| Argraffu'r canllawiau llawn

Cyllido torfol

Cyllido torfol yw'r defnydd o blatfform ar y we i gasglu rhoddion. Yn gyffredinol, mae'r platfform yn cael ei reoli gan ddarparwr trydydd parti ac mae gan bob ymgyrch codi arian unigol dudalen ar y wefan. 

Mae ymgyrchoedd fel arfer yn cael eu cynnal am gyfnod penodol o amser. Bydd y rhai sy’n codi arian yn aml yn dewis dyddiad cau ar gyfer cyrraedd nod codi arian. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, mae'r arian a godir, ac eithrio ffi a dalwyd i'r darparwr, yn cael ei drosglwyddo i'r rhai sy'n codi arian.

Mae yna wahanol ffyrdd y gall platfformau cyllido torfol drosglwyddo arian i’r rhai sy’n codi arian. Efallai y bydd rhai platfformau yn caniatáu i chi dynnu arian o’r cyfrif tra bod eich ymgyrch yn dal i gael ei chynnal. Dim ond pan fydd eich ymgyrch wedi dod i ben y bydd platfformau eraill yn trosglwyddo arian i chi. 

Os ydych yn casglu rhoddion drwy gyllido torfol, mae'n rhaid i chi gydymffurfio â'r gyfraith ar roddion. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ba roddion a reoleiddir yn Pa roddion a gynhwysir o dan y rheolau?

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Rhagfyr 2025