O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae rhodd yn cynnwys arian, nwyddau, neu wasanaethau a roddir i blaid, am ddim neu ar delerau anfasnachol, ac sy'n werth dros £500.
Mae enghreifftiau cyffredin o roddion yn cynnwys:
rhodd o arian neu eiddo
nawdd i ddigwyddiad neu gyhoeddiad
tanysgrifiad neu daliadau ymlyniad
defnydd am ddim, neu am bris gostyngol arbennig, o swyddfa
Rhoddion o £500 neu lai
Mae rhoddion o £500 neu lai y tu allan i gwmpas PPERA ac nid oes angen i chi eu cofnodi na rhoi gwybod amdanynt.
Fodd bynnag, rhaid i chi fod yn effro i sefyllfaoedd lle yr ymddengys fod rhoddwr yn ceisio osgoi PPERA. Mae'n drosedd ceisio osgoi'r rheolaethau ynglŷn â rhoddion. Er enghraifft, os gwneir nifer o roddion o £400 o'r un ffynhonnell mewn amgylchiadau tebyg.
Os credwch y gallai hyn fod yn digwydd, dylech gysylltu â ni am gyngor.