Gwariant pleidiau a rhoddion a benthyciadau cyn y bleidlais: Etholiad cyffredinol Senedd y DU
Deunydd a anfonir at etholwyr yn ddigymell
Costau sy'n gysylltiedig â chael gwybodaeth a thargedu neu nodi pleidleiswyr, gan gynnwys costau cronfeydd data
Mae hyn yn cynnwys cost cyrchu, cael, prynu, datblygu neu gynnal:
- meddalwedd TG neu gronfeydd data o fanylion cyswllt
- unrhyw wybodaeth, drwy ba ddull bynnag
a ddefnyddir i hwyluso'r broses o anfon deunydd digymell at bleidleiswyr.
eg 1
Er enghraifft, prynu cyfeiriadau e-bost.
unsol 2
Mae'n cynnwys cost cyrchu, cael neu ddatblygu setiau data, gan gynnwys dadansoddeg data i dargedu pleidleiswyr drwy ba ddull bynnag, gan gynnwys cost asiantaethau, sefydliadau neu bobl eraill sy'n nodi grwpiau o bleidleiswyr, drwy ba ddull bynnag.
eg2
Er enghraifft, cost unrhyw asiantaeth a gaiff ei thalu i ddadansoddi cynnwys cyfryngau cymdeithasol er mwyn hwyluso'r broses o dargedu pleidleiswyr mewn ardaloedd etholaethol a chost modelu gan unrhyw asiantaeth sy'n seiliedig ar y dadansoddiad hwnnw.
unsol 3
Mae'n cynnwys cost unrhyw wasanaethau i nodi pleidleiswyr sy'n cael eu prynu, eu datblygu neu eu darparu cyn y cyfnod a reoleiddir, ond a ddefnyddir i dargedu pleidleiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Lle ceir gwybodaeth neu fynediad at wybodaeth gan drydydd parti, mae cost fasnachol cael y wybodaeth honno gan y trydydd parti wedi'i chynnwys.
Costau sy'n gysylltiedig â pharatoi, cynhyrchu neu ddosbarthu deunydd digymell i bleidleiswyr, gan gynnwys drwy ddulliau digidol
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd digymell
- lledaenu'r deunydd digymell drwy ei ddosbarthu neu fel arall, gan gynnwys unrhyw gost y gellir ei phriodoli i wneud y deunydd yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull.
Mae'n cynnwys cost dosbarthu deunydd drwy unrhyw ddull gan gynnwys dulliau electronig neu ddosbarthu'r deunydd yn ffisegol, er enghraifft cost amlenni a stampiau neu brynu system ar gyfer anfon negeseuon e-bost.
Mae'n cynnwys cost cyrchu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy'n hyrwyddo deunydd digymell ar unrhyw lwyfan neu sy'n ei wneud yn fwy gweladwy ar unrhyw lwyfan.
eg3
Er enghraifft, taliad i ddatblygwr i greu ap sy'n hwyluso'r broses o dargedu deunydd y parti ar sianel cyfryngau cymdeithasol.
unsol 4
Mae'n cynnwys cost goruchwylio a chynnal pob cyfrwng cymdeithasol, dull digidol neu ddulliau eraill o ddosbarthu deunydd digymell. Mae hyn yn cynnwys cynnal pob cyfrif ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys os yw'n cael ei gynnal gan endid/unigolyn arall.
Costau eraill sydd wedi'u cynnwys
Mae'n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunydd digymell.
Mae'n cynnwys cost papur neu unrhyw gyfrwng arall y mae'r deunydd digymell yn cael ei argraffu arno.
Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar mewn perthynas â:
- pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd digymell
- lledaenu'r deunydd digymell drwy ei ddosbarthu neu fel arall
Mae'n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:
- cyfarpar llungopïo
- cyfarpar argraffu
i'w ddefnyddio i argraffu deunydd digymell.
Mae'n cynnwys cyfran berthnasol o gostau:
- swyddfa
- ardrethi busnes
- trydan
- rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd
sy'n gysylltiedig â pharatoi, cynhyrchu, lledaenu a dosbarthu deunydd digymell.
Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â deunydd digymell i'r blaid, lle mae'r blaid yn talu neu'n ad-dalu'r gost honno.
Costau nad ydynt wedi'u cynnwys
Nid yw'n cynnwys unrhyw gost sy'n gysylltiedig â chael data fel y'i caniateir drwy statud neu reoliad.
eg4
Er enghraifft, mae gan bleidiau gwleidyddol hawl i gael copi o'r gofrestr etholiadol drwy reoliad 102 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001. Nid oes angen cyfrif am unrhyw wariant tybiannol mewn perthynas â defnydd o gofrestr o'r fath.