Gwariant pleidiau a rhoddion a benthyciadau cyn y bleidlais: Etholiad cyffredinol Senedd y DU

Gwariant tybiannol

Weithiau, efallai y byddwch am ddefnyddio rhywbeth yn eich ymgyrch na fu'n rhaid i chi wario arian arno, am ei fod wedi cael ei roi i chi fel rhodd mewn da, am ddim neu am bris gostyngiad anfasnachol. 

Er enghraifft, gallai hyn fod am fod y cyflenwr yn cefnogi eich ymgyrch. 

Ymysg yr enghreifftiau posibl o rodd mewn da mae:

  • gofod mewn neuadd ar gyfer digwyddiad
  • argraffu
  • rhoi bwyd a thrafnidiaeth i wirfoddolwyr

Pan fydd hyn yn digwydd, bydd gwerth masnachol llawn yr hyn y gwnaethoch ei ddefnyddio yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant a rhaid rhoi gwybod amdano.1

Gelwir hyn yn ‘wariant tybiannol’. 

Mae'n rhaid bodloni pedwar prawf er mwyn i eitem (h.y. nwyddau, cyfleuster neu wasanaeth) gyfrif fel gwariant tybiannol:

  1. cewch yr eitem am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%
  2. mae'r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y gyfradd fasnachol a'r hyn a dalwch dros £200
  3. mae'r eitem yn cael ei defnyddio gan neu ar ran y blaid
  4. byddai wedi bod yn wariant ar ymgyrchu pe byddech wedi mynd i'r gwariant (Pa weithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant?)

Rhaid i'r eitem gael ei throsglwyddo neu ei darparu i'r blaid er mwyn iddi gyfrif fel gwariant tybiannol. 

Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wariant tybiannol hefyd yn rhodd i'r blaid os yw uwchlaw £500, a rhaid rhoi gwybod amdano ar wahân. Gweler ein canllawiau ar fwy o wybodaeth am roddion i bleidiau gwleidyddol.

Os cewch eitemau am ddim, rhaid i chi gofnodi gwerth marchnad llawn yr eitem os yw'n fwy na £200.

Os cewch eitemau am bris gostyngol anfasnachol o fwy na 10%, ac mae'r gwahaniaeth mewn gwerth yn fwy na £200, rhaid i chi gynnwys gwerth y gostyngiad fel gwariant tybiannol. Rhaid i'r swm rydych yn ei dalu gael ei gynnwys fel gwariant arferol plaid.

Gostyngiadau masnachol ac anfasnachol

Dim ond i ostyngiadau anfasnachol y mae gwariant tybiannol yn gymwys, sef gostyngiadau arbennig a roddir i chi, yn benodol, gan gyflenwyr. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfradd arbennig nad yw ar gael ar y farchnad agored.

Mae'r rhain yn wahanol i ostyngiadau masnachol sydd ar gael i bob cwsmer, megis gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol. Ni chaiff eitemau, nwyddau na gwasanaethau a brynir â gostyngiadau masnachol eu trin fel gwariant tybiannol. 

Cael eu defnyddio gan neu ar ran y blaid

Os byddwch yn cael eitem ond na fyddwch yn ei defnyddio, bydd yn rhodd o hyd os bydd dros £500, ond ni fydd yn wariant tybiannol.2

Yr unig adeg y gall person wneud defnydd o rywbeth ar ran plaid wleidyddol yw os bydd y defnydd hwnnw wedi cael ei gyfarwyddo, ei awdurdodi neu ei annog gan y blaid, yr unigolyn cyfrifol neu un o'i ddirprwyon.3

Prisio gwariant tybiannol 

Os yw'r cyflenwr yn ddarparwr masnachol, dylech ddefnyddio'r cyfraddau y mae'n eu codi ar gwsmeriaid eraill. Os nad yw'r wybodaeth hon ar gael, dylech ganfod beth mae darparwyr tebyg yn ei godi am yr un nwyddau neu wasanaethau a defnyddio hyn fel y gwerth masnachol. 

Dylech gadw cofnod o'r modd y daethoch i'ch prisiad a chadw copïau o unrhyw ddyfynbrisiau a gewch. 

Dylai'r gwerth a ddatganwch ar eich ffurflen gwariant fod yn asesiad gonest a rhesymol o'r gwerth masnachol. 
 

Notional spending summary box 1

Er enghraifft, cewch swyddfeydd y gallwch redeg eich ymgyrch ohonynt am ddim, a ddefnyddiwch am bedwar mis llawn y cyfnod a reoleiddir. 

Byddech yn cyfrifo ac yn rhoi gwybod am y gwariant tybiannol fel y'i nodir isod: 

Cyfradd fasnachol am rent misol: £1,200

Gwerth masnachol am bedwar mis o rent: £1,200 x 4 = £4,800

Gwariant tybiannol i'w gofnodi: £4,800
 

Notional spending 2

Ceir canllawiau yma ar brisio rhodd:

Sut mae cyfrifo gwerth rhodd? (Prydain Fawr)

Sut mae cyfrifo gwerth rhodd? (Gogledd Iwerddon)

Staff ar secondiad 

Os bydd cyflogwr yn secondio aelod o staff ar gyfer eich ymgyrch, rhaid i chi gofnodi ei gyflog gros ac unrhyw lwfansau ychwanegol fel gwerth tybiannol. 

Nid oes angen i chi gynnwys cyfraniadau yswiriant gwladol na phensiwn y cyflogwr.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023