodd adroddadwy arall, yn trefnu benthyciad newydd neu'n gwneud newidiadau i fenthyciad presennol. Os nad ydych yn siŵr a yw eich plaid wedi'i heithrio rhag cyflwyno adroddiad chwarterol am roddion neu fenthyciadau, cysylltwch â ni.

Hyd yn oed os ydych wedi'ch eithrio rhag cyflwyno adroddiadau chwarterol, rhaid i chi gyflwyno cyfrifon blynyddol ar gyfer eich plaid o hyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Awst 2024

Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Pan gyhoeddir etholiad cyffredinol Senedd y DU, rhaid i chi adrodd i ni bob wythnos, oni bai eich bod wedi cyflwyno datganiad i ni yn nodi na fyddwch yn cyflwyno unrhyw ymgeiswyr i sefyll yn yr etholiad. 

Gallwch wneud y datganiad hwn drwy gyflwyno Ffurflen RP6 wedi'i chwblhau i ni ar unrhyw adeg hyd at saith diwrnod ar ôl cyhoeddi'r etholiad. Gallwch dynnu'r datganiad yn ôl os bydd eich plaid yn penderfynu cyflwyno ymgeiswyr i sefyll. 

Pan gaiff etholiad cyffredinol Senedd y DU ei gyhoeddi, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi sut i adrodd i ni a byddwn yn rhoi manylion ar ein gwefan.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Mai 2024