Mae'r blaid wedi dewis gwefan cyllido torfol sy'n casglu digon o wybodaeth gan roddwyr i sicrhau y gall fodloni ei rhwymedigaethau cofnodi ac adrodd.
Ar ôl cyrraedd y swm targed, mae'r blaid yn cael y cyllid ar 5 Ionawr ynghyd â manylion y rhoddion unigol a roddwyd gan ddarparwr y llwyfan cyllido torfol. Mae'r rhoddion yn cynnwys:
rhodd o £550 ar y dudalen we cyllido torfol ar 17 Rhagfyr
rhodd o £12,000 ar y dudalen we cyllido torfol ar 10 Rhagfyr
3 rhodd o £4,000 gan yr un ffynhonnell ar y dudalen we cyllido torfol ar 10 Rhagfyr, 17 Rhagfyr a 3 Ionawr
sawl rhodd arall rhwng £500 a £1,000 gan ffynonellau y gellir eu hadnabod ar y dudalen we cyllido torfol yn ystod y cyfnod targed
Dylai'r blaid ddechrau cynnal gwiriadau i sicrhau bod y rhoddion gan ffynonellau a ganiateir ar 5 Ionawr oherwydd dyma'r dyddiad derbyn.
Mae'r rhodd o £550 gan ffynhonnell ddienw. Mae'r blaid yn dychwelyd y rhodd i'r sefydliad ariannol y cafwyd y rhodd ganddo yn wreiddiol cyn diwedd y cyfnod 30 diwrnod ar gyfer cynnal gwiriadau er mwyn sicrhau bod rhoddion gan ffynonellau a ganiateir.
Mae'r blaid yn derbyn y rhodd o £12,000 ar ôl cynnal gwiriad i sicrhau ei bod gan ffynhonnell a ganiateir. Mae'r rhoddwr yn cael gwybod o'r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen we y caiff ei enw ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Mae'r blaid yn cydgrynhoi'r tair rhodd o £4,000 gan yr un ffynhonnell ar ôl cynnal gwiriadau i gadarnhau bod y ffynhonnell yn un a ganiateir, ac yn eu derbyn. Mae'r rhoddwr yn cael gwybod o'r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen we y caiff ei enw ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Mae'r blaid yn derbyn y rhoddion rhwng £500 a £1,000 ar ôl cynnal gwiriadau i gadarnhau bod y ffynonellau yn rhai a ganiateir. Mae'r blaid yn cofnodi'r rhoddion hyn ond nid yw'n ofynnol iddi roi gwybod amdanynt am nad ydynt yn cyrraedd y trothwy adrodd.
Mae'r blaid yn rhoi gwybod am yr un rhodd o £12,000 a'r tair rhodd o £4,000 gan yr un ffynhonnell a gydgrynhowyd am fod y rhain yn cyrraedd y trothwy adrodd o £11,180. Caiff manylion y rhoddion hyn eu cyhoeddi'n ddiweddarach ar wefan y Comisiwn Etholiadol.