Rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr
Termau a ddefnyddir yn y canllawiau hyn
Uned gyfrifyddu
Adran o blaid sydd wedi'i chofrestru â'r Comisiwn Etholiadol sy'n gyfrifol am ei chyllid ei hun. Mae gan bob uned gyfrifyddu ei thrysorydd cofrestredig ei hun a swyddog ychwanegol.
Budd
O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), defnyddir ‘budd’ i gyfeirio at roddion a benthyciadau sy'n werth dros £500 gyda'i gilydd.
Cymynrodd
Arian neu eiddo a roddir i rywun drwy ewyllys.
Y blaid ganolog
Sefydliad canolog, neu bencadlys, plaid. Mae trysorydd y blaid ganolog yn gyfrifol am sicrhau bod y blaid yn cydymffurfio â'r rheolaethau ariannol o dan PPERA.
Rhodd
O dan PPERA, mae rhodd yn cynnwys arian, nwyddau, neu wasanaethau a roddir i blaid, am ddim neu ar delerau anfasnachol, ac sy'n werth dros £500.
Mae enghreifftiau cyffredin o roddion yn cynnwys:
- rhodd o arian neu eiddo
- nawdd i ddigwyddiad neu gyhoeddiad
- tanysgrifiad neu daliadau ymlyniad
- defnydd am ddim, neu am bris gostyngol arbennig, o swyddfa
Gweler Pa roddion a gwmpesir gan y rheolau? am ragor o wybodaeth.
Nas caniateir
Defnyddir y term ‘nas caniateir’ i gyfeirio at roddion a benthyciadau na all pleidiau eu derbyn/trefnu o dan PPERA. Yn ein canllawiau a'n ffurflenni, byddwn weithiau'n defnyddio'r term ‘trafodion anawdurdodedig’ i gyfeirio at fenthyciadau nas caniateir, sef y term a ddefnyddir yn PPERA.
Benthyciad
O dan PPERA, caiff y mathau canlynol o drafodion eu rheoleiddio, os byddant yn werth dros £500:
- benthyciadau ariannol
- cyfleusterau credyd, megis cardiau credyd a gorddrafftiau
- sicrhadau neu warantau ar gyfer rhwymedigaethau plaid i rywun arall
O dan PPERA, caiff y rhain eu galw'n drafodion a reoleiddir. Yn y canllawiau hyn, defnyddir y term ‘benthyciadau’ i gyfeirio at bob un o'r mathau hyn o drafodion.
Gweler Pa fenthyciadau a gwmpesir gan y rheolau? am ragor o wybodaeth.
Gwerth marchnadol
Y pris y gellid disgwyl yn rhesymol ei dalu am eitem, nwyddau neu wasanaeth pe bai'r eitem ar werth ar y farchnad agored.
Plaid lai
Plaid sydd wedi'i chofrestru â'r Comisiwn Etholiadol ar gofrestr Prydain Fawr y gall ond ymladd etholiadau cynghorau cymuned a/neu blwyf yng Nghymru a Lloegr, yn y drefn honno. O dan PPERA, nid yw pleidiau llai yn gorfod dilyn y rheolaethau ariannol y mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol cofrestredig gydymffurfio â nhw ac nid oes rhaid iddynt roi gwybod am roddion na benthyciadau.
Etholwr tramor
Dinesydd Prydeinig sy'n byw dramor sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU.
A ganiateir
Defnyddir y term ‘a ganiateir’ i gyfeirio at roddion a benthyciadau y gall pleidiau eu derbyn/trefnu o dan PPERA. Yn ein canllawiau a'n ffurflenni, byddwn weithiau'n defnyddio'r term ‘trafodion awdurdodedig’ i gyfeirio at fenthyciadau a ganiateir, sef y term a ddefnyddir yn PPERA.
CYLLID CYHOEDDUS
Taliadau yw'r rhain gan:
- Gronfeydd Cyfunol y Deyrnas Unedig, yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon, yn y drefn honno
- arian a roddir gan y Senedd neu a neilltuir drwy Ddeddf Cynulliad Gogledd Iwerddon
- unrhyw un o Weinidogion y Goron, Gweinidogion Cymru, Gweinidogion yr Alban neu unrhyw Weinidog o fewn ystyr Deddf Gogledd Iwerddon 1998
- unrhyw adran o'r llywodraeth (gan gynnwys un o adrannau Gogledd Iwerddon), Llywodraeth Cynulliad Cymru neu unrhyw ran o Weinyddiaeth yr Alban
- Comisiwn Senedd Cymru, Corff Corfforedig Senedd yr Alban neu Gomisiwn Cynulliad Gogledd Iwerddon
- y Comisiwn Etholiadol.
Plaid wleidyddol gofrestredig
Plaid sydd wedi'i chofrestru â'r Comisiwn Etholiadol o dan PPERA. Gall pleidiau fod wedi'u cofrestru o dan gofrestr Prydain Fawr neu gofrestr Gogledd Iwerddon a rhaid iddynt gydymffurfio â'r rheolaethau a'r cyfrifoldebau a nodir o dan PPERA.
Cymdeithas anghorfforedig
Cymdeithas â dau unigolyn neu fwy sydd wedi dod ynghyd i gyflawni diben a rennir. Gweler Cymdeithasau anghorfforedig am ragor o wybodaeth.