Cosbau ariannol amrywiadwy

Dirwy amrywiadwy yw cosb ariannol amrywiadwy, a gyfrifir yn ôl natur y drosedd. Gellir ei defnyddio ar ei phen ei hun neu ar y cyd â hysbysiad cydymffurfio a/neu hysbysiad adfer.

Wrth bennu lefel cosb ariannol amrywiadwy, byddwn yn ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 7.4. Mae Gorchymyn Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda (Cosbau Sifil) 2010 yn gwneud y gosb ariannol amrywiadwy uchaf y gallwn ei gosod dan unrhyw amgylchiadau yn £20,000, ond mae hyn yn amodol ar gyfyngiadau eraill a all fod yn berthnasol mewn gwahanol rannau o’r DU.

Bydd yr hysbysiad sy'n cynnig y gosb yn cynnwys:

  • Y sail dros y cynnig i roi'r gofyniad dewisol
  • Yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau
  • Yr amgylchiadau pan na chaiff y Comisiwn roi'r gofyniad dewisol
  • Y cyfnod pan ellir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau.

Bydd yr hysbysiad yn rhoi'r gosb yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Y seiliau dros roi'r gosb
  • Sut i dalu
  • Sut i apelio yn erbyn y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad
  • Y terfyn amser ar gyfer unrhyw apêl 
  • Y terfyn amser ar gyfer talu (28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad yn rhoi'r gosb, ar ôl y dyddiad hwnnw bydd y gosb yn cynyddu) Yr amgylchiadau lle y gallwn gymryd camau cyfreithiol sifil i adennill y ddyled os na chaiff y gosb ei thalu

Os nad yw cosb ariannol amrywiadwy wedi cael ei thalu o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r hysbysiad yn ei rhoi gael ei gyflwyno, caiff tâl am dalu'n hwyr o 25% o'r gosb ei ychwanegu. Os nad yw'r gosb na'r tâl am dalu'n hwyr wedi cael eu talu o fewn 56 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad, bydd y tâl am dalu'n hwyr yn cynyddu i 50% o'r gosb wreiddiol.

Gall y derbynnydd apelio i lys sirol neu, yn yr Alban, y siryf yn erbyn y penderfyniad i roi cosb ariannol amrywiadwy. Mae'n rhaid i unrhyw apêl gael ei chyflwyno o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad yn rhoi'r gosb.

Unwaith y byddwn wedi cyflwyno hysbysiad sy'n rhoi'r gosb ariannol amrywiadwy, ni all y derbynnydd ar unrhyw adeg gael ei euogfarnu am y drosedd a arweiniodd at y gosb.

Hysbysiadau cydymffurfio

Mae hysbysiad cydymffurfio yn nodi'r camau y mae'n rhaid i sefydliad neu unigolyn a reoleiddir sydd wedi torri'r gyfraith eu cymryd, fel na fydd y tor-cyfraith yn parhau nac yn digwydd eto. Gellir defnyddio hysbysiad cydymffurfio ar ei ben ei hun, neu ar y cyd â chosb ariannol amrywiadwy.

Lle byddwn yn cynnig cyflwyno hysbysiad cydymffurfio, byddwn yn anfon hysbysiad o gynnig at y person dan sylw. Bydd hwn yn esbonio'r sail dros roi'r hysbysiad cydymffurfio, ac yn nodi'r camau rydym yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i'r person eu cymryd. Bydd hefyd yn nodi sut y gall y derbynnydd gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynglŷn â'r penderfyniad.

Pan fydd y terfyn amser ar gyfer cyflwyno sylwadau wedi mynd heibio a phan fydd unrhyw sylwadau wedi cael eu hystyried, byddwn yn penderfynu a ddylid cyflwyno hysbysiad cydymffurfio.
 

Bydd yr hysbysiad yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Y camau gweithredu a'r terfynau amser i'w cwblhau
  • Yr hyn a fydd yn digwydd os bydd diffyg cydymffurfiaeth
  • Sut i apelio yn erbyn y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad
  • Y terfyn amser ar gyfer unrhyw apêl

Gall y derbynnydd apelio i lys sirol neu, yn yr Alban, y siryf yn erbyn y penderfyniad i roi hysbysiad cydymffurfio. Mae'n rhaid i unrhyw apêl gael ei chyflwyno o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad.

