Rhoi gwybod am roddion a benthyciadau: enghreifftiau
Enghraifft 1:
Mae partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn gwneud rhodd o £12,000 i blaid ym mis Mawrth a rhodd o £3,000 ym mis Gorffennaf.
Yn yr enghraifft hon, mae'r rhodd o £12,000 yn adroddadwy am ei bod dros y trothwy adrodd, sef £11,180. Ar ôl derbyn y rhodd hon, mae'r trothwy ar gyfer buddion pellach gan yr un ffynhonnell yn gostwng i dros £2,230 ar gyfer gweddill y flwyddyn. Mae hyn yn golygu bod y rhodd o £3,000 yn adroddadwy hefyd am ei bod dros y trothwy is, sef £2,230.
Enghraifft 2:
Mae cymdeithas anghorfforedig yn gwneud tair rhodd o £900 i un uned gyfrifyddu dros flwyddyn.
Pan gaiff y rhoddion hyn eu hadio at ei gilydd, mae'n gyfanswm o £2,700, sydd dros y trothwy o £2,230 ar gyfer uned gyfrifyddu. Bydd y rhoddion wedi'u cydgrynhoi hyn yn adroddadwy pan gyrhaeddir y trothwy adrodd. Yn yr enghraifft hon, bydd y rhoddion yn adroddadwy yn y chwarter pan dderbynnir y drydedd rodd.
Enghraifft 3:
Mae unigolyn yn rhoi rhodd o £6,000 a benthyciad o £6,000 i'r blaid ganolog yn ystod yr un flwyddyn galendr.
Rhaid i'r blaid roi gwybod am unrhyw fuddion a ganiateir sydd dros £11,180, neu sydd dros £11,180 pan gânt eu hadio at ei gilydd, gan yr un ffynhonnell yn ystod yr un flwyddyn galendr. Pan gânt eu hadio at ei gilydd, cyfanswm y buddion hyn yw £12,000, sydd dros y trothwy o £11,180. Dylid rhoi gwybod am y buddion wedi'u cydgrynhoi hyn yn y chwarter pan fyddant yn uwch na'r trothwy adrodd.
Enghraifft 4:
Mae cwmni yn rhoi £6,000 i'r blaid ganolog ym mis Ionawr a £2,000 yr un i dair uned gyfrifyddu ym mis Mai.
Yn unigol, mae'r rhoddion hyn yn is na throthwyon adrodd y blaid ganolog a'r unedau cyfrifyddu. Rhaid i'r blaid adio at ei gilydd unrhyw fuddion a geir gan yr un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr nad ydynt yn cyrraedd y trothwy adrodd yn unigol. Yn yr achos hwn, dylid trin y tair rhodd o £2,000 i'r unedau cyfrifyddu fel rhoddion i'r blaid ganolog. Pan gaiff y rhoddion hyn eu hadio at ei gilydd, mae'n gyfanswm o £12,000, sydd dros y trothwy adrodd o £11,180 ar gyfer rhoddion i'r blaid ganolog. Mae'r rhoddion wedi'u cydgrynhoi hyn yn adroddadwy a rhaid rhoi gwybod amdanynt ar ddiwedd y flwyddyn galendr, yn Chwarter Pedwar.