Dylech edrych ar gofnod llawn y gofrestr ar gyfer y cwmni, yn benodol gan wirio pa fath o gwmni ydyw a ble cafodd ei gorffori.
Nid yw pob cwmni sydd wedi'i restru ar wefan Tŷ'r Cwmnïau yn rhoddwr a ganiateir. Efallai na fydd y cwmnïau hyn wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 neu efallai nad ydynt yn gweithredu yn y DU, neu efallai eu bod wedi'u corffori mewn gwlad arall. Mae'n bwysig eich bod yn fodlon bod eich rhoddwr neu fenthyciwr yn un a ganiateir. Er enghraifft, ni fyddai cwmni sydd wedi’ gorffori mewn gwlad arall ond sydd â changen wedi’i chofrestru a’i gweithredu yn y DU yn un a ganiateir.
Mae'r mathau o gwmnïau sydd wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 yn cynnwys:
Cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus
Cwmnïau cyfyngedig preifat
Cwmnïau anghyfyngedig preifat
Dylid trin cwmnïau a gofrestrwyd yn flaenorol o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 neu Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986 fel pe baent wedi'u ffurfio a'u cofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006.1
Bydd cwmnïau Siarter Brenhinol sydd wedi cofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 yn ymddangos fel un o'r mathau o gwmnïau a restrir uchod. Efallai bod gan y cwmnïau hyn gofnod arall gyda Thŷ'r Cwmnïau hefyd. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio a oes unrhyw gofnodion eraill a allai fod yn gysylltiedig â chwmni Siarter Frenhinol.
Nid yw cwmnïau sydd wedi'u corffori yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Gibraltar yn rhai a ganiateir, gan nad ydynt wedi'u corffori yn y DU.
Sut ydych chi'n gwirio os yw cwmni yn cynnal busnes yn y DU?
Mae'n rhaid i chi fod yn hapus fod y cwmni yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.
Hyd yn oed os oes gennych wybodaeth bersonol uniongyrchol am y cwmni, dylech wirio cofrestr Tŷ'r Cwmnïau i weld os:
a yw'r cwmni yn cael ei ddiddymu, yn segur, neu ar fin cael ei ddileu o'r gofrestr
mae cyfrifon y cwmni a'r datganiad cadarnhau yn hwyr
Gall cwmni barhau â busnes os yw mewn datodiad, yn segur neu'n hwyr yn ffeilio dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol i fod yn fodlon fod hyn yn digwydd.
Ar gyfer unrhyw gwmni, dylech ystyried edrych ar:
gwefan y cwmni
masnach perthnasol, cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau parchus
cyfrifon diweddaraf wedi'u ffeilio gyda Thŷ'r Cwmnïau
Os ydych yn dal i fod yn ansicr os yw'r cwmni yn cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig o'i weithgareddau busnes gan gyfarwyddwyr y cwmni.