Rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr

| Argraffu'r canllawiau llawn

Cofnodi ac adrodd am roddion cyllido torfol

Cyn cwblhau a chyflwyno adroddiad rhoddion a benthyciadau, dylech sicrhau eich bod wedi cynnal gwiriadau caniatâd ar bob rhodd dros £500 a chofnodi manylion perthnasol.

Rhoddion rydych chi wedi’u derbyn

Os ydych chi’n derbyn rhodd o dros £500, mae’n rhaid i chi gofnodi:

  • y manylion gofynnol ar gyfer y math o roddwr (gweler Gan bwy allwch chi dderbyn rhoddion? am ganllawiau ar y manylion y mae'n rhaid i chi eu cofnodi ar gyfer pob math o ffynhonnell)1
  • adran y blaid sydd wedi derbyn y rhodd (plaid ganolog neu uned gyfrifyddu)2
  • y swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd anariannol)3
  • y dyddiad y gwnaethoch chi gael y rhodd
  • y dyddiad y derbynioch y rhodd4

Rhoddion rydych chi wedi’u dychwelyd

Os ydych chi’n cael rhodd o dros £500 gan ffynhonnell nas caniateir, mae’n rhaid i chi gofnodi’r manylion hyn:

  • enw a chyfeiriad y rhoddwr (oni bai bod y rhodd wedi’i rhoi yn ddienw)5
  • swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd anariannol)6
  • y modd y cyflwynwyd y rhodd7  
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd8
  • y dyddiad y dychweloch y rhodd9
  • y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, y person neu’r sefydliad y gwnaethoch ei dychwelyd iddo)10

Mae diffiniad o'r term 'rhodd ddienw' i'w gael yn Dewis llwyfan cyllido torfol.

Ffioedd platfform cyllido torfol

Mae'n bosibl y bydd llwyfannau cyllido torfol yn codi ffioedd am drafodiadau rhodd, trosglwyddo arian, ac am ddefnyddio eu llwyfan. 

Os yw eich tudalen cyllido torfol yn hysbysebu eich plaid, yna bydd y ffi am ddefnyddio'r llwyfan yn cyfrif fel gwariant plaid o dan y categori Hysbysebu. Os codir y ffi hon yn ystod cyfnod a reoleiddir, bydd angen i chi roi gwybod am y manylion hyn yn eich ffurflen wariant. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad penodol drwy ddefnyddio ein tudalen chwilio Adrodd ar wariant etholiad.

Os ydych chi'n ansicr a yw eich tudalen cyllido torfol yn hysbysebu eich plaid, cysylltwch â ni am gyngor.

Adrodd ar roddion a gwariant

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ofynion adrodd ar dudalen Pa roddion a benthyciadau sydd angen i chi eu hadrodd? ein canllawiau.

Os nad ydych yn siŵr pa ofynion adrodd sy'n gymwys, gallwch gysylltu â ni am gyngor.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Rhagfyr 2025