Byddwn yn rhoi unrhyw gosb am ddiffyg cydymffurfiaeth drwy gyflwyno hysbysiad cosb oherwydd diffyg cydymffurfiaeth. Bydd hwn yn nodi'r seiliau dros roi'r gosb, y swm, y terfyn amser ar gyfer talu a'r hyn a fydd yn digwydd os na chaiff ei thalu. Bydd hefyd yn esbonio sut i apelio yn erbyn y penderfyniad a'r terfyn amser ar gyfer unrhyw apêl (28 diwrnod o'r dyddiad y derbynnir yr hysbysiad).

Pan fydd y derbynnydd o'r farn ei fod wedi cydymffurfio â thelerau'r hysbysiad cydymffurfio, dylai ein hysbysu'n ysgrifenedig a gwneud cais am dystysgrif gwblhau. Bydd angen iddo ddarparu gwybodaeth sy'n dangos cydymffurfiaeth â thelerau'r hysbysiad.

Byddwn yn ystyried cais am dystysgrif gwblhau o fewn 28 diwrnod, ar yr amod ein bod wedi cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i asesu a yw telerau'r hysbysiad wedi cael eu bodloni. Byddwn yn cadarnhau ein penderfyniad yn ysgrifenedig ac, os yw'n briodol, yn rhoi tystysgrif gwblhau.

Gallwn ddiddymu tystysgrif gwblhau os cafodd ei rhoi ar sail gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr hysbysiad cydymffurfio yn parhau i fod yn weithredol fel pe na bai'r dystysgrif gwblhau wedi'i rhoi.

Lle y caiff hysbysiad cydymffurfio ei roi, ac mae person yn methu â chydymffurfio ag ef, gallai gael ei euogfarnu o drosedd mewn perthynas â'r weithred neu anwaith a arweiniodd at yr hysbysiad. Unwaith y byddwn wedi cyflwyno hysbysiad terfynol sy'n rhoi'r gosb ariannol amrywiadwy, ni all y person ar unrhyw adeg gael ei euogfarnu am y drosedd a arweiniodd at y gosb.

Hysbysiadau adfer

Mae hysbysiad adfer yn nodi'r camau y mae'n rhaid i sefydliad neu unigolyn a reoleiddir sydd wedi torri'r gyfraith eu cymryd i adfer y sefyllfa, hyd y gellir, i'r hyn a fyddai wedi bodoli pe na bai tor-cyfraith. Gellir defnyddio hysbysiad adfer ar ei ben ei hun, neu ar y cyd â chosb ariannol amrywiadwy.

Lle byddwn yn cynnig cyflwyno hysbysiad adfer, byddwn yn anfon hysbysiad o gynnig at y person dan sylw. Bydd hwn yn esbonio'r sail dros roi'r hysbysiad adfer, ac yn nodi'r camau rydym yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i'r person eu cymryd. Bydd hefyd yn nodi sut y gall y sawl sy'n ei dderbyn gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynglŷn â'r penderfyniad i roi'r gosb.

Pan fydd y terfyn amser ar gyfer cyflwyno sylwadau wedi mynd heibio a phan fydd unrhyw sylwadau wedi cael eu hystyried, byddwn yn penderfynu a ddylid cyflwyno hysbysiad adfer.

Bydd yr hysbysiad yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Y camau gweithredu a'r terfynau amser i'w cwblhau
  • Yr hyn a fydd yn digwydd os bydd diffyg cydymffurfiaeth
  • Sut i apelio yn erbyn y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad
  • Y terfyn amser ar gyfer unrhyw apêl

Gall y derbynnydd apelio i lys sirol neu, yn yr Alban, y siryf yn erbyn y penderfyniad i roi hysbysiad cydymffurfio a/neu adfer. Mae'n rhaid i unrhyw apêl gael ei chyflwyno o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad.

Byddwn yn rhoi unrhyw gosb am ddiffyg cydymffurfiaeth drwy gyflwyno hysbysiad cosb oherwydd diffyg cydymffurfiaeth. Bydd hwn yn nodi'r seiliau dros roi'r gosb, y swm, y terfyn amser ar gyfer talu a'r hyn a fydd yn digwydd os na chaiff ei thalu. Bydd hefyd yn esbonio sut i apelio yn erbyn y penderfyniad a'r terfyn amser ar gyfer unrhyw apêl (28 diwrnod o'r dyddiad y derbynnir yr hysbysiad).

