Return to The Electoral Commission Homepage

Ynglŷn â'r canllawiau hyn

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) mae cyfreithiau ar godi arian a gwariant y mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol eu dilyn yn y cyfnod cyn etholiadau penodol. 

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth am y cyfnod a reoleiddir, terfynau gwariant, gwariant ar ymgyrchu, gofynion adrodd a dyddiadau cau ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU. 

Mae'r canllawiau hyn a'r dogfennau cysylltiedig y cyfeiriwn atynt ond yn gymwys i bleidiau gwleidyddol cofrestredig. Mae'r rheolau ar gyfer ymgeiswyr yn wahanol, ac mae gennym ganllawiau ar wahân ar gyfer ymgeiswyr a'u hasiantiaid sy'n ymladd etholiad cyffredinol Senedd y DU.

Pan fydd pleidiau'n dosbarthu deunydd etholiad, rhaid iddo gynnwys manylion a elwir yn argraffnod. Rydym yn cyhoeddi canllawiau ar argraffnodau ar wahân.

Termau ac ymadroddion a ddefnyddiwn 

Yn y canllawiau hyn, rydym yn defnyddio ‘rhaid’ wrth gyfeirio at ofyniad penodol. Rydym yn defnyddio ‘dylai’ ar gyfer eitemau sydd yn arfer dda ofynnol yn ein barn ni, ond nad ydynt yn ofynion cyfreithiol.

Rydym yn defnyddio ‘chi’ neu'r ‘person cyfrifol’ i gyfeirio at yr unigolyn sy'n gyfrifol am wariant ar ymgyrchu. Y swyddog ymgyrchu cofrestredig fydd hwn os penodwyd un, neu'r trysorydd cofrestredig os nad oes un.

Cyfieithiadau a fformatau eraill  

I gael gwybodaeth am sut i gael y cyhoeddiad hwn mewn iaith arall neu Braille, cysylltwch â'r Comisiwn Etholiadol: 
Ffôn: 0333 103 1928
E-bost: [email protected] 
 

Diweddariadau i'n canllawiau

Dyddiad y diweddariadDisgrifiad o'r newid
Awst 2024

Enghraifft newydd ar ddyrannu gwariant ar draws Prydain Fawr

Tachwedd 2023

Diweddariadau i adlewyrchu'r terfynau gwariant newydd ar gyfer pleidiau gwleidyddol

Ein dull gorfodi

Mae'r Comisiwn yn rheoleiddio arian a gwariant gwleidyddol mewn ffordd sy'n effeithiol, yn gymesur ac yn deg. Rydym yn ymrwymedig i roi dealltwriaeth glir i'r rheini a reoleiddiwn o'u rhwymedigaethau cyfreithiol drwy ein dogfennau canllaw a'n gwasanaeth cynghori. Os nad ydych yn siŵr sut mae unrhyw rai o'r rheolau hyn yn gymwys i chi, cysylltwch â ni i gael cyngor. Rydym yma i helpu, felly cysylltwch â ni.

Rydym yn defnyddio cyngor a chanllawiau yn rhagweithiol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth. Ac rydym yn cymryd camau gorfodi, gan ddefnyddio ein pwerau ymchwiliol a chosbau, lle bo hynny'n angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn cyflawni ein nodau a'n hamcanion gorfodi. 

Os nad ydych yn cydymffurfio â'r gyfraith, gallech chi neu eich sefydliad wynebu cosbau sifil neu droseddol. Mae mwy o wybodaeth am ddull gorfodi'r Comisiwn yn 

electoralcommission.org.uk/cy/pwy-ydym-ni-a-beth-rydym-yn-ei-wneud/gorfodi 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Y cyfnod a reoleiddir

Gwariant ar ymgyrchu yw'r hyn y mae eich plaid yn ei wario ar weithgareddau penodol i hyrwyddo'r blaid neu i feirniadu pleidiau eraill ar adeg benodol yn y cyfnod cyn yr etholiad. 

Gelwir y cyfnod hwn yn ‘gyfnod a reoleiddir’. Y cyfnod a reoleiddir yw'r adeg benodol pan fydd y terfynau gwariant a'r rheolau yn gymwys.

Dechreuodd y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024 ar 6 Gorffennaf 2023, a bydd yn rhedeg tan y diwrnod pleidleisio ar 4 Gorffennaf 2024.

Mae hyn yn golygu bod y cyfnod a reoleiddir wedi dechrau ymhell cyn i'r etholiad gael ei gyhoeddi.

Cwmpesir unrhyw wariant yr ewch iddo sy'n hyrwyddo eich plaid neu unrhyw un o'i hymgeiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir, oni bai y rhoddwyd gwybod am y gwariant hwnnw ar ffurflen ymgeisydd neu ffurflen deiseb adalw.

Mae hyn yn cynnwys gwariant sy'n hyrwyddo eich plaid yn Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig, ynghyd â gwariant sy'n hyrwyddo eich plaid mewn unrhyw etholiadau eraill yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mai 2024

Y terfyn gwariant

Bydd faint y gallwch ei wario yn ystod y cyfnod a reoleiddir yn dibynnu ar faint o ymgeiswyr sy'n sefyll dros eich plaid.

Mae gennych derfyn gwario ar wahân ym mhob rhan o'r DU – Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon – yn seiliedig ar nifer y seddi y mae eich plaid yn eu hymladd yn y rhan honno. 1

Os nad oes gennych unrhyw ymgeiswyr yn sefyll, yna ni fyddwch yn cael terfyn gwariant ac ni fydd rhaid i chi gyflwyno ffurflen.

Pleidiau ag ymgeiswyr yn sefyll ym Mhrydain Fawr  

Ar gyfer pleidiau gwleidyddol sy'n ymladd etholiad cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig ym Mhrydain Fawr, terfyn gwario eich plaid yw'r mwyaf o blith y canlynol:

Naill ai:

Rhan o Brydain FawrTerfyn gwariant
Lloegr  £1,458,440
Yr Alban £216,060
Cymru  £108,030

Neu:

£54,010 x nifer y seddi y mae eich plaid yn eu hymladd ym mhob rhan o Brydain.  

Mae gan bob rhan o Brydain Fawr derfyn ar wahân sy'n seiliedig ar nifer y seddi y mae eich plaid yn eu hymladd yn y rhan honno. 

eg

Er enghraifft:

Mae eich plaid yn cystadlu ym mhob etholaeth ym mhob rhan o Brydain Fawr yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU. Hynny yw, 543 o etholaethau yn Lloegr, 57 o etholaethau yn yr Alban a 32 o etholaethau yng Nghymru. Eich terfyn gwariant fydd: 

Rhan o Brydain FawrTerfyn gwariantYmresymu
Lloegr  £29,327,430(543 x £54,010)
Yr Alban £3,078,570(57 x £54,010)
Cymru  £1,728,320(32 x £54,010)

Y rheswm am hyn yw bod y cyfanswm ar gyfer pob ardal yn fwy na'r swm penodedig a ddangosir yn y tabl cyntaf. 

NI

Pleidiau ag ymgeiswyr yn sefyll yng Ngogledd Iwerddon  

Ar gyfer pleidiau gwleidyddol sy'n ymladd Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig ym Mhrydain Fawr, terfyn gwario eich plaid yw  

£54,010 x nifer y seddi y mae eich plaid yn eu hymladd yn Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig.  

ni eg

Er enghraifft:

Mae eich plaid yn ymladd 18 etholaeth yng Ngogledd Iwerddon. Eich terfyn gwariant fydd:

£54,010 x 18 = £972,180

Pleidiau sy'n sefyll ymgeiswyr ar y cyd â phlaid arall

Pleidiau sy'n sefyll ymgeiswyr ar y cyd â phlaid arall

Mae rhai ymgeiswyr yn sefyll o dan ddisgrifiad ar y cyd, sy'n golygu y gallant sefyll dros ddwy neu fwy nag un blaid wleidyddol gofrestredig ar unwaith. Gelwir yr ymgeiswyr hyn yn 'ymgeiswyr ar y cyd'.

Os yw eich plaid yn sefyll ymgeisydd ar y cyd, ni fydd y £54,010 llawn ar gyfer eu hetholaeth yn cael ei ychwanegu wrth gyfrifo eich terfyn gwariant. Yn lle hynny, rydych yn ychwanegu £54,010 wedi'i rannu â nifer y pleidiau y mae'r ymgeisydd yn sefyll drostynt.2

Er enghraifft, os yw'r ymgeisydd yn sefyll o dan ddisgrifiad ar y cyd a rennir rhwng eich plaid a phlaid arall, yna mae gennych chi a'r blaid arall £27,005 o'r etholaeth honno.
 

Enghraifft o ddisgrifiad ar y cyd

Er enghraifft: 

Yn Lloegr mae eich plaid yn sefyll 10 ymgeisydd o dan ddisgrifiad ar y cyd ag un blaid arall.

