Gwariant pleidiau a rhoddion a benthyciadau cyn y bleidlais: Etholiad cyffredinol Senedd y DU

Ynglŷn â'r canllawiau hyn

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) mae cyfreithiau ar godi arian a gwariant y mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol eu dilyn yn y cyfnod cyn etholiadau penodol. 

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth am y cyfnod a reoleiddir, terfynau gwariant, gwariant ar ymgyrchu, gofynion adrodd a dyddiadau cau ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU. 

Mae'r canllawiau hyn a'r dogfennau cysylltiedig y cyfeiriwn atynt ond yn gymwys i bleidiau gwleidyddol cofrestredig. Mae'r rheolau ar gyfer ymgeiswyr yn wahanol, ac mae gennym ganllawiau ar wahân ar gyfer ymgeiswyr a'u hasiantiaid sy'n ymladd etholiad cyffredinol Senedd y DU.

Pan fydd pleidiau'n dosbarthu deunydd etholiad, rhaid iddo gynnwys manylion a elwir yn argraffnod. Rydym yn cyhoeddi canllawiau ar argraffnodau ar wahân.

Termau ac ymadroddion a ddefnyddiwn 

Yn y canllawiau hyn, rydym yn defnyddio ‘rhaid’ wrth gyfeirio at ofyniad penodol. Rydym yn defnyddio ‘dylai’ ar gyfer eitemau sydd yn arfer dda ofynnol yn ein barn ni, ond nad ydynt yn ofynion cyfreithiol.

Rydym yn defnyddio ‘chi’ neu'r ‘person cyfrifol’ i gyfeirio at yr unigolyn sy'n gyfrifol am wariant ar ymgyrchu. Y swyddog ymgyrchu cofrestredig fydd hwn os penodwyd un, neu'r trysorydd cofrestredig os nad oes un.

Cyfieithiadau a fformatau eraill  

I gael gwybodaeth am sut i gael y cyhoeddiad hwn mewn iaith arall neu Braille, cysylltwch â'r Comisiwn Etholiadol: 
Ffôn: 0333 103 1928
E-bost: [email protected] 
 

Diweddariadau i'n canllawiau

Dyddiad y diweddariadDisgrifiad o'r newid
Awst 2024

Enghraifft newydd ar ddyrannu gwariant ar draws Prydain Fawr

Tachwedd 2023

Diweddariadau i adlewyrchu'r terfynau gwariant newydd ar gyfer pleidiau gwleidyddol