Beth i'w wneud os byddwch yn cael rhodd gan ffynhonnell nas caniateir neu ffynhonnell anhysbys?
Os byddwch yn cael rhodd nad yw gan ffynhonnell a ganiateir, rhaid i chi ei dychwelyd o fewn 30 diwrnod. Os bydd eich plaid yn cadw'r rhodd nas caniateir ar ôl y cyfnod o 30 diwrnod, ystyrir eich bod wedi'i derbyn.
Os bydd eich plaid yn derbyn rhodd nas caniateir, gall eich plaid fod yn ddarostyngedig i sancsiynau sifil. Mae'n bosibl hefyd y bydd y blaid a'r trysorydd wedi cyflawni troseddau. Ymdrinnir ag unrhyw achos posibl o dorri'r rheolau yn unol â'n Polisi Gorfodi.
Os ydych wedi derbyn rhodd nas caniateir, dylech ddweud wrthym cyn gynted â phosibl.
Rhaid i chi gofnodi:
enw'r ffynhonnell, os yw'n hysbys
swm y rhodd, os yw'n rhodd ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw'n rhodd nad yw'n ariannol
sut y rhoddwyd y rhodd
y dyddiad y cawsoch y rhodd
y dyddiad y dychwelwyd y rhodd gennych
y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, yr unigolyn neu'r sefydliad y dychwelwyd y rhodd iddo)
Rhaid i chi gynnwys pob rhodd nas caniateir yn eich adroddiad chwarterol.
Sut ydych yn dychwelyd rhodd nas caniateir?
Os ydych yn gwybod pwy yw'r rhoddwr, rhaid i chi ei dychwelyd iddo o fewn 30 diwrnod i gael y rhodd.
Os daw'r rhodd o ffynhonnell anhysbys (er enghraifft, rhodd ariannol o £600 yn ddienw), rhaid i chi ei dychwelyd o fewn 30 diwrnod i gael y rhodd i'r canlynol:
y sawl a drosglwyddodd y rhodd i chi; neu
y sefydliad ariannol a ddefnyddiwyd i drosglwyddo'r rhodd
Os nad ydych yn gwybod pwy yw'r naill na'r llall, rhaid i chi anfon y rhodd at y Comisiwn Etholiadol. Byddwn yn ei thalu i mewn i'r Gronfa Gyfunol, a gaiff ei rheoli gan Drysorlys Ei Mawrhydi.
Os byddwch wedi ennill llog ar y rhodd cyn i chi ei dychwelyd, gallwch ei gadw. Ni chaiff y llog hwn ei drin fel rhodd ac nid oes angen rhoi gwybod amdano.