Mae eich plaid hefyd yn sefyll ymgeiswyr mewn 25 o etholaethau eraill yn Lloegr o dan enw eich plaid yn unig.

Cyfrifiad terfyn gwariant:

(10 x £54,010/2) + (25 x £54,010) = £1,620,300.

Gan fod hyn dros isafswm Lloegr o £1,458,440, terfyn gwariant eich plaid yn Lloegr yw £1,620,300.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Mehefin 2024

Gwariant ar ymgyrchu

Gwariant ar ymgyrch yw'r hyn y mae eich plaid yn ei wario ar weithgareddau penodol i hyrwyddo ei hun neu ei hymgeiswyr, neu i feirniadu pleidiau eraill, yn ystod y cyfnod a reoleiddir. 

Mae gwariant ar ymgyrchu yn cynnwys unrhyw eitemau neu wasanaethau a ddefnyddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir, gan gynnwys:

  • eitemau neu wasanaethau a brynwyd cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau, ond a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod hwnnw1
  • eitemau neu wasanaethau a roddir i'r blaid am ddim neu am bris gostyngol anfasnachol o fwy na 10% ac a ddefnyddir yn eich ymgyrch (gweler Gwariant tybiannol)2

Rhaid rhoi gwybod i'r Comisiwn Etholiadol am bob gwariant gan y blaid ar ôl yr etholiad.3
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Hydref 2024

Rheoli gwariant ar ymgyrch

Pwy sy'n gyfrifol am wariant ar ymgyrch y blaid?

Trysorydd cofrestredig plaid sydd fel arfer yn gyfrifol am sicrhau bod y blaid yn dilyn y rheolau ar wariant ar ymgyrch.1  Fodd bynnag, os yw plaid wedi cofrestru swyddog ymgyrchu, yr unigolyn hwn sy'n gyfrifol am wariant ar ymgyrch yn lle hynny.2

Gallwch benodi dirprwyon i'ch helpu gyda rhai o'ch cyfrifoldebau. Gallwch wneud hyn ar CPE Ar-lein neu drwy ddefnyddio Ffurflen DPS.

Awdurdodi a thalu treuliau'r ymgyrch

Dim ond yr 'unigolyn cyfrifol' a gofrestrwyd gyda ni a phobl a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y person cyfrifol a all fynd i gostau o ran gwariant plaid ar ymgyrchu.3  

Ystyr 'mynd i gostau' yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian.

Er enghraifft, gall rhywun gael ei awdurdodi i wario arian ar eitemau penodol, neu hyd at swm penodol.

Mae'r rheolau hyn ar waith er mwyn sicrhau y gallwch fod mewn rheolaeth o wariant eich plaid a'i gofnodi ac adrodd arno yn gywir.

Dylech sicrhau bod eich gwirfoddolwyr a'ch ymgyrchwyr yn gwybod pwy all ac na all fynd i gostau.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023

Pa weithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant?

Ymhlith y gweithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ar ymgyrchu mae:1

  • darllediadau pleidiau gwleidyddol, os oes gan eich plaid hawl i gael un
  • hysbysebion plaid o unrhyw fath. Er enghraifft, baneri stryd, gwefannau neu fideos YouTube
  • deunydd am y blaid a anfonir at bleidleiswyr yn ddigymell. Er enghraifft, llythyrau neu daflenni a anfonwch nad ydynt mewn ymateb i ymholiadau penodol
  • y maniffesto a dogfennau eraill yn nodi polisïau eich plaid
  • ymchwil i'r farchnad neu ddulliau eraill o ganfod pa blaid y mae pobl yn bwriadu pleidleisio drosti (os yw'r ymchwil yn ymwneud ag ymgeiswyr penodol, fodd bynnag, gall fod yn wariant ymgeisydd)
  • cynadleddau i'r wasg neu ddelio â'r cyfryngau mewn ffyrdd eraill
  • ralïau a digwyddiadau pleidiol, gan gynnwys cost presenoldeb pobl, ac unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir
  • cludiant mewn cysylltiad â hyrwyddo neu roi cyhoeddusrwydd i'ch plaid

Pa gostau a gaiff eu cynnwys?

Rhaid i chi gynnwys unrhyw gostau perthnasol sy'n gysylltiedig â phob gweithgaredd. Er enghraifft, os ydych yn llunio taflenni neu hysbysebion, rhaid i chi gynnwys y costau dylunio a dosbarthu. Rhaid i chi hefyd gynnwys gorbenion neu gostau gweinyddol sy'n gysylltiedig â phob gweithgaredd. 

Rhaid i bob cost gynnwys TAW, hyd yn oed os gallwch adennill taliadau TAW. 

Mae'r canllawiau ar y costau perthnasol sy'n gysylltiedig â phob gweithgaredd wedi'u cynnwys yn yr adrannau canlynol. Nid yw'n rhestr gynhwysfawr. Os oes gennych ymholiadau am gostau gorbenion penodol, cysylltwch â ni i gael cyngor.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023

Gorbenion cyffredinol a chostau cysylltiedig

Pan eir i gostau gorbenion perthnasol a chostau cysylltiedig, y swm sy'n cyfrif fel gwariant ar ymgyrch yw'r gyfran sy'n adlewyrchu defnydd yn ystod yr ymgyrch hon mewn ffordd resymol. Rhaid i'r gyfran honno gael ei chynnwys yn y ffurflen ac mae'n cyfrif tuag at y terfyn gwariant.1

Mae hyn yn gymwys i eitemau fel:

  • swyddfa
  • ardrethi busnes
  • biliau trydan
  • darparu llinellau ffôn a mynediad i'r rhyngrwyd
  • darparu cyfarpar swyddfa o unrhyw fath

Fel arfer, y gyfran sy'n adlewyrchu defnydd mewn ffordd resymol yw'r swm yr eir iddo sy'n fwy na'r costau arferol mewn cyfnod penodol.
 

Eg

Er enghraifft, mae plaid yn talu swm safonol y mis ar gyfer trydan. Yn y cyfnod cyn yr etholiad, bydd yn mynd i swm sy'n fwy na'r hyn y byddai'n ei dalu fel arfer. Y swm ychwanegol yw'r swm y mae'n rhaid rhoi gwybod amdano yn eich ffurflen. 

Pa gostau na chânt eu cynnwys?

Pa gostau na chânt eu cynnwys?

Nid oes angen rhoi gwybod am gostau dŵr, nwy, treth gyngor a gofal plant. Nid ystyrir bod ganddynt gysylltiad digon agos â gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023

Darllediadau pleidiau gwleidyddol

Os oes gennych hawl i ddarllediadau pleidiau gwleidyddol, rhaid i chi gynnwys y costau cynhyrchu fel gwariant ar ymgyrchu. Nid oes angen i chi gynnwys gwerth yr amser ar yr awyr.1

Mae'n rhaid i chi gynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:

  • asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • safle neu gyfleusterau
  • cyfarpar

i baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd neu ddarlledu'r deunydd.

Gorbenion a chostau cysylltiedig

Mae'n cynnwys cost unrhyw feddalwedd o unrhyw fath i'w defnyddio ar unrhyw ddyfais i ddylunio a chynhyrchu cynnwys mewnol.
 

eg

Er enghraifft, ffi drwyddedu ar gyfer meddalwedd a ddefnyddir i ddylunio deunydd y darllediad.

Party political broadcasts 2

Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar ar gyfer paratoi, cynhyrchu a hwyluso'r broses o gynhyrchu neu ddarlledu'r cynnwys.

Mae'n cynnwys cyfran berthnasol o gostau:

  • swyddfa
  • ardrethi busnes
  • trydan
  • rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd

sy'n gysylltiedig â pharatoi, cynhyrchu a hwyluso'r broses o gynhyrchu a/neu ddarlledu'r cynnwys.

Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â'r darllediad i'r blaid, lle mae'r blaid yn talu neu'n ad-dalu'r gost honno. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023

Hysbysebu

Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:

  • asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • safle neu gyfleusterau
  • cyfarpar
     

a ddefnyddir i:

  • baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd ar gyfer hysbyseb
  • dosbarthu neu hwyluso'r broses o rannu'r deunydd hwnnw ar gyfer hysbyseb drwy unrhyw fodd, gan gynnwys unrhyw gost y gellir ei phriodoli i wneud y cynnwys yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull.
     

eg1

Er enghraifft, llogi ffotograffydd a safle i gynhyrchu delweddau i'w defnyddio mewn deunydd hysbysbeu.

eg2

Er enghraifft, prynu lle mwy blaenllaw ar dudalen mewn chwilotwr.

