Os oes gennych hawl i ddarllediadau pleidiau gwleidyddol, rhaid i chi gynnwys y costau cynhyrchu fel gwariant ar ymgyrchu. Nid oes angen i chi gynnwys gwerth yr amser ar yr awyr.1
Mae'n rhaid i chi gynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
safle neu gyfleusterau
cyfarpar
i baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd neu ddarlledu'r deunydd.
Gorbenion a chostau cysylltiedig
Mae'n cynnwys cost unrhyw feddalwedd o unrhyw fath i'w defnyddio ar unrhyw ddyfais i ddylunio a chynhyrchu cynnwys mewnol.
eg
Er enghraifft, ffi drwyddedu ar gyfer meddalwedd a ddefnyddir i ddylunio deunydd y darllediad.
Party political broadcasts 2
Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar ar gyfer paratoi, cynhyrchu a hwyluso'r broses o gynhyrchu neu ddarlledu'r cynnwys.
Mae'n cynnwys cyfran berthnasol o gostau:
swyddfa
ardrethi busnes
trydan
rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd
sy'n gysylltiedig â pharatoi, cynhyrchu a hwyluso'r broses o gynhyrchu a/neu ddarlledu'r cynnwys.
Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â'r darllediad i'r blaid, lle mae'r blaid yn talu neu'n ad-dalu'r gost honno.