Cynadleddau i'r wasg neu ddelio â'r cyfryngau mewn ffyrdd eraill
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
safle neu gyfleusterau
cyfarpar
a ddefnyddir i baratoi, cynhyrchu, hwyluso neu gynnal cynadleddau i'r wasg neu ddelio â'r cyfryngau mewn ffyrdd eraill.
Mae'n cynnwys cost meddalwedd arbenigol ar gyfer y wasg neu'r cyfryngau neu danysgrifiadau.
Mae'n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth baratoi, cynhyrchu, hwyluso neu gynnal cynadleddau'r wasg neu ddelio â'r cyfryngau mewn ffyrdd eraill.
Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar mewn perthynas â pharatoi, cynhyrchu, hwyluso neu gynnal cynadleddau'r wasg neu ddelio â'r cyfryngau mewn ffyrdd eraill.
Mae'n cynnwys cyfran berthnasol o gostau:
swyddfa
ardrethi busnes
trydan
rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd
sy'n gysylltiedig â delio â'r cyfryngau, megis cydlynu cynadleddau i'r wasg neu weithgarwch gyda'r cyfryngau, neu ddrafftio datganiadau i'r wasg, neu weithgareddau eraill sy'n ymwneud â'r wasg, gan gynnwys lle mae gan blaid gyfleusterau cynadleddau'r wasg ar ei safle eisoes.
Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â chynadleddau i'r wasg neu ddelio â'r wasg mewn ffyrdd eraill, i'r blaid, lle mae'r blaid yn talu neu'n ad-dalu'r gost honno.