Beth sy'n gwneud ymddiriedolaeth yn ffynhonnell a ganiateir?
Ymddiriedolaethau a sefydlwyd cyn 27 Gorffennaf 1999
Mae ymddiriedolaeth a sefydlwyd cyn 27 Gorffennaf 1999 yn ffynhonnell a ganiateir
os na throsglwyddwyd unrhyw eiddo i'r ymddiriedolaeth ers y dyddiad hwn, ac
os nad yw telerau'r ymddiriedolaeth wedi amrywio ers y dyddiad hwn
Os yw ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth a sefydlwyd cyn 1999, rhaid i chi roi gwybod am y canlynol:
bod y rhodd gan ymddiriedolwr;
y dyddiad y cafodd yr ymddiriedolaeth ei chreu;
enw llawn y
sawl a sefydlodd yr ymddiriedolaeth;
pob unigolyn neu sefydliad y trosglwyddwyd eiddo ganddo, neu o dan ei ewyllys, i’r ymddiriedolaeth cyn 27 Gorffennaf 1999
Ymddiriedolaethau rhoddwyr a ganiateir
Mae'n bosibl i ymddiriedolaethau rhoddwyr a ganiateir fod wedi'u sefydlu cyn neu ar ôl 27 Gorffennaf 1999.
Mae ymddiriedolaeth rhoddwr a ganiateir yn ffynhonnell a ganiateir
os cafodd yr ymddiriedolaeth ei sefydlu gan unigolyn neu sefydliad a oedd yn ffynhonnell a ganiateir ar y pryd; ac
os mai dim ond eiddo gan ffynonellau a ganiateir a drosglwyddwyd i'r ymddiriedolaeth
Os cafodd ymddiriedolaeth ei sefydlu gan ewyllys unigolyn, rhaid i'r unigolyn hwnnw fod wedi bod ar un o gofrestrau etholiadol y DU ar unrhyw adeg o fewn pum mlynedd cyn dyddiad ei farwolaeth.
Ni all ymddiriedolaeth fod yn ymddiriedolaeth rhoddwr a ganiateir os yw wedi cael unrhyw eiddo o ffynhonnell nas caniateir neu ffynhonnell anhysbys.
Os yw'r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth rhoddwr a ganiateir, rhaid i chi roi gwybod am y canlynol:
bod y rhodd gan ymddiriedolwr;
manylion gofynnol
yr unigolyn neu'r sefydliad a sefydlodd yr ymddiriedolaeth er mwyn sicrhau ei fod yn ffynhonnell a ganiateir;
pob unigolyn neu sefydliad arall y trosglwyddwyd eiddo ganddo, neu o dan ei ewyllys, i’r ymddiriedolaeth