Advertising 2

Mae'n cynnwys cost meddalwedd o unrhyw fath i'w defnyddio ar unrhyw ddyfais i:

  • ddylunio a chynhyrchu deunydd hysbysebu yn fewnol
  • lledaenu neu hwyluso'r broses o ledaenu deunydd hysbysebu

p'un a gaiff y deunydd hwnnw ei ddosbarthu'n ddigidol, yn electronig neu drwy ddulliau eraill.
 

eg 3

Er enghraifft, ffi drwyddedu neu feddalwedd i'w defnyddio ar unrhyw ddyfais.

Ads 3

Mae'n cynnwys cost paratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd hysbysebu:

  • i'w lawrlwytho a'i ddefnyddio gan bobl eraill
  • i'w rannu ar unrhyw fath o sianel neu lwyfan cyfryngau cymdeithasol neu i hyrwyddo'r blaid drwy ddull o'r fath
     

eg 4

Er enghraifft, costau cynhyrchu deunydd hysbysebu yn hyrwyddo'r blaid a gaiff ei rannu ar dudalen ar sianel cyfryngau cymdeithasol yn annog dilynwyr i'w rannu.

Ads 4

Mae'n cynnwys cost cyrchu, prynu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy'n:

  • hwyluso'r broses o ddosbarthu neu ledaenu deunydd hysbysebu drwy unrhyw ddull
  • hyrwyddo deunydd hysbysebu neu'n ei wneud yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull
     

eg 5

Er enghraifft, prynu hunaniaethau digidol a ddefnyddir i wneud i ddeunydd ymddangos fel petai wedi cael ei weld a'i gymeradwyo gan nifer mawr o ddefnyddwyr ar lwyfan y cyfryngau cymdeithasol.

Ads 5

Mae'n cynnwys costau:

  • lletya a chynnal gwefan neu ddeunydd electronig/digidol arall sy'n hyrwyddo'r blaid 
  • dylunio ac adeiladu'r wefan
  • cyfran o unrhyw wefan neu ddeunydd sy'n cael ei sefydlu i godi arian ar gyfer y blaid ond sydd hefyd yn hyrwyddo'r blaid yn ystod y cyfnod a reoleiddir

Mae'n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunydd hysbysebu.

Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar mewn perthynas â:

  • pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd hysbysebu
  • lledaenu'r deunydd hysbysebu drwy ei ddosbarthu neu fel arall

Mae'n cynnwys cost: 

  • papur neu unrhyw gyfrwng arall y mae'r deunydd hysbysebu yn cael ei argraffu arno
  • arddangos hysbysebion yn ffisegol mewn unrhyw leoliad, er enghraifft clymau neu lud i osod posteri

Mae'n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:

•    cyfarpar llungopïo
•    cyfarpar argraffu

i'w ddefnyddio i argraffu deunydd hysbysebu. 

Mae'n cynnwys cyfran berthnasol o gostau:

  • swyddfa
  • ardrethi busnes
  • trydan
  • rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd

mewn cysylltiad â:

  • pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd hysbysebu
  • lledaenu'r deunydd hysbysebu drwy ei ddosbarthu neu fel arall

Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â deunydd hysbysebu i'r blaid, lle mae'r blaid yn talu neu'n ad-dalu'r gost honno. 

Deunydd y gellir ei lawrlwytho

Os rhoddwch ddeunydd ar wefan i bobl ei argraffu at eu defnydd personol, fel posteri ffenestr neu ffurflenni deiseb, bydd y costau dylunio a chostau'r wefan yn cyfrif fel gwariant ar ymgyrchu. Nid oes angen i chi gyfrif costau argraffu pobl yn erbyn eich terfyn gwariant, gan y bydd y costau'n fach iawn.

Os gallai'r deunydd gael ei argraffu a'i ddosbarthu i bleidleiswyr – er enghraifft, taflen – bydd angen i chi esbonio sut rydych yn disgwyl i bobl ei ddefnyddio. Os byddwch yn awdurdodi defnydd ehangach o'r deunydd, gall y costau cynhyrchu gyfrif fel gwariant ar ymgyrch ni waeth pwy sy'n gwneud y gwaith argraffu.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023

Cludiant mewn cysylltiad â hyrwyddo neu roi cyhoeddusrwydd i'ch plaid

Cludo gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr

Mae'n cynnwys cost cludo:

  • gwirfoddolwyr
  • aelodau o'r blaid, gan gynnwys aelodau o staff
  • ymgyrchwyr eraill 

o gwmpas yr ardal etholiadol, neu i'r ardal etholiadol ac oddi yno, gan gynnwys cost:

  • tocynnau ar gyfer unrhyw gludiant, gan gynnwys unrhyw ffi archebu
  • llogi unrhyw gludiant
  • tanwydd neu drydan a brynir ar gyfer unrhyw gludiant
  • parcio ar gyfer unrhyw gludiant

lle maent yn ymgyrchu ar ran y blaid.

Mae'n cynnwys cost cludiant y telir amdano gan unrhyw unigolyn, plaid wleidyddol neu drydydd parti arall ac y bydd y blaid wleidyddol neu drydydd parti yn ei thalu neu'n ei had-dalu, lle'r oedd yr unigolion a oedd yn cael eu cludo yn ymgyrchu neu'n ymgymryd â gweithgareddau a oedd yn gysylltiedig â'r ymgyrch ar ran y blaid.

Costau eraill sydd wedi'u cynnwys 

Mae'n cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw gerbyd neu fath o gludiant sy'n arddangos deunydd sy'n hyrwyddo'r blaid, gan gynnwys unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â:

  • dylunio cynllun a'i osod ar y cerbyd neu'r math o gludiant
  • teithio rhwng ardaloedd etholaethol
  • teithio o amgylch ardal etholiadol
  • ffioedd parcio lle defnyddir cerbyd i arddangos deunydd

Mae'n cynnwys cyfran o gostau:

  • swyddfa
  • ardrethi busnes
  • trydan
  • rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd

Lle mae'r rhain yn gysylltiedig â chynllunio, trefnu neu ddefnyddio cludiant o unrhyw fath, neu lle mae cerbyd neu fath o gludiant yn cael ei baratoi i'w ddefnyddio mewn ardaloedd etholiadol. Er enghraifft, cost dylunio cynllun sy'n hyrwyddo'r blaid a'i osod ar ochr bws.

Mae'n cynnwys yr holl gostau cludiant sy'n gysylltiedig â materion gwariant eraill. Er enghraifft, cludo rhywun i rali.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023

Cynadleddau i'r wasg neu ddelio â'r cyfryngau mewn ffyrdd eraill

Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:

  • asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • safle neu gyfleusterau
  • cyfarpar

a ddefnyddir i baratoi, cynhyrchu, hwyluso neu gynnal cynadleddau i'r wasg neu ddelio â'r cyfryngau mewn ffyrdd eraill.

Mae'n cynnwys cost meddalwedd arbenigol ar gyfer y wasg neu'r cyfryngau neu danysgrifiadau.

Mae'n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth baratoi, cynhyrchu, hwyluso neu gynnal cynadleddau'r wasg neu ddelio â'r cyfryngau mewn ffyrdd eraill.

Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar mewn perthynas â pharatoi, cynhyrchu, hwyluso neu gynnal cynadleddau'r wasg neu ddelio â'r cyfryngau mewn ffyrdd eraill.

Mae'n cynnwys cyfran berthnasol o gostau:

  • swyddfa
  • ardrethi busnes
  • trydan
  • rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd

sy'n gysylltiedig â delio â'r cyfryngau, megis cydlynu cynadleddau i'r wasg neu weithgarwch gyda'r cyfryngau, neu ddrafftio datganiadau i'r wasg, neu weithgareddau eraill sy'n ymwneud â'r wasg, gan gynnwys lle mae gan blaid gyfleusterau cynadleddau'r wasg ar ei safle eisoes.

Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â chynadleddau i'r wasg neu ddelio â'r wasg mewn ffyrdd eraill, i'r blaid, lle mae'r blaid yn talu neu'n ad-dalu'r gost honno. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023

Deunydd a anfonir at etholwyr yn ddigymell

Costau sy'n gysylltiedig â chael gwybodaeth a thargedu neu nodi pleidleiswyr, gan gynnwys costau cronfeydd data

Mae hyn yn cynnwys cost cyrchu, cael, prynu, datblygu neu gynnal:

  • meddalwedd TG neu gronfeydd data o fanylion cyswllt
  • unrhyw wybodaeth, drwy ba ddull bynnag

a ddefnyddir i hwyluso'r broses o anfon deunydd digymell at bleidleiswyr.
 

eg 1

Er enghraifft, prynu cyfeiriadau e-bost.

unsol 2

Mae'n cynnwys cost cyrchu, cael neu ddatblygu setiau data, gan gynnwys dadansoddeg data i dargedu pleidleiswyr drwy ba ddull bynnag, gan gynnwys cost asiantaethau, sefydliadau neu bobl eraill sy'n nodi grwpiau o bleidleiswyr, drwy ba ddull bynnag.

eg2

Er enghraifft, cost unrhyw asiantaeth a gaiff ei thalu i ddadansoddi cynnwys cyfryngau cymdeithasol er mwyn hwyluso'r broses o dargedu pleidleiswyr mewn ardaloedd etholaethol a chost modelu gan unrhyw asiantaeth sy'n seiliedig ar y dadansoddiad hwnnw.

unsol 3

Mae'n cynnwys cost unrhyw wasanaethau i nodi pleidleiswyr sy'n cael eu prynu, eu datblygu neu eu darparu cyn y cyfnod a reoleiddir, ond a ddefnyddir i dargedu pleidleiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir.

