Byddwch fel arfer yn ‘cael’ rhodd ar y diwrnod y byddwch yn dod yn berchen arni.
Er enghraifft:
os rhoddir taflenni am ddim i chi, byddwch yn cael y rhodd pan gaiff y taflenni eu trosglwyddo i chi
os rhoddir siec i chi, byddwch yn cael y rhodd ar y diwrnod y bydd y siec yn cael ei chlirio
os trosglwyddir rhodd yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc, byddwch yn cael y rhodd ar y dyddiad y bydd yr arian yn cyrraedd eich cyfrif
Pryd y byddwch yn derbyn rhodd?
Byddwch yn derbyn rhodd ar y diwrnod y byddwch yn cytuno i gadw'r rhodd. Ar gyfer rhoddion nad ydynt yn rhai ariannol, os byddwch yn defnyddio'r rhodd, byddwch wedi'i derbyn o ganlyniad. Os bydd eich plaid yn cadw rhodd ar ôl y cyfnod o 30 diwrnod, ystyrir hefyd eich bod wedi'i derbyn.