Pan fydd y derbynnydd o'r farn ei fod wedi cydymffurfio â thelerau'r hysbysiad adfer, dylai ein hysbysu'n ysgrifenedig a gwneud cais am dystysgrif gwblhau. Bydd angen iddo ddarparu gwybodaeth sy'n dangos cydymffurfiaeth â thelerau'r hysbysiad.

Byddwn yn ystyried cais am dystysgrif gwblhau o fewn 28 diwrnod, ar yr amod ein bod wedi cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i asesu a yw telerau'r hysbysiad wedi cael eu bodloni. Byddwn yn cadarnhau ein penderfyniad yn ysgrifenedig ac, os yw'n briodol, yn rhoi tystysgrif gwblhau.

Gallwn ddiddymu tystysgrif gwblhau os cafodd ei rhoi ar sail gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol. Os bydd hyn yn digwydd, mae'r hysbysiad cydymffurfio neu adfer yn parhau i fod yn weithredol fel pe na bai'r dystysgrif gwblhau wedi'i rhoi.

Lle y caiff hysbysiad adfer ei roi, ac mae person yn methu â chydymffurfio ag ef, gallai gael ei euogfarnu o drosedd mewn perthynas â'r weithred neu anwaith a arweiniodd at yr hysbysiad. Unwaith y byddwn wedi cyflwyno hysbysiad terfynol sy'n rhoi'r gosb ariannol amrywiadwy, ni all y person ar unrhyw adeg gael ei euogfarnu am y drosedd a arweiniodd at y gosb.

Ymgymeriadau gorfodi

Os bydd gan y Comisiwn sail resymol dros amau bod trosedd wedi'i chyflawni, gall sefydliad neu unigolyn a reoleiddir gynnig ymrwymo i ymgymeriad gorfodi. Mae ymgymeriad gorfodi yn golygu y bydd y sefydliad neu'r unigolyn cynnig cymryd camau i sicrhau na fydd unrhyw achos o ddiffyg cydymffurfio yn parhau nac yn digwydd eto, neu y caiff sefyllfa ei hadfer, hyd y gellir, i'r hyn a fyddai wed bodoli pe na bai'r achos o ddiffyg cydymffurfio wedi digwydd.

Byddwn yn ystyried pob cynnig rhesymol yn ofalus. Ond nid oes rhwymedigaeth arnom i dderbyn ymgymeriad gorfodi, ac ni fyddwn yn cytuno i unrhyw rai nes ein bod yn deall natur a difrifoldeb yr achos o ddiffyg cydymffurfio yn llawn.

Wrth ystyried a ddylid derbyn ymgymeriad gorfodi byddwn yn ystyried y rhestr ganlynol o ffactorau, nad yw'n hollgynhwysfawr:

  • Difrifoldeb y drosedd neu'r toriad
  • A roddwyd gwybod am y mater yn wirfoddol
  • A fu unrhyw anonestrwydd, twyll neu gamliwio yn y drosedd neu'r toriad
  • Cost ymchwiliad llawn
  • Yr angen i atal diffyg cydymffurfiaeth
  • Unrhyw gyngor a roddwyd i'r sefydliad neu'r unigolyn a reoleiddir ynglŷn â'r gofynion statudol perthnasol
  • Hanes cydymffurfiaeth y sefydliad neu'r unigolyn a reoleiddir, gan gynnwys, a ymrwymwyd i ymgymeriadau gorfodi yn y gorffennol
  • Y tebygolrwydd y bydd yr ymgymeriadau gorfodi arfaethedig yn atal rhagor o droseddau neu doriadau 
  • Y tebygolrwydd y bydd yr ymgymeriadau gorfodi arfaethedig yn adfer sefyllfa'r rhai dan sylw i'r hyn a fyddai wedi bodoli pe na bai'r drosedd neu'r toriad wedi digwydd
  • I ba raddau y mae'r sefydliad neu'r unigolyn a reoleiddir yn deall pam mae'r drosedd neu'r toriad wedi digwydd
  • A ymddiheurwyd am y drosedd neu'r toriad neu a ddangoswyd unrhyw edifeirwch.

Lle y cytunir ar ymgymeriadau gorfodi ond nad ydynt yn cael eu cyflawni gallwn roi cosb neu ystyried erlyniad mewn perthynas â'r drosedd a/neu'r toriad gwreiddiol. Yn dibynnu ar y rhesymau dros fethiant i gyflawni'r ymgymeriadau gorfodi, gall hyn fod yn ffactor gwaethygol mewn unrhyw benderfyniad ynglŷn â lefel y gosb.

