Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu a oes angen i chi drin gwobr arwerthiant fel rhodd. Yr egwyddor arweiniol ym mhob achos yw y dylech gynnal asesiad gonest, yn seiliedig ar y ffeithiau, o werth yr eitem neu'r gwasanaeth a ddefnyddir fel gwobr mewn arwerthiant neu raffl.
Bydd hyn yn syml ar gyfer y rhan fwyaf o eitemau. Fodd bynnag, bydd yn fwy cymhleth i rai. Bydd yr enghreifftiau yn yr adran nesaf yn eich helpu i ddeall sut y dylech fynd ati i gynnal eich asesiad.
Pryd y mae gwobr arwerthiant yn rhodd?
Dylid ystyried a yw gwobrau arwerthiant yn rhoddion yn unol â'r ddwy elfen ganlynol:
pryd y byddwch yn cael eitem neu wasanaeth ar gyfer arwerthiant
pryd rydych yn arwerthu'r eitem neu'r gwasanaeth
Cael y wobr
Mae angen i chi roi gwybod am wobr arwerthiant pan fyddwch yn cael gwobr ar gyfer arwerthiant naill ai am ddim neu am ostyngiad anfasnachol. Mae hyn yn cyfrif fel rhodd i chi:
os yw gwerth y wobr, os rhoddir yr eitem am ddim, yn fwy na £500, neu,
os yw swm y gostyngiad yn fwy na £500
Os rhoddir yr eitem am ddim, swm y rhodd fydd gwerth yr eitem. Os rhoddir yr eitem am ostyngiad, swm y rhodd fydd gwerth y gostyngiad.
Yn yr arwerthiant
Gwneir rhodd bellach i chi os bydd y prynwr yn talu mwy na gwerth y wobr, ac os yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth yr eitem a'r hyn y mae'r prynwr yn ei dalu yn fwy na £500.
Os byddwch yn talu gwerth llawn yr eitem pan fyddwch yn cael gwobr arwerthiant, ni fyddwch wedi cael rhodd ar y pwynt hwnnw. Os bydd y cynnig llwyddiannus am y wobr arwerthiant yr un peth â gwerth y wobr, neu'n is, ni fydd rhodd wedi'i gwneud. Os bydd y cynnig llwyddiannus am y wobr arwerthiant fwy na £500 yn uwch na gwerth y wobr, bydd rhodd wedi'i gwneud.