Gwariant pleidiau a rhoddion a benthyciadau cyn y bleidlais: Etholiad cyffredinol Senedd y DU
Hysbysebu
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd ar gyfer hysbyseb
- dosbarthu neu hwyluso'r broses o rannu'r deunydd hwnnw ar gyfer hysbyseb drwy unrhyw fodd, gan gynnwys unrhyw gost y gellir ei phriodoli i wneud y cynnwys yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull.
eg1
Er enghraifft, llogi ffotograffydd a safle i gynhyrchu delweddau i'w defnyddio mewn deunydd hysbysbeu.
eg2
Er enghraifft, prynu lle mwy blaenllaw ar dudalen mewn chwilotwr.
Advertising 2
Mae'n cynnwys cost meddalwedd o unrhyw fath i'w defnyddio ar unrhyw ddyfais i:
- ddylunio a chynhyrchu deunydd hysbysebu yn fewnol
- lledaenu neu hwyluso'r broses o ledaenu deunydd hysbysebu
p'un a gaiff y deunydd hwnnw ei ddosbarthu'n ddigidol, yn electronig neu drwy ddulliau eraill.
eg 3
Er enghraifft, ffi drwyddedu neu feddalwedd i'w defnyddio ar unrhyw ddyfais.
Ads 3
Mae'n cynnwys cost paratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd hysbysebu:
- i'w lawrlwytho a'i ddefnyddio gan bobl eraill
- i'w rannu ar unrhyw fath o sianel neu lwyfan cyfryngau cymdeithasol neu i hyrwyddo'r blaid drwy ddull o'r fath
eg 4
Er enghraifft, costau cynhyrchu deunydd hysbysebu yn hyrwyddo'r blaid a gaiff ei rannu ar dudalen ar sianel cyfryngau cymdeithasol yn annog dilynwyr i'w rannu.
Ads 4
Mae'n cynnwys cost cyrchu, prynu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy'n:
- hwyluso'r broses o ddosbarthu neu ledaenu deunydd hysbysebu drwy unrhyw ddull
- hyrwyddo deunydd hysbysebu neu'n ei wneud yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull
eg 5
Er enghraifft, prynu hunaniaethau digidol a ddefnyddir i wneud i ddeunydd ymddangos fel petai wedi cael ei weld a'i gymeradwyo gan nifer mawr o ddefnyddwyr ar lwyfan y cyfryngau cymdeithasol.
Ads 5
Mae'n cynnwys costau:
- lletya a chynnal gwefan neu ddeunydd electronig/digidol arall sy'n hyrwyddo'r blaid
- dylunio ac adeiladu'r wefan
- cyfran o unrhyw wefan neu ddeunydd sy'n cael ei sefydlu i godi arian ar gyfer y blaid ond sydd hefyd yn hyrwyddo'r blaid yn ystod y cyfnod a reoleiddir
Mae'n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunydd hysbysebu.
Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar mewn perthynas â:
- pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd hysbysebu
- lledaenu'r deunydd hysbysebu drwy ei ddosbarthu neu fel arall
Mae'n cynnwys cost:
- papur neu unrhyw gyfrwng arall y mae'r deunydd hysbysebu yn cael ei argraffu arno
- arddangos hysbysebion yn ffisegol mewn unrhyw leoliad, er enghraifft clymau neu lud i osod posteri
Mae'n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:
• cyfarpar llungopïo
• cyfarpar argraffu
i'w ddefnyddio i argraffu deunydd hysbysebu.
Mae'n cynnwys cyfran berthnasol o gostau:
- swyddfa
- ardrethi busnes
- trydan
- rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd
mewn cysylltiad â:
- pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd hysbysebu
- lledaenu'r deunydd hysbysebu drwy ei ddosbarthu neu fel arall
Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â deunydd hysbysebu i'r blaid, lle mae'r blaid yn talu neu'n ad-dalu'r gost honno.
Deunydd y gellir ei lawrlwytho
Os rhoddwch ddeunydd ar wefan i bobl ei argraffu at eu defnydd personol, fel posteri ffenestr neu ffurflenni deiseb, bydd y costau dylunio a chostau'r wefan yn cyfrif fel gwariant ar ymgyrchu. Nid oes angen i chi gyfrif costau argraffu pobl yn erbyn eich terfyn gwariant, gan y bydd y costau'n fach iawn.
Os gallai'r deunydd gael ei argraffu a'i ddosbarthu i bleidleiswyr – er enghraifft, taflen – bydd angen i chi esbonio sut rydych yn disgwyl i bobl ei ddefnyddio. Os byddwch yn awdurdodi defnydd ehangach o'r deunydd, gall y costau cynhyrchu gyfrif fel gwariant ar ymgyrch ni waeth pwy sy'n gwneud y gwaith argraffu.