Lle ceir gwybodaeth neu fynediad at wybodaeth gan drydydd parti, mae cost fasnachol cael y wybodaeth honno gan y trydydd parti wedi'i chynnwys. 

Costau sy'n gysylltiedig â pharatoi, cynhyrchu neu ddosbarthu deunydd digymell i bleidleiswyr, gan gynnwys drwy ddulliau digidol

Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:

  • asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • safle neu gyfleusterau
  • cyfarpar

a ddefnyddir i:

  • baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd digymell
  • lledaenu'r deunydd digymell drwy ei ddosbarthu neu fel arall, gan gynnwys unrhyw gost y gellir ei phriodoli i wneud y deunydd yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull.

Mae'n cynnwys cost dosbarthu deunydd drwy unrhyw ddull gan gynnwys dulliau electronig neu ddosbarthu'r deunydd yn ffisegol, er enghraifft cost amlenni a stampiau neu brynu system ar gyfer anfon negeseuon e-bost.

Mae'n cynnwys cost cyrchu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy'n hyrwyddo deunydd digymell ar unrhyw lwyfan neu sy'n ei wneud yn fwy gweladwy ar unrhyw lwyfan.
 

eg3

Er enghraifft, taliad i ddatblygwr i greu ap sy'n hwyluso'r broses o dargedu deunydd y parti ar sianel cyfryngau cymdeithasol.

unsol 4

Mae'n cynnwys cost goruchwylio a chynnal pob cyfrwng cymdeithasol, dull digidol neu ddulliau eraill o ddosbarthu deunydd digymell. Mae hyn yn cynnwys cynnal pob cyfrif ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys os yw'n cael ei gynnal gan endid/unigolyn arall.

Costau eraill sydd wedi'u cynnwys 

Mae'n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunydd digymell.

Mae'n cynnwys cost papur neu unrhyw gyfrwng arall y mae'r deunydd digymell yn cael ei argraffu arno.

Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar mewn perthynas â:

  • pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd digymell
  • lledaenu'r deunydd digymell drwy ei ddosbarthu neu fel arall

Mae'n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:

  • cyfarpar llungopïo
  • cyfarpar argraffu

i'w ddefnyddio i argraffu deunydd digymell.

Mae'n cynnwys cyfran berthnasol o gostau:

  • swyddfa
  • ardrethi busnes
  • trydan
  • rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd

sy'n gysylltiedig â pharatoi, cynhyrchu, lledaenu a dosbarthu deunydd digymell.

Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â deunydd digymell i'r blaid, lle mae'r blaid yn talu neu'n ad-dalu'r gost honno.

Costau nad ydynt wedi'u cynnwys 

Nid yw'n cynnwys unrhyw gost sy'n gysylltiedig â chael data fel y'i caniateir drwy statud neu reoliad.
 

eg4

Er enghraifft, mae gan bleidiau gwleidyddol hawl i gael copi o'r gofrestr etholiadol drwy reoliad 102 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001. Nid oes angen cyfrif am unrhyw wariant tybiannol mewn perthynas â defnydd o gofrestr o'r fath.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023

Eich maniffesto a dogfennau eraill yn nodi polisïau eich plaid

Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:

  • asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • safle neu gyfleusterau
  • cyfarpar

a ddefnyddir i:

  • baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu unrhyw faniffesto neu ddogfen arall
  • lledaenu'r maniffesto neu ddogfen arall drwy ei (d)dosbarthu neu fel arall

gan gynnwys unrhyw gost y gellir ei phriodoli i wneud y cynnwys yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull
 

eg1

Er enghraifft, prynu lle mwy blaenllaw ar dudalen mewn chwilotwr.

Manifesto 2

Mae'n cynnwys cost darparu'r maniffesto neu ddogfen arall ar ffurf electronig neu ffisegol a phob dull o'i (l)ledaenu.

Mae'n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu maniffesto neu ddogfen arall.

Mae'n cynnwys cost papur neu unrhyw gyfrwng arall y mae'r maniffesto neu ddogfen arall yn cael ei (h)argraffu arno.

Costau cyfarpar

Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar mewn perthynas â:

  • pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r maniffesto neu ddogfen arall
  • lledaenu'r maniffesto neu ddogfen arall drwy ei (d)dosbarthu neu fel arall

Mae'n cynnwys cost prynu neu logi:

  • cyfarpar llungopïo
  • cyfarpar argraffu

i'w ddefnyddio i argraffu'r maniffesto neu ddogfen arall.

Costau cysylltiedig

Mae'n cynnwys cyfran berthnasol o gostau:

  • swyddfa
  • ardrethi busnes
  • trydan
  • rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd

sy'n gysylltiedig ag unrhyw gostau mewnol ar gyfer dylunio'r maniffesto neu ddogfen arall ac ar gyfer ei gynhyrchu/chynhyrchu a'i (l)ledaenu.

Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â'r maniffesto neu ddogfen arall i'r blaid, lle mae'r blaid yn talu neu'n ad-dalu'r gost honno.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023

Ralïau a digwyddiadau

Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:

  • asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • safle neu gyfleusterau
  • cyfarpar

a ddefnyddir i:

  • hyrwyddo rali neu ddigwyddiad arall
  • cynnal rali neu ddigwyddiad arall i hyrwyddo'r blaid
  • ffrydio rali neu ddigwyddiad arall yn fyw neu ei (d)darlledu drwy unrhyw ddull

Mae'n cynnwys cost hyrwyddo neu hysbysebu'r digwyddiad, drwy unrhyw ddull.

Mae'n cynnwys cost digwyddiad sy'n cael ei gynnal drwy ddolen o unrhyw fath neu sy'n cael ei ffrydio'n fyw neu ei ddarlledu, lle mae'r digwyddiad hwnnw yn agored i'w weld gan ddefnyddwyr sianel neu lwyfan neu drwy ddull arall.

Mae'n cynnwys cost darparu unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn y digwyddiad, er enghraifft cost llogi seddi.

Mae'n cynnwys cost prynu unrhyw gyfarpar mewn perthynas â:

  • chynnal cyfarfod cyhoeddus i hyrwyddo'r blaid
  • ffrydio cyfarfod cyhoeddus yn fyw neu ei ddarlledu drwy unrhyw ddull

Costau cysylltiedig

Mae'n cynnwys cyfran berthnasol o gostau:

  • swyddfa
  • ardrethi busnes
  • trydan
  • rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd

sy'n gysylltiedig â:

  • hyrwyddo rali neu ddigwyddiad arall
  • cynnal rali neu ddigwyddiad arall i hyrwyddo'r blaid
  • ffrydio rali neu ddigwyddiad arall yn fyw neu ei (d)darlledu drwy unrhyw ddull

Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn perthynas â:

  • hyrwyddo rali neu ddigwyddiad arall
  • cynnal rali neu ddigwyddiad i hyrwyddo'r blaid
  • ffrydio rali neu ddigwyddiad arall yn fyw neu ei (d)darlledu drwy unrhyw ddull

Costau nad ydynt wedi'u cynnwys 

Nid yw'n cynnwys costau cynhadledd eich plaid.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023

Ymchwil i'r farchnad neu ganfasio

Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu gyfarpar a ddarperir gan eraill

Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:

  • asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • safle neu gyfleusterau
  • cyfarpar

a ddefnyddir i:

  • baratoi, cynhyrchu neu hwyluso gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad
  • cynnal neu gydlynu gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad
  • cofnodi neu ddadansoddi canlyniadau unrhyw ymchwil i'r farchnad neu weithgarwch canfasio, neu eu defnyddio mewn ffordd arall
     

eg1

Er enghraifft, cost defnyddio banciau ffôn i gysylltu â phleidleiswyr, gan gynnwys datblygu sgriptiau i gyflogeion banciau ffôn eu defnyddio y bwriedir iddynt ddylanwadu ar bleidleiswyr.

Market research 2

Costau cael neu gynnal data 

Mae hyn yn cynnwys cost cyrchu, prynu, datblygu neu gynnal:

  • meddalwedd TG neu gronfeydd data o fanylion cyswllt
  • setiau data, gan gynnwys defnyddio dadansoddeg data 

i hwyluso neu gynnal ymchwil i'r farchnad neu weithgarwch canfasio. 
 

eg2

Er enghraifft, mae'n cynnwys cost ymgymryd â gweithgarwch gwrando ar y cyfryngau cymdeithasol a dadansoddi'r canlyniad er mwyn canfod bwriad pleidleiswyr. Mae'n cynnwys costau yr aed iddynt cyn y cyfnod a reoleiddir lle mae'r data yn cael eu defnyddio wedyn yn ystod y cyfnod a reoleiddir.

Market research 3

Costau eraill sydd wedi'u cynnwys 

Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar sydd ei angen i:

  • baratoi, cynhyrchu neu hwyluso gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad
  • cynnal neu gydlynu gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad
  • cofnodi neu ddadansoddi canlyniadau unrhyw ymchwil i'r farchnad neu weithgarwch canfasio, neu eu defnyddio mewn ffordd arall

Er enghraifft:

  • gliniaduron neu lechi os cânt eu defnyddio ar gyfer canfasio
  • ffonau symudol os cânt eu defnyddio gan arweinydd/cydlynydd y gweithgarwch canfasio
    lle mae'r blaid neu drydydd parti yn talu neu'n ad-dalu'r costau am y cyfarpar hwnnw a/neu gostau cysylltiedig.

Mae'n cynnwys cyfran berthnasol o gostau:

  • swyddfa
  • ardrethi busnes
  • trydan
  • rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd

sy'n gysylltiedig ag ymchwil i'r farchnad neu weithgarwch canfasio.

Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â'r ymchwil i'r farchnad neu ganfasio i'r blaid, lle mae'r blaid yn talu neu'n ad-dalu'r gost honno. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023

Beth nad yw'n cyfrif fel gwariant?

Ymhlith y gweithgareddau nad ydynt yn cyfrif fel gwariant ar ymgyrch mae:1

  • treuliau rhesymol y gellir eu priodoli i ddiogelu pobl neu eiddo, er enghraifft llogi diogelwch, defnyddio Blwch Swyddfa’r Post i osgoi hysbysebu cyfeiriad cartref neu swyddfa ar argraffnodau, neu brynu meddalwedd gwrthfeirws ar gyfer diogelu cyfrifiaduron ymgyrchu
  • costau staff parhaol, cyfnod penodol neu dros dro lle mae gan yr aelod o staff gontract cyflogaeth uniongyrchol â'r blaid
  • amser gwirfoddolwyr
  • costau rhedeg swyddfa, heblaw am gostau sy'n uwch na'r arfer oherwydd gwaith ymgyrchu, fel biliau ffôn
  • costau teithio, bwyd a llety pobl tra byddant yn ymgyrchu, oni bai eich bod yn eu had-dalu
  • treuliau a delir o arian cyhoeddus. Er enghraifft, costau diogelwch ar gyfer ymweliadau VIP
  • deunydd a anfonir at eich aelodau yn unig
  • cynadleddau'r blaid2
  • cylchlythyrau lleol am gynrychiolwyr etholedig neu ddarpar ymgeiswyr
  • unrhyw beth y mae ymgeisydd yn ei ddatgan yn briodol ar ei ffurflen gwariant3
  • unrhyw beth y mae ymgyrchydd deiseb adalw cofrestredig yn ei ddatgan yn briodol ar ei ffurflen gwariant4

Amser gwirfoddolwyr

Weithiau efallai na fyddwch yn siŵr a yw rhywun yn wirfoddolwr neu a ddylai ei amser gael ei drin fel gwariant tybiannol. Er enghraifft, efallai fod yr unigolyn yn cynnig gwasanaethau tebyg yn broffesiynol i'r rhai y mae'n eu cyflawni i chi.

Byddant yn wirfoddolwyr:

  • na fydd ei gyflogwr yn talu am yr amser a dreulir ganddo ar eich ymgyrch, neu
  • os bydd yn defnyddio ei wyliau blynyddol, neu
  • os byddant yn hunangyflogedig, ni fyddwch yn elwa ar unrhyw yswiriant proffesiynol sydd ganddynt

Os byddant yn defnyddio cyfarpar neu ddeunyddiau arbenigol, dylech ystyried a yw eu defnydd yn wariant tybiannol, gan ddefnyddio'r egwyddorion yn yr adran nesaf.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Mehefin 2024

Defnyddio eitemau

Pan fyddwch yn defnyddio eitem am y tro cyntaf, rhaid i chi gynnwys y gost.1

Mae hyn yn cynnwys unrhyw eitemau a brynwyd ac y talwyd amdanynt cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau, ond a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod hwnnw.

Eitemau na chânt eu defnyddio 

Nid oes angen i chi roi gwybod am wariant ar eitemau na chânt eu defnyddio (er enghraifft, taflenni na chânt eu dosbarthu) ac ni fydd yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant. Dylech gadw'r deunydd na chaiff ei ddefnyddio neu ddangos tystiolaeth o'i ddinistrio. 

Os byddwch yn defnyddio'r eitemau dros ben mewn etholiad arall, rhaid i chi roi gwybod am y gwariant ar yr eitemau hynny yn yr etholiad hwnnw. 

Ailddefnyddio eitemau 

Pan fyddwch wedi talu am eitem, rhaid i chi roi gwybod am y gost lawn pan gaiff ei defnyddio gyntaf, hyd yn oed os byddwch yn bwriadu ei hailddefnyddio mewn etholiad arall yn y dyfodol. 

Os byddwch yn gwneud hynny, nid oes angen i chi roi gwybod am y taliad gwreiddiol eto. Efallai y bydd rhai costau cysylltiedig y mae'n rhaid rhoi gwybod amdanynt yn yr etholiad hwnnw, er enghraifft storio neu lanhau. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023

Gwariant tybiannol

Weithiau, efallai y byddwch am ddefnyddio rhywbeth yn eich ymgyrch na fu'n rhaid i chi wario arian arno, am ei fod wedi cael ei roi i chi fel rhodd mewn da, am ddim neu am bris gostyngiad anfasnachol. 

Er enghraifft, gallai hyn fod am fod y cyflenwr yn cefnogi eich ymgyrch. 

Ymysg yr enghreifftiau posibl o rodd mewn da mae:

  • gofod mewn neuadd ar gyfer digwyddiad
  • argraffu
  • rhoi bwyd a thrafnidiaeth i wirfoddolwyr

Pan fydd hyn yn digwydd, bydd gwerth masnachol llawn yr hyn y gwnaethoch ei ddefnyddio yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant a rhaid rhoi gwybod amdano.1

Gelwir hyn yn ‘wariant tybiannol’. 

Mae'n rhaid bodloni pedwar prawf er mwyn i eitem (h.y. nwyddau, cyfleuster neu wasanaeth) gyfrif fel gwariant tybiannol:

  1. cewch yr eitem am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%
  2. mae'r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y gyfradd fasnachol a'r hyn a dalwch dros £200
  3. mae'r eitem yn cael ei defnyddio gan neu ar ran y blaid
  4. byddai wedi bod yn wariant ar ymgyrchu pe byddech wedi mynd i'r gwariant (Pa weithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant?)

Rhaid i'r eitem gael ei throsglwyddo neu ei darparu i'r blaid er mwyn iddi gyfrif fel gwariant tybiannol. 

Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wariant tybiannol hefyd yn rhodd i'r blaid os yw uwchlaw £500, a rhaid rhoi gwybod amdano ar wahân. Gweler ein canllawiau ar fwy o wybodaeth am roddion i bleidiau gwleidyddol.

Os cewch eitemau am ddim, rhaid i chi gofnodi gwerth marchnad llawn yr eitem os yw'n fwy na £200.

Os cewch eitemau am bris gostyngol anfasnachol o fwy na 10%, ac mae'r gwahaniaeth mewn gwerth yn fwy na £200, rhaid i chi gynnwys gwerth y gostyngiad fel gwariant tybiannol. Rhaid i'r swm rydych yn ei dalu gael ei gynnwys fel gwariant arferol plaid.

Gostyngiadau masnachol ac anfasnachol

Dim ond i ostyngiadau anfasnachol y mae gwariant tybiannol yn gymwys, sef gostyngiadau arbennig a roddir i chi, yn benodol, gan gyflenwyr. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfradd arbennig nad yw ar gael ar y farchnad agored.

Mae'r rhain yn wahanol i ostyngiadau masnachol sydd ar gael i bob cwsmer, megis gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol. Ni chaiff eitemau, nwyddau na gwasanaethau a brynir â gostyngiadau masnachol eu trin fel gwariant tybiannol. 