Datgeliadau cyhoeddus o asesiadau

Ni fyddwn yn cyhoeddi bod unrhyw asesiad wedi dechrau neu'n mynd rhagddo na phan y daw i ben fel mater o drefn.

Gallwn gywiro neu gadarnhau gwybodaeth am asesiad er mwyn sicrhau bod gwybodaeth gywir ar gael i'r cyhoedd os byddwn yn fodlon bod gwneud hynny er budd y cyhoedd. Gall hyn gynnwys cadarnhau enw'r unigolyn neu'r sefydliad a'r drosedd neu'r toriad posibl sy'n cael ei (h)asesu. Gall hefyd gynnwys cadarnhau canlyniad asesiad. 

Byddwn yn rhoi gwybod i'r sawl sy'n cael ei asesu cyn cadarnhau pwy ydyw i unrhyw un.

O dan rai amgylchiadau, mae'n bosibl y byddwn yn datgelu i'r cyhoedd ein bod wedi dechrau ymchwiliad, gan gynnwys y sawl yr ymchwilir iddo a chwmpas disgwyliedig yr ymchwiliad. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, pan fydd y mater wedi bod yn destun o ddiddordeb i'r cyhoedd neu'r wasg, a thrwy gyhoeddi gallwn sicrhau bod y wybodaeth yn gywir. 

Yn gyffredinol, ni fyddwn yn gwneud rhagor o sylwadau tra bo'r ymchwiliad yn mynd rhagddo, nac yn rhoi diweddariadau i'r cyhoedd, gan y gall hynny amharu ar y broses o gynnal yr ymchwiliad. 

Unwaith y mis, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi gwybodaeth am ymchwiliadau a gwblhawyd. Mae hyn yn cynnwys y sawl yr ymchwiliwyd iddo a'r troseddau dan sylw, p'un a gadarnhawyd bod trosedd neu doriad wedi digwydd, a ph'un a roddwyd cosb. Byddwn yn diweddaru'r wybodaeth i ddangos pan fydd cosbau ariannol wedi'u talu.

Mewn rhai achosion, byddwn yn cyhoeddi adroddiad ymchwiliad manylach, a/neu ddatganiad i'r cyfryngau pan ddaw achos i ben. Wrth benderfynu gwneud hynny, byddwn yn ystyried ffactorau perthnasol, gan gynnwys:

  • a oes gan y cyhoedd gryn ddiddordeb yn yr achos
  • a yw'n achos arbennig o gymhleth lle bydd angen esboniad pellach i'r cyhoedd
  • a fyddai cyhoeddi'r manylion yn helpu'r rheini a reoleiddir gennym i ddeall gofynion PPERA yn well 
  • a gyhoeddwyd datganiad i'r cyfryngau ar ddechrau'r ymchwiliad

Byddwn yn rhoi gwybod i'r sawl yr ymchwilir iddo cyn cyhoeddi. Lle y bo'n briodol, ac yn fwy cyffredin gydag adroddiadau manwl, bydd y sawl yr ymchwilir iddo yn cael y cyfle i wirio bod y wybodaeth i'w chyhoeddi yn ffeithiol gywir.

Os bydd cosb a roddir gan y Comisiwn yn destun apêl, byddwn yn diweddaru'r wybodaeth ar ein gwefan i gynnwys canlyniad yr apêl.

Mae pob un o'r uchod yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol a all effeithio ar ddatgelu. Er enghraifft, rydym wedi ein gwahardd rhag datgelu unrhyw wybodaeth mewn perthynas â rhodd a gafwyd gan dderbynnydd o Ogledd Iwerddon cyn 1 Gorffennaf 2017, ac eithrio at ddibenion unrhyw achosion troseddol neu sifil.
 

Fel corff cyhoeddus yn y DU, rydym yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Byddwn yn ystyried ceisiadau am wybodaeth ynglŷn ag asesiadau, ymchwiliadau a chosbau a roddir o dan y Ddeddf yn unol â'r ddeddfwriaeth. 

Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen Rhyddid Gwybodaeth ar ein gwefan.

O dan Atodlenni 19B ac 19C o PPERA mae'n ofynnol i ni gyflwyno adroddiad blynyddol ynglŷn â'r defnydd o'n pwerau goruchwylio ac ymchwilio, a chosbau sifil. Caiff y wybodaeth hon ei chynnwys yn ein Hadroddiad Blynyddol. 

Page history

Cyhoeddwyd gyntaf: 5 Ionawr 2023

Diweddarwyd ddiwethaf: