Rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr
Grwpio buddion
Rhaid i chi adio buddion a ganiateir:
- sydd dros £500
- sydd o’r un ffynhonnell
- sydd i’r un rhan o’r blaid (plaid ganolog neu uned gyfrifyddu)
- sydd yn yr un flwyddyn galendr
- sydd wedi’u derbyn ers y buddiant diwethaf a adroddwyd (os oes un)
Dylech adio’r holl fuddion yn y drefn y gwnaethoch eu derbyn. Rhaid i chi adrodd am grŵp o fuddion pan fydd y cyfanswm yn uwch na'r trothwy adrodd (naill ai £11,180 neu £2,230).1 Rhaid adrodd am yr holl fuddion yn y grŵp yn y chwarter lle mae’r cyfanswm a dderbyniwyd yn fwy na’r trothwy adrodd.2 Rhaid i bob buddiant yn y grŵp gael eu cofnodi a’u hadrodd ar wahân.
Gall grŵp o fuddion gynnwys unrhyw gyfuniad o roddion a benthyciadau. Er enghraifft, mwy nag un rhodd, mwy nag un benthyciad neu gyfuniad o'r ddau. Os yw grŵp o fuddion yn cynnwys rhoddion a benthyciadau, rhaid i chi nodi hyn yn eich adroddiadau chwarterol.3
Gall grŵp o fuddion gynnwys un buddiant sy’n uwch na’r trothwy adrodd, os mai hwnnw yw’r buddiant sy’n mynd â’r cyfanswm yn y grŵp dros y trothwy.

Enghraifft: grwpio rhoddion a benthyciadau
Mae unigolyn yn rhoi rhodd o £6,000 i blaid ac yna, yn yr un flwyddyn galendr, yn ymrwymo i fenthyciad o £12,000.
Rhaid i'r blaid adrodd am unrhyw fuddion a ganiateir pan fydd y cyfanswm o'r un ffynhonnell mewn blwyddyn galendr yn fwy na £11,180. O'u hadio at ei gilydd, cyfanswm gwerth y buddion hyn yw £18,000, sy'n fwy na'r trothwy o £11,180. Rhaid adrodd am y buddion yn y grŵp hwn yn y chwarter yr ymrwymwyd i’r benthyciad, gan mai dyma'r buddiant a aeth â'r cyfanswm dros y trothwy adrodd.

Unwaith y bydd grŵp o fuddion yn fwy na'r trothwy adrodd a bod yn rhaid adrodd amdanynt, ddylech chi ddim ychwanegu unrhyw fuddion pellach i'r grŵp hwn.1 Rhaid ychwanegu unrhyw fuddion pellach mewn grŵp newydd, ac mae'n rhaid i chi adrodd amdanynt pan fydd y cyfanswm yn y grŵp newydd yn fwy na'r trothwy adrodd.

Enghraifft: grwpiau o fuddion
Mae plaid wedi derbyn rhodd o dros £11,180 gan undeb llafur ac wedi adrodd amdani. Dros yr un flwyddyn, mae'r undeb llafur wedyn yn rhoi saith rhodd gwerth £1,000 yr un i'r blaid.
Oherwydd bod y blaid eisoes wedi adrodd am rodd gan yr undeb llafur, mae'r trothwy adrodd isaf o £2,230 yn berthnasol i fuddion pellach gan yr undeb y flwyddyn honno.
Mae’r tair rhodd gyntaf o £1,000 wedi’u grwpio gyda’i gilydd, gan fod y cyfanswm yn uwch na’r trothwy adrodd o £2,230. Rhaid i'r blaid adrodd am y rhoddion hyn yn y chwarter y derbyniwyd y trydydd rhodd, gan mai dyma'r rhodd a aeth â'r cyfanswm dros y trothwy.
Mae’r un peth yn wir am y tair rhodd nesaf, sy’n creu grŵp newydd sydd dros y trothwy adrodd. Rhaid i'r blaid adrodd am y rhoddion hyn yn y chwarter y derbyniwyd y trydydd o’r rhoddion hyn.
Nid oes angen adrodd am y rhodd derfynol ar hyn o bryd. Mae'n is na'r trothwy adrodd ac nid yw wedi'i grwpio gyda rhoddion blaenorol, gan eu bod eisoes mewn grwpiau o dros £2,230. Mae’n bosib y bydd angen adrodd amdani os bydd y rhoddwr yn gwneud rhoddion ychwanegol.

- 1. Adran 62(4)(b), (6), (6A)(b); adran 71M(4)(b), (6), (7)(b) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 62(5)(b), (7)(b); a71M(5)(b), (8)(b) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 6 paragraff 5A; Atodlen 6A paragraff 5(5) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 1. Adran 62(6) ac adran A71M(6) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1