Rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr

| Argraffu'r canllawiau llawn

Dewis llwyfan cyllido torfol

Cyn i chi greu tudalen cyllido torfol, dylech wirio nodweddion y platfform cyllido torfol. Dylech wneud yn siŵr y bydd gennych yr offer a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddilyn y gyfraith ar roddion.

Dylech gasglu digon o wybodaeth gan bob rhoddwr er mwyn sicrhau eich bod yn gallu:

  • Gwirio’n iawn bod pob rhodd dros £500 yn dod o ffynhonnell a ganiateir
  • Nodi p'un a yw rhoddion niferus wedi dod o'r un ffynhonnell
  • Cofnodi’n gywir y rhoddion a dderbyniwyd gennych lle bo’n ofynnol

Dylech ddewis llwyfan cyllido torfol sy'n caniatáu i chi ddychwelyd rhoddion nas caniateir.

Rhoddion cyllido torfol preifat a rhoddion dienw

Yn y canllawiau hyn, byddwn yn cyfeirio at roddion cyllido torfol preifat a rhoddion dienw. Diffinnir y termau hyn yn y tabl isod:

Term
Ystyr
Rhodd cyllido torfol preifat

Nid yw manylion y rhoddwr yn weladwy ar dudalen cyllido torfol preifat ond darperir peth gwybodaeth i'r person a greodd y dudalen. 

Er enghraifft, ni fyddai rhywun sy'n edrych ar dudalen cyllido torfol yn gallu dweud pwy wnaeth rhodd breifat o £600, ond gallai'r codwr arian gael enw a chyfeiriad e-bost y rhoddwr.

Rhodd ddienwNi ddarperir unrhyw wybodaeth am y rhoddwr i'r person neu'r sefydliad sydd wedi derbyn y rhodd.

Dylech wirio y byddwch, fel yr un sy’n codi arian, yn cael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnoch am eich rhoddwyr. 

Rhaid i chi beidio â derbyn rhoddion a wneir yn ddienw, neu os na allwch nodi pwy yw'r rhoddwr.

Gallwch dderbyn rhoddion cyllido torfol preifat, ar yr amod bod gennych y manylion angenrheidiol i wirio eu bod y math a ganiateir. 

Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried a ydych am ganiatáu rhoddion cyllido torfol preifat ar gyfer eich ymgyrch.

Cael mynediad at yr arian a godwyd

Mae yna wahanol ffyrdd y gall platfformau cyllido torfol drosglwyddo arian i’r rhai sy’n codi arian. Mae'n bosibl y bydd rhai platfformau'n caniatáu i chi dynnu arian o’r cyfrif tra bod eich ymgyrch yn dal i gael ei chynnal, tra bydd eraill ond yn trosglwyddo arian i chi ar ôl i'ch ymgyrch ddod i ben. 

Gall yr amser y mae'n ei gymryd i dderbyn arian ar ôl y dyddiad cau amrywio hefyd yn dibynnu ar ba blatfform cyllido torfol rydych chi'n ei ddefnyddio.  

Mae'n bwysig eich bod yn deall pryd y gallwch gael mynediad at arian. Ar ôl derbyn arian, mae'n rhaid i chi gynnal gwiriadau caniatâd ar roddion perthnasol a chadw cofnodion ar gyfer eich ffurflen gwariant a rhoddion. Rydym yn argymell cynllunio eich ymgyrch cyllido torfol fel y byddwch yn derbyn eich rhoddion gyda digon o amser i gwblhau'r gwiriadau gofynnol cyn unrhyw ddyddiadau cau perthnasol ar gyfer adrodd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Rhagfyr 2025