Cael eu defnyddio gan neu ar ran y blaid

Os byddwch yn cael eitem ond na fyddwch yn ei defnyddio, bydd yn rhodd o hyd os bydd dros £500, ond ni fydd yn wariant tybiannol.2

Yr unig adeg y gall person wneud defnydd o rywbeth ar ran plaid wleidyddol yw os bydd y defnydd hwnnw wedi cael ei gyfarwyddo, ei awdurdodi neu ei annog gan y blaid, yr unigolyn cyfrifol neu un o'i ddirprwyon.3

Prisio gwariant tybiannol 

Os yw'r cyflenwr yn ddarparwr masnachol, dylech ddefnyddio'r cyfraddau y mae'n eu codi ar gwsmeriaid eraill. Os nad yw'r wybodaeth hon ar gael, dylech ganfod beth mae darparwyr tebyg yn ei godi am yr un nwyddau neu wasanaethau a defnyddio hyn fel y gwerth masnachol. 

Dylech gadw cofnod o'r modd y daethoch i'ch prisiad a chadw copïau o unrhyw ddyfynbrisiau a gewch. 

Dylai'r gwerth a ddatganwch ar eich ffurflen gwariant fod yn asesiad gonest a rhesymol o'r gwerth masnachol. 
 

Notional spending summary box 1

Er enghraifft, cewch swyddfeydd y gallwch redeg eich ymgyrch ohonynt am ddim, a ddefnyddiwch am bedwar mis llawn y cyfnod a reoleiddir. 

Byddech yn cyfrifo ac yn rhoi gwybod am y gwariant tybiannol fel y'i nodir isod: 

Cyfradd fasnachol am rent misol: £1,200

Gwerth masnachol am bedwar mis o rent: £1,200 x 4 = £4,800

Gwariant tybiannol i'w gofnodi: £4,800
 

Notional spending 2

Ceir canllawiau yma ar brisio rhodd:

Sut mae cyfrifo gwerth rhodd? (Prydain Fawr)

Sut mae cyfrifo gwerth rhodd? (Gogledd Iwerddon)

Staff ar secondiad 

Os bydd cyflogwr yn secondio aelod o staff ar gyfer eich ymgyrch, rhaid i chi gofnodi ei gyflog gros ac unrhyw lwfansau ychwanegol fel gwerth tybiannol. 

Nid oes angen i chi gynnwys cyfraniadau yswiriant gwladol na phensiwn y cyflogwr.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023

Rhannu gwariant

Pam y gall fod angen i chi wahanu gwariant 

Efallai y bydd angen i chi wahanu eich costau rhwng gweithgareddau a deunyddiau sy'n cyfrif fel gwariant ar ymgyrch a'r rheini nad ydynt. 

Dyma ddwy enghraifft gyffredin i ddangos ble mae angen i chi wahanu gwariant:

  • os defnyddiwch eich swyddfa fel lleoliad ar gyfer canfasio dros y ffôn, bydd angen i chi rannu'r bil ffôn rhwng galwadau canfasio, a galwadau nad ydynt yn ymwneud â'r ymgyrch
  • os byddwch yn defnyddio gwaith dylunio ar gyfer ymgyrchu cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau, ac yn parhau i'w ddefnyddio ar ôl iddo ddechrau, bydd angen i chi wahanu'r costau dylunio rhwng y ddau gyfnod
     

Splitting spending summary box 1

Er enghraifft, rydych yn comisiynu gwaith dylunio ar gyfer logo ymgyrch ar gyfer eich plaid a ddefnyddiwch ar eich gwefan, cyfryngau cymdeithasol eraill ac ar holl ddeunydd eich ymgyrch am fis cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau ac yn ystod y cyfnod a reoleiddir o 12 mis. 

Dylech wahanu'r gost dylunio yn gyfartal ar draws yr holl amser y byddwch yn ei ddefnyddio yn y ffordd hon. 

Costiodd y gwaith dylunio £19,500, a gwnaethoch ei ddefnyddio am gyfnod o 13 mis, felly'r gost fesul mis yw £19,500 ÷ 13 = £1,500 y mis. 

Cwmpasodd y cyfnod a reoleiddir y 12 mis olaf, felly cost y gwariant yn ystod y cyfnod a reoleiddir yw:

12 x £1,500 = £18,000 

rhaid i £18,000 gael ei gofnodi fel gwariant ymgyrchu plaid
 

The honest assessment principle

Yr egwyddor asesu gonest

Ym mhob achos dylech wneud asesiad gonest, yn seiliedig ar y ffeithiau, o gyfran y gwariant y gellir ei phriodoli'n deg i'ch ymgyrch.

Weithiau, gall fod yn anodd gwahanu costau'n union gywir. Er enghraifft, efallai mai dim ond dadansoddiad o gostau galwadau dros werth penodol y gall eich bil ffôn ei ddarparu.

Yn yr achosion hyn, dylech ystyried y ffordd orau o wneud asesiad gonest ar sail y wybodaeth sydd gennych. Er enghraifft, gallech gymharu'r bil ag un nad yw'n cwmpasu cyfnod a reoleiddir.

Os ydych yn dal yn ansicr, ffoniwch neu e-bostiwch ni i gael cyngor.

Pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen gwariant rhaid i chi ddatgan bod y ffurflen yn gyflawn a chywir hyd eithaf eich gwybodaeth a'ch cred. Mae'r datganiad hwn yn cwmpasu unrhyw asesiadau rydych wedi'u gwneud ynghylch rhannu gwariant.

Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu'n fyrbwyll.1
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023

Gwariant pleidiau ac ymgeiswyr

Mae deddfwriaeth ar wahân sy'n llywodraethu yn hyrwyddo ymgeiswyr penodol yn Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig.

O dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, bydd yr ymgeiswyr sy'n sefyll dros eich plaid yn penodi asiantiaid sy'n gyfrifol am wariant yr ymgeisydd a rhaid iddynt roi gwybod amdano mewn ffurflen ar ôl yr etholiad.

Mae pleidiau gwleidyddol yn cefnogi eu hymgeiswyr mewn ffyrdd amrywiol. Mae'n bosibl y bydd yn rhaid rhoi gwybod am hyn mewn ffyrdd gwahanol, yn dibynnu ar beth y byddwch yn ei wneud. Gan fod yn rhaid i'r ymgeisydd a'r asiant roi gwybod amdano yn aml, caiff hyn ei gwmpasu mewn mwy o fanylder yn y canllawiau i ymgeiswyr.

Os bydd eich gweithgaredd yn hyrwyddo ymgeisydd penodol yn ystod cyfnod a reoleiddir yr ymgeisydd, yna bydd yn cael ei gwmpasu o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl mewn rhyw ffordd.1  Y cwestiwn nesaf yw sut mae'n rhaid rhoi gwybod amdano fel gwariant, a gan bwy.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023

Adrodd

Os bydd eich gwariant yn hyrwyddo'r blaid ond nid unrhyw ymgeisydd penodol, yna rhaid rhoi gwybod amdano fel gwariant y blaid.

Rhaid rhoi gwybod am wariant sy'n hyrwyddo ymgeisydd penodol ond nad yw'n ymddangos ar ffurflen ymgeisydd hefyd fel gwariant y blaid.

Fodd bynnag, bydd unrhyw wariant y mae'n rhaid iddo ymddangos ar ffurflen ymgeisydd wedi'i eithrio o wariant y blaid.1

Mae dwy ffordd y gallai fod angen i'ch gweithgaredd ymddangos ar ffurflen yr ymgeisydd:

  • gwariant tybiannol gan yr ymgeisydd
  • gwariant awdurdodedig gan y blaid ei hun ar ran yr ymgeisydd

Gwariant tybiannol gan yr ymgeisydd

Os ydych wedi darparu neu drosglwyddo rhywbeth i'r ymgeisydd, a'i fod wedyn yn cael ei ddefnyddio gan neu ar ran yr ymgeisydd yn y cyfnod a reoleiddir ar gyfer ymgeiswyr, a'i fod yn werth mwy na £50, yna gwariant tybiannol gan yr ymgeisydd fydd hyn.2

Yn yr achos hwn, rhaid i'r ymgeisydd roi gwybod am y gwariant. Gan fod yn rhaid iddo ymddangos ar ffurflen yr ymgeisydd, nid oes angen i'r gwariant ymddangos ar ffurflen y blaid.

Os bydd yr ymgeisydd yn ei chael ar ôl iddo ddod yn ymgeisydd, bydd hwn hefyd yn rhodd gan y blaid i'r ymgeisydd, a rhaid ei hadrodd hefyd fel rhodd yn y datganiad.3

Gwariant awdurdodedig

Os nad ydych wedi darparu na throsglwyddo unrhyw beth i'r ymgeisydd, ond os ydych wedi gwario arian yn hyrwyddo'r ymgeisydd ar ôl iddo ddod yn ymgeisydd yn swyddogol, gelwir hyn weithiau yn ‘ymgyrchu lleol’ neu'n ‘wariant adran 75’.

