Gwariant pleidiau a rhoddion a benthyciadau cyn y bleidlais: Etholiad cyffredinol Senedd y DU

Gorbenion cyffredinol a chostau cysylltiedig

Pan eir i gostau gorbenion perthnasol a chostau cysylltiedig, y swm sy'n cyfrif fel gwariant ar ymgyrch yw'r gyfran sy'n adlewyrchu defnydd yn ystod yr ymgyrch hon mewn ffordd resymol. Rhaid i'r gyfran honno gael ei chynnwys yn y ffurflen ac mae'n cyfrif tuag at y terfyn gwariant.1

Mae hyn yn gymwys i eitemau fel:

  • swyddfa
  • ardrethi busnes
  • biliau trydan
  • darparu llinellau ffôn a mynediad i'r rhyngrwyd
  • darparu cyfarpar swyddfa o unrhyw fath

Fel arfer, y gyfran sy'n adlewyrchu defnydd mewn ffordd resymol yw'r swm yr eir iddo sy'n fwy na'r costau arferol mewn cyfnod penodol.
 

Eg

Er enghraifft, mae plaid yn talu swm safonol y mis ar gyfer trydan. Yn y cyfnod cyn yr etholiad, bydd yn mynd i swm sy'n fwy na'r hyn y byddai'n ei dalu fel arfer. Y swm ychwanegol yw'r swm y mae'n rhaid rhoi gwybod amdano yn eich ffurflen. 

ee band eang

Er enghraifft, mae gan blaid gontract ar gyfer band eang o swm penodedig bob mis. Er bod y blaid yn defnyddio'r band eang yn ystod y cyfnod a reoleiddir, mae'r pris yn aros yr un fath ag arfer. Felly, nid oes angen adrodd ar wariant yn y ffurflen dreth.

Pa gostau na chânt eu cynnwys?

TAW 

Os ydych chi wedi talu TAW ar eitem, mae’n rhaid i chi gynnwys hyn wrth roi gwybod am gostau'r eitem yn eich ffurflen dreth. Mae’n dal yn rhaid i chi gynnwys TAW hyd yn oed os gellir ei hawlio'n ôl fel traul busnes.  

Efallai na fydd anfonebau ar gyfer taliadau a wneir i gwmnïau sydd wedi'u lleoli dramor bob amser yn cynnwys TAW. Os ydych chi wedi talu TAW, dylech gynnwys hyn fel rhan o gost yr eitem wrth adrodd, hyd yn oed os nad yw TAW wedi'i chynnwys ar yr anfoneb. 

Er enghraifft, rydych chi'n talu am ddeunydd digidol i gael ei gyhoeddi fel hysbysebion ar blatfform cyfryngau cymdeithasol sydd wedi'i leoli dramor. Rydych chi wedi talu TAW ar yr hysbysebion, ond nid yw eich anfoneb yn cynnwys TAW. Mae’n dal yn rhaid i chi gynnwys y TAW a dalwyd gennych wrth roi gwybod am gostau’r hysbysebion yn eich ffurflen dreth.

Pa gostau na chânt eu cynnwys?

Nid oes angen rhoi gwybod am gostau dŵr, nwy, treth gyngor a gofal plant. Nid ystyrir bod ganddynt gysylltiad digon agos â gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mehefin 2025