Sut mae cyfrifo gwerth rhodd?

Os bydd eich plaid yn cael neu'n gwerthu eitem, nwyddau neu wasanaeth, rhaid i chi gyfrifo'r gwerth marchnadol. Mae'r gwerth marchnadol yn golygu'r pris y gellid disgwyl yn rhesymol ei dalu am yr eitem, y nwyddau neu'r gwasanaeth pe bai/baent ar werth ar y farchnad agored.

Mae angen cyfrifo'r gwerth marchnadol er mwyn penderfynu a wnaed rhodd a beth yw'r gwerth. Nid ystyrir bod unrhyw incwm masnachol y byddwch yn ei ennill o'r trafodion hyn yn rhodd.

Mae'r adran ganlynol yn rhoi canllawiau am sut i asesu gwerth marchnadol nwyddau a gwasanaethau, penderfynu a wnaed rhodd i'r blaid, a chyfrifo gwerth y rhodd.

Nwyddau a gwasanaethau y mae'r blaid yn eu cael

Yn ogystal â rhoddion ariannol, efallai y byddwch hefyd yn cael rhoddion ar ffurf nwyddau a gwasanaethau. Os byddwch yn cael nwyddau neu wasanaethau am ddim, neu am bris gostyngol anfasnachol, rhaid i chi sicrhau bod y rhain yn cael eu prisio ar gyfradd gymharol y farchnad. 

Gostyngiadau anfasnachol yw gostyngiadau arbennig a roddir i'ch plaid, yn benodol, gan gyflenwyr. Mae'r rhain yn wahanol i ostyngiadau masnachol sydd ar gael i bob cwsmer, megis gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol. Dim ond i ostyngiadau anfasnachol y mae'r rheolau ynglŷn â rhoddion yn gymwys.

Os byddwch yn cael nwyddau neu wasanaethau, caiff y rhain eu hystyried fel rhodd os: 

  • bydd gwerth marchnadol y nwyddau neu'r gwasanaethau, os cawsant eu rhoi am ddim, yn fwy na £500, neu
  • bydd swm y gostyngiad anfasnachol yn fwy na £500

Gwerth y rhodd yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth yr hyn a gewch a'r swm (os o gwbl) a dalwch amdano.

Bydd angen i chi wybod gwerth marchnadol yr eitemau neu'r gwasanaethau er mwyn cyfrifo gwerth y rhodd. Fel gyda phob math o rodd, rhaid i chi hefyd sicrhau bod unrhyw rodd rydych yn ei derbyn sydd dros £500 gan roddwr a ganiateir.

Nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu gwerthu gan y blaid

Os bydd eich plaid yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau, rhaid i chi sicrhau bod y rhain yn cael eu prisio ar gyfradd gymharol y farchnad hefyd. 
Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o werth marchnadol y nwyddau a'r gwasanaethau rydych yn eu gwerthu oherwydd os bydd rhywun yn talu mwy na'r gwerth marchnadol, ystyrir bod y gwahaniaeth rhwng y swm y mae'n ei dalu i chi a'r gwerth marchnadol yn rhodd os bydd y swm hwn yn fwy na £500. 

Mae hyn oherwydd y byddwch yn cael unrhyw daliad ychwanegol ar delerau anfasnachol, a bydd y rheolau ynglŷn â rhoddion yn gymwys. Nid yw'r gwerth marchnadol, neu incwm masnachol, yn rhodd.

Yr egwyddor arweiniol

Yr egwyddor arweiniol ym mhob achos yw y dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o werth y nwyddau neu'r gwasanaethau rydych yn eu cael neu'n eu gwerthu.

Os yw'r union eitem neu wasanaeth, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech ddefnyddio'r cyfraddau a godir gan ddarparwyr eraill fel arweiniad wrth brisio. Er enghraifft, os mai darparwr masnachol yw'r rhoddwr, dylech ddefnyddio'r cyfraddau y mae'n eu codi ar gwsmeriaid tebyg eraill.

Os nad yw'r union nwyddau neu wasanaethau, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech seilio eich asesiad ar gyfraddau nwyddau/gwasanaethau cyfatebol rhesymol ar y farchnad. Os byddwch yn dal yn ansicr ynghylch sut y dylech brisio rhodd benodol, cysylltwch â ni am gyngor.

Mae'n ofynnol i'ch plaid gadw cofnodion sy'n dangos ac yn esbonio'r trafodion y mae wedi ymrwymo iddynt. Er mwyn bodloni'r gofyniad hwn, dylech sicrhau eich bod yn cadw cofnod o asesiadau a phrisiadau fel y gallwch esbonio p'un a wnaed rhodd ai peidio. 

Gwerthu gwasanaethau unigryw

Wrth geisio pennu'r gwerth marchnadol, efallai y byddwch hefyd am ystyried y lefel briodol ar y farchnad ar gyfer yr hyn rydych yn ei werthu. 

Er enghraifft, mewn rhai achosion, efallai y bydd yn rhesymol defnyddio prisiad yn seiliedig ar y gwerthoedd uchaf ar y farchnad. Mae hyn yn arbennig o wir mewn achosion lle mae'r gwasanaethau yn unigryw a/neu lle mae gennych rywfaint o fonopoli ar y farchnad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2023