Argraffnodau
Beth yw argraffnod?
Rhaid i rai deunyddiau ymgyrchu gynnwys argraffnod. Mae argraffnodau yn nodi pwy sy'n gyfrifol am gyhoeddi deunydd ymgyrchu ac ar ran pwy y maent yn ei hyrwyddo. Mae argraffnodau yn eich helpu i ddeall pwy sy'n ceisio dylanwadu arnoch drwy'r deunydd ymgyrchu.
Ystyr deunydd ymgyrchu (argraffedig a digidol) yw unrhyw ddeunydd y mae pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr neu Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ei anfon at bleidleiswyr. Gallai ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau yn yr etholaeth, gwybodaeth am bolisi, neu ddeunydd hyrwyddo ar gyfer etholiad neu refferendwm, er enghraifft.
Rhaid i rai deunyddiau gynnwys argraffnod yn ôl y gyfraith. Mae gwahanol reolau ar argraffnodau gan ddibynnu ar y math o ddeunydd.
Rhaid i argraffnod gynnwys enw a chyfeiriad yr unigolyn neu'r sefydliad sydd wedi cyhoeddi'r deunydd. Os bydd wedi ei gyhoeddi ar ran rhywun arall, rhaid i'r argraffnod hefyd gynnwys enw a chyfeiriad yr unigolyn neu'r sefydliad hwnnw.
Rhaid i ddeunydd argraffedig hefyd gynnwys enw a chyfeiriad yr argraffwr.
Cadarnhau a oes angen argraffnod
Wedi sylwi ar ddeunydd heb argraffnod? Defnyddiwch yr adnodd hwn i gadarnhau a oes angen iddo gynnwys un.
Imprints on digital and printed material
Guidance
Os ydych yn ymgyrchydd, gallwch gael rhagor o wybodaeth am argraffnodau yn ein canllaw.