Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
safle neu gyfleusterau
cyfarpar
a ddefnyddir i:
hyrwyddo rali neu ddigwyddiad arall
cynnal rali neu ddigwyddiad arall i hyrwyddo'r blaid
ffrydio rali neu ddigwyddiad arall yn fyw neu ei (d)darlledu drwy unrhyw ddull
Mae'n cynnwys cost hyrwyddo neu hysbