Rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr

| Argraffu'r canllawiau llawn

Creu tudalen cyllido torfol

Dylech sicrhau bod eich tudalen cyllido torfol yn darparu gwybodaeth am bwy sy'n cael yr arian ac at ba ddiben. Er enghraifft, a yw'r gronfa'n mynd tuag at eich plaid wleidyddol neu i dalu gwariant ymgyrch etholiadol eich ymgeisydd. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod trothwyon cofnodi ac adrodd gwahanol ar gyfer rhoddion pleidiau ac ymgeiswyr.

Dylech sicrhau bod y dudalen yn cynnwys gwybodaeth er mwyn egluro y cynhelir gwiriadau caniatâd yn unol â'r gyfraith. Dylech fod yn glir ynghylch y rhesymau pam eich bod yn casglu unrhyw wybodaeth.

Yn ogystal, dylai'ch tudalen cyllido torfol egluro y gall gwybodaeth am roddion a rhoddwyr ar gyfer rhoddion dros £500, gan gynnwys rhoddion preifat, gael ei hadrodd i Swyddogion Canlyniadau. Gallwch ddod o hyd i ddiffiniad y term ‘rhodd cyllido torfol preifat’, yn Dewis platfform cyllido torfol. Rydym yn cyhoeddi manylion y symiau a'r rhoddwyr ar ein gwefan er mwyn darparu tryloywder i bleidleiswyr. Nid ydym yn cyhoeddi cyfeiriadau unigolion sy'n rhoi.1

Rydym yn argymell eich bod yn glir ac yn egluro y bydd rhaid i'r rhodd gael ei dychwelyd os yw'r rhoddwr yn parhau'n anhysbys, neu ei fod yn rhoddwr heb ganiatâd. Os na fyddwch yn cael digon o wybodaeth am roddwr, efallai bydd angen i chi gysylltu â nhw i ofyn am ragor o fanylion.

Rydym yn argymell eich bod yn cynnwys argraffnod ar eich tudalen cyllido torfol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am argraffnodau digidol yn Argraffnodau.

Os ydych chi'n bwriadu creu ymgyrch cyllido torfol ac rydych chi'n ansicr ynghylch pa ofynion sy'n berthnasol, neu sut i gynllunio eich ymgyrch i fodloni gofynion, gallwch chi gysylltu â ni am gyngor.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Mawrth 2026