Rhaid i chi gael awdurdodiad ysgrifenedig gan asiant yr ymgeisydd os byddwch am wario mwy na £700 yn hyrwyddo ymgeisydd penodol.4

Os bydd yr asiant yn eich awdurdodi i fynd i'r gwariant, bydd gennych awdurdod i wneud y taliad ar gyfer y gwariant hwnnw.5  Os byddwch yn gwneud y taliadau, yna os caiff y gwariant ei dderbyn ar ôl iddynt ddod yn ymgeisydd yn swyddogol a'i fod yn fwy na £50, bydd yn rhodd i'r ymgeisydd. 

Rhaid i'r asiant roi gwybod am y gwariant awdurdodedig ar ffurflen yr ymgeisydd.6  

Gan fod yn rhaid iddo ymddangos ar ffurflen yr ymgeisydd, nid oes angen iddo ymddangos ar ffurflen y blaid. Fodd bynnag, os aethoch i wariant o fwy na £700, yna rhaid i chi hefyd gwblhau ffurflen ar wahân ynghyd â datganiad. Rhaid i chi gyflwyno'r rhain i'r Swyddog Canlyniadau yn etholaeth yr ymgeisydd o fewn 21 diwrnod i'r canlyniad gael ei ddatgan.7

Gwariant anawdurdodedig

Os nad yw'r asiant wedi eich awdurdodi i fynd i'r gwariant, yna nid oes angen iddo ymddangos ar ffurflen yr ymgeisydd. Yn yr achos hwn, rhaid i chi ei gynnwys ar ffurflen eich plaid fel arfer.8

Mae'n drosedd gwario mwy na £700 yn hyrwyddo unrhyw ymgeisydd penodol ar ôl iddo ddod yn ymgeisydd yn swyddogol heb gael awdurdodiad ysgrifenedig gan yr asiant.9

Siart llif yn egluro'r testun ar y dudalen hon ar sut i adrodd ar wariant

Ceir rhagor o fanylion am adrodd ar wariant ymgeiswyr yn Gwariant a Rhoddion Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Mai 2024

Hyrwyddo ymgeisydd

Ystyrir gweithgaredd sy'n hyrwyddo plaid yn weithgaredd sy'n hyrwyddo ymgeisydd1  pan fydd y gweithgaredd:

  • yn enwi'r ymgeisydd penodol 
  • yn enwi'r ardal etholiadol benodol lle mae'r ymgeisydd yn sefyll 

examples of promoting a candidate

Enghraifft A

Mae plaid wleidyddol yn cynhyrchu llythyr sy'n nodi polisïau'r blaid ac yn annog pleidleiswyr i bleidleisio dros ymgeisydd penodol yn yr ardal etholiadol honno yn y llinellau olaf. Gan fod modd adnabod yr ymgeisydd, dylid ystyried bod y llythyr wedi cael ei ddosbarthu at ddibenion ethol yr ymgeisydd.

Enghraifft B

Mae plaid wleidyddol yn cynhyrchu hysbyseb sy'n nodi polisïau'r blaid ac yn gofyn i bleidleiswyr bleidleisio dros y blaid yn yr ardal etholiadol honno. Er nad yw'r hysbyseb yn enwi'r ymgeisydd, mae'n enwi'r ardal etholiadol. Felly dylid ystyried bod yr hysbyseb wedi cael ei dosbarthu at ddibenion ethol ymgeisydd y blaid.

Enghraifft C

Mae plaid wleidyddol yn cynhyrchu llythyr sy'n nodi polisïau'r blaid ac yn annog pleidleiswyr i bleidleisio dros y blaid. Er bod y llythyr yn cael ei anfon i gartref yn yr ardal etholiadol, nid yw'r llythyr ei hun yn nodi enw'r ymgeisydd na'r ardal etholiadol. Ni ddylid ystyried bod hwn yn cael ei ddefnyddio at ddibenion etholiad yr ymgeisydd. Gwariant y blaid yw hyn.

Enghraifft D

Mae plaid wleidyddol yn cynnal digwyddiad ymgyrchu cyhoeddus. Unigolion o'r blaid yn hyrwyddo'r blaid yn y digwyddiad. Maent hefyd yn treulio 25% o'r digwyddiad yn hyrwyddo ymgeisydd lleol y blaid. Dylid ystyried bod y 25% honno o'r digwyddiad yn cael ei defnyddio at ddibenion etholiad yr ymgeisydd.

egs link

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Mehefin 2024

Dyrannu gwariant ledled Prydain Fawr

Yn Etholiadau Cyffredinol Senedd y DU, mae cyfyngiadau gwariant gwahanol ar gyfer gwahanol rannau o'r DU (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon). 

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi ddyrannu'r gwariant rhwng y rhannau, a sicrhau eich bod yn aros o fewn y terfyn ar gyfer pob rhan.1

Os yw eich plaid wedi'i chofrestru yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i'ch holl wariant gael ei ddyrannu i Ogledd Iwerddon. 

Os yw eich plaid wedi'i chofrestru ym Mhrydain Fawr, mae'n rhaid i chi ddyrannu eich gwariant rhwng Cymru, Lloegr a'r Alban. 

Rhaid i'r eitemau a ddefnyddir ym mhob rhan o Brydain Fawr gael eu cyfrif tuag at y terfyn gwariant ar gyfer y rhan honno. 
 

examples

Er enghraifft, os mai dim ond yn yr Alban rydych yn sefyll fel ymgeiswyr, yna caiff eich holl wariant ei ddyrannu i'r Alban.

Ar gyfer enghraifft arall, os gwnaethoch ddosbarthu 10,000 o daflenni yng Nghymru a 10,000 o daflenni yn Lloegr, byddai angen i chi ddyrannu hanner y gost i wariant ar ymgyrchu yng Nghymru a hanner ar wariant ar ymgyrchu yn Lloegr. 
 

Minor overlaps

Mân orgyffwrdd 

Mewn rhai achosion gall eich gwariant mewn un rhan o Brydain Fawr gael effaith fach ar ran arall. 

Dylech ddyrannu gwariant i'r rhan o Brydain Fawr yr anelwyd eich gwariant ati.  
 

examples

Er enghraifft, os gwnaethoch hysbysebu mewn papur newydd yng Nghymru, gellir ei ddosbarthu i ran o sir ffiniol yn Lloegr. Yn yr achos hwn, byddech yn dyrannu'r holl wariant i Gymru.

Spending that relates equally to parts of Great Britain

Gwariant sy'n gysylltiedig yn gyfartal â rhannau o Brydain Fawr 

Efallai y bydd rhai mathau o wariant yn gysylltiedig yn gyfartal â rhannau gwahanol o Brydain Fawr. Ymysg yr enghreifftiau mae gwefannau, neu hysbysebu mewn papur newydd a ddosberthir ledled Prydain Fawr. 

Yn yr achosion hyn, rhaid i chi rannu'r gost rhwng y rhannau o Brydain Fawr, yn gymesur â nifer seddi Senedd y Deyrnas Unedig a geir ym mhob un.

Example

Er enghraifft, rydych yn cynnal ymgyrch cyfryngau cymdeithasol sy’n costio £40,000 gan dargedu pleidleiswyr yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban. Ni allwch nodi faint o’r gwariant sy’n cael effaith mewn unrhyw ran o Brydain Fawr; dim ond y ffigur cyfan sydd gennych.

Mae’r gwariant yn cael effaith ar draws Prydain Fawr i gyd ac felly rhaid ei briodoli i bob rhan yn gymesur â nifer yr etholaethau ym mhob rhan.2

Mae’r gwariant yn cael effaith ym mhob un o’r 543 o etholaethau yn Lloegr, y 57 o etholaethau yn yr Alban, a’r 32 o etholaethau yng Nghymru – 632 o etholaethau i gyd.

Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio'r cyfrifiad canlynol:

Cyfanswm gwariant × (nifer yr etholaethau yn y rhan honno o Brydain Fawr ÷ cyfanswm nifer yr etholaethau y mae’r gwariant yn cael effaith ynddynt)

Swm y gwariant a briodolwyd i Loegr:

£40,000 × (543 ÷ 632) = £34,367.09

Swm y gwariant a briodolwyd i’r Alban:

£40,000 × (57 ÷ 632) = £3,607.59

Swm y gwariant a briodolwyd i Gymru:

£40,000 × (32 ÷ 632) = £2,025.32

Rydych wedi gwario £34,367.09 tuag at eich terfyn gwariant yn Lloegr, £3,607.59 tuag at eich terfyn gwariant yn yr Alban, a £2,025.32 tuag at eich terfyn gwariant yng Nghymru.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Awst 2024

Adrodd cyn y bleidlais

Mewn etholiad cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig, mae'n ofynnol i bleidiau sydd ag ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr etholiad gyflwyno adroddiad cyn y bleidlais bob wythnos am y rhoddion a gawsant a'r benthyciadau a benthyciadau y maent wedi'u trefnu.1

Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw rodd a dderbyniwyd neu fenthyciad yr ymrwymwyd iddo gan y blaid ganolog os yw dros £11,180.

Os nad ydych wedi derbyn unrhyw roddion a benthyciadau o'r fath, rhaid i chi gyflwyno cofnod o ddim.

Rhaid i chi gyflwyno'r adroddiadau hyn bob wythnos gan ddechrau o ddyddiad diddymu'r Senedd hyd at ddyddiad yr etholiad. 

Rhaid i adroddiadau gael eu darparu i ni o fewn saith diwrnod i'r adeg y daw pob cyfnod adrodd wythnosol i ben.

Cyfnod adrodd Dyddiad cau cyflwyno’r adroddiad cyn yr etholiad
30 Mai – 5 Mehefin12 Mehefin 2024
6 Mehefin – 12 Mehefin19 Mehefin 2024
13 Mehefin – 19 Mehefin26 Mehefin 2024
20 Mehefin – 26 Mehefin3 Gorffennaf 2024
27 Mehefin – 3 Gorffennaf 10 Gorffennaf 2024
4 Gorffennaf (un diwrnod yn unig)11 Gorffennaf 2024

Os ydych wedi dweud wrthym nad oes gennych ymgeiswyr yn sefyll, ni fydd rhaid i chi gyflwyno adroddiad cyn y bleidlais. 

Mae hyn yn ychwanegol at yr adroddiad chwarterol ar roddion a benthyciadau, y mae'n rhaid i bleidiau barhau i'w gyflwyno drwy gydol y cyfnod a reoleiddir.

Pwy sy'n gyfrifol am gyflwyno adroddiadau cyn y bleidlais? 

Rhaid i'r trysorydd sicrhau bod y blaid yn cydymffurfio â'r rheolau ac yn cyflwyno'r adroddiadau cyn y bleidlais yn brydlon.2  Rhaid i'r trysorydd wneud datganiad ar gyfer pob adroddiad i ddweud ei fod yn gyflawn ac yn gywir.3  

Hyd yn oed os bydd gan eich plaid swyddog ymgyrchu sy'n gyfrifol am wariant ar ymgyrchu, y trysorydd fydd yn gyfrifol o hyd am gyflwyno adroddiadau ar roddion a benthyciadau cyn y bleidlais.

Gallwch roi gwybod am eich rhoddion a'ch benthyciadau drwy CPE Ar-lein. Os ydych yn cyflwyno’ch rhoddion a’ch benthyciadau cyn y bleidlais ar CPE Ar-lein, nodwch fod yr adroddiadau rhoddion a benthyciadau yn ddogfennau ar wahân.

Rydym hefyd yn cynhyrchu ffurflenni y gallwch eu defnyddio ar gyfer hyn:

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Hydref 2024

Adrodd ar ôl yr etholiad

Rhaid i bleidiau gwleidyddol sy'n ymladdyr etholiad roi gwybod i ni ar ôl yr etholiad am fanylion eu gwariant ar ymgyrchu. 1

Cofnodi gwariant ar ymgyrch

Rhaid i chi gofnodi'ch holl wariant ar ymgyrch. Bydd angen i chi anfon y wybodaeth hon atom ar eich ffurflen gwariant ar ôl yr etholiad. 

Rhaid i chi gadw anfonebau neu dderbynebion ar gyfer unrhyw daliadau dros £200.

Rhaid i bob cost gynnwys TAW, hyd yn oed os gallwch adennill taliadau TAW.

Yr hyn y mae angen i chi ei gofnodi

Ar gyfer pob eitem gwariant, rhaid i chi gofnodi'r wybodaeth ganlynol i'w rhoi ar eich ffurflen gwariant:

  • ar gyfer beth roedd y gwariant - er enghraifft, taflenni neu hysbysebu 
  • enw a chyfeiriad y cyflenwr
  • ar gyfer taliad a wneir, y swm
  • ar gyfer gwariant tybiannol, y gwerth – gweler Prisio gwariant tybiannol 
  • ar ba ddyddiad y gwnaethoch wario'r arian 
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023

Terfynau amser ar gyfer derbyn a thalu anfonebau

Mae'n rhaid i'r unigolyn cyfrifol dderbyn a thalu pob anfoneb ar gyfer eich gwariant ar ymgyrchu o fewn terfynau amser penodol.1

Cael anfonebau gan gyflenwyr

Rhaid i chi gael pob anfoneb ar gyfer eich gwariant ar ymgyrchu gan gyflenwyr o fewn 30 diwrnod i'r etholiad - 5 Awst 2024 (6 Awst yn yr Alban). 

Os bydd y dyddiad hwn yn syrthio ar benwythnos, Gŵyl y Banc neu wyliau cyhoeddus arall, caiff ei symud i’r diwrnod gwaith nesaf.

Caiff anfonebau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau hwn eu galw'n hawliadau heb eu talu at ddibenion adrodd. Rhaid i chi gofnodi hawliadau heb eu talu ar eich ffurflen gwariant. 

Ni chewch dalu hawliadau heb eu talu oni bai bod gorchymyn llys ar waith sy'n eich galluogi i wneud hynny. Gelwir hyn yn ganiatâd i dalu a gallwch chi neu'r cyflenwr ei gael drwy wneud cais i'r llys perthnasol cyn talu. 

Talu anfonebau gan gyflenwyr

Rhaid i chi dalu eich holl anfonebau gan gyflenwyr o fewn 60 diwrnod i'r etholiad - 2 Medi 2024. 

Os bydd y dyddiad hwn yn syrthio ar benwythnos, Gŵyl y Banc neu wyliau cyhoeddus arall, caiff ei symud i’r diwrnod gwaith nesaf.

Caiff anfonebau a dderbynnir ar amser ond sydd heb eu talu ar ôl y dyddiad cau hwn eu galw'n hawliadau sy'n destun anghydfod.2  Rhaid i chi gofnodi hawliadau sy'n destun anghydfod ar eich ffurflen gwariant. 

Ni chewch dalu hawliadau sy'n destun anghydfod oni bai bod dyfarniad neu orchymyn llys ar waith sy'n eich galluogi i wneud hynny. Gelwir hyn yn ganiatâd i dalu a gallwch ei gael drwy wneud cais i'r llys perthnasol cyn talu. Gall cyflenwyr hefyd wneud cais i'r llys perthnasol er mwyn cael dyfarniad neu orchymyn llys am daliad.  

Gorfodi 

Gwneir penderfyniadau terfynol ar erlyn am dderbyn a thalu anfonebau'n hwyr gan yr erlynydd cyhoeddus perthnasol (Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru a Lloegr, Swyddfa'r Goron/Procuradur Ffisgal yn yr Alban, a'r Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon). 

Gallwn roi cosb sifil am dorri'r rheolau hyn. 

Fodd bynnag, ni fyddwn fel arfer yn ystyried cymryd camau gorfodi er mwyn bod yn gymesur pan fydd yr oedi neu'r symiau yn fach.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mai 2024

Eich ffurflen gwariant

Rhaid i chi roi gwybod i ni am eich gwariant ar ymgyrchu ar ôl yr etholiad.

Rhaid i'ch ffurflen gwariant gynnwys y canlynol:

  • manylion eich gwariant 1
  • anfonebau a derbynebau ar gyfer unrhyw daliad dros £200 2
  • datganiad gan y ‘person cyfrifol’ i ddweud bod y ffurflen yn gyflawn a chywir 3

Nid oes angen anfonebau ar gyfer gwariant tybiannol o hyd, gan nad yw'n daliad, ond yn werth yr hyn a ddarparwyd.

Mae'n drosedd gwneud datganiad anwir yn fwriadol neu'n fyrbwyll.

Gallwch roi gwybod am eich gwariant ar ymgyrchu drwy CPE Ar-lein.

Rydym hefyd yn cynhyrchu ffurflenni a nodiadau esboniadol y gallwch eu defnyddio ar gyfer hyn. Maent yn cwmpasu'r holl wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chynnwys. 

Mae ffurflenni ar wahân ar gyfer pleidiau sy'n sefyll ym Mhrydain Fawr ac yng Ngogledd Iwerddon.


Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Gorffennaf 2024

Dyddiadau cau ar gyfer adroddiadau ar ymgyrchu

Mae'r dyddiad y mae'n rhaid i chi ein hysbysu yn dibynnu ar faint y gwnaethoch ei wario ar eich ymgyrch. Dangosir y dyddiadau cau isod. 1

Gwariant ar ymgyrch o £250k neu laiGwariant ar ymgyrch o fwy na £250k
Adrodd o fewn tri mis i'r etholiadAdrodd o fewn chwe mis i'r etholiad
4 Hydref 20244 Ionawr 2025

Gallech gael eich cosbi os na chyflwynwch eich ffurflen ar amser.

Os bydd eich gwariant ar ymgyrchu dros £250k rhaid i chi gynnwys adroddiad gan archwilydd annibynnol. 2

I gael rhagor o wybodaeth, gweler y ddogfen hon:

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Hydref 2024