Beth sydd angen i chi ei wneud pan fyddwch yn cael rhodd?
Gwiriadau ar roddion
Dim ond rhoddion gan rai ffynonellau penodol y gellir eu derbyn, sydd wedi'u lleoli yn y DU yn bennaf. Gweler Gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion a benthyciadau? am fanylion ynghylch pa ffynonellau a ganiateir.
Cyn i'ch plaid dderbyn unrhyw rodd sy'n fwy na £500, rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i:
sicrhau eich bod yn gwybod pwy yw'r ffynhonnell wirioneddol
cadarnhau bod y rhodd gan ffynhonnell a ganiateir
Faint o amser sydd gennych i gadarnhau a yw rhodd yn un a ganiateir?
Pan fyddwch yn cael rhodd, bydd gennych 30 diwrnod i benderfynu a allwch ei derbyn ai peidio.
Rhaid i chi fodloni eich hun fod y ffynhonnell yn un a ganiateir bob tro y gwneir rhodd, hyd yn oed os byddwch wedi gwneud gwiriadau o'r fath mewn perthynas â rhoddion gan yr un ffynhonnell yn y gorffennol.
Dylech gadw cofnod o'ch holl wiriadau i gadarnhau a yw ffynhonnell yn un a ganiateir er mwyn dangos eich bod wedi dilyn y rheolau.