Gwariant pleidiau a rhoddion a benthyciadau cyn y bleidlais: Etholiad cyffredinol Senedd y DU

Eich maniffesto a dogfennau eraill yn nodi polisïau eich plaid

Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:

  • asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • safle neu gyfleusterau
  • cyfarpar

a ddefnyddir i:

  • baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu unrhyw faniffesto neu ddogfen arall
  • lledaenu'r maniffesto neu ddogfen arall drwy ei (d)dosbarthu neu fel arall

gan gynnwys unrhyw gost y gellir ei phriodoli i wneud y cynnwys yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull
 

eg1

Er enghraifft, prynu lle mwy blaenllaw ar dudalen mewn chwilotwr.

Manifesto 2

Mae'n cynnwys cost darparu'r maniffesto neu ddogfen arall ar ffurf electronig neu ffisegol a phob dull o'i (l)ledaenu.

Mae'n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu maniffesto neu ddogfen arall.

Mae'n cynnwys cost papur neu unrhyw gyfrwng arall y mae'r maniffesto neu ddogfen arall yn cael ei (h)argraffu arno.

Costau cyfarpar

Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar mewn perthynas â:

  • pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r maniffesto neu ddogfen arall
  • lledaenu'r maniffesto neu ddogfen arall drwy ei (d)dosbarthu neu fel arall

Mae'n cynnwys cost prynu neu logi:

  • cyfarpar llungopïo
  • cyfarpar argraffu

i'w ddefnyddio i argraffu'r maniffesto neu ddogfen arall.

Costau cysylltiedig

Mae'n cynnwys cyfran berthnasol o gostau:

  • swyddfa
  • ardrethi busnes
  • trydan
  • rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd

sy'n gysylltiedig ag unrhyw gostau mewnol ar gyfer dylunio'r maniffesto neu ddogfen arall ac ar gyfer ei gynhyrchu/chynhyrchu a'i (l)ledaenu.

Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â'r maniffesto neu ddogfen arall i'r blaid, lle mae'r blaid yn talu neu'n ad-dalu'r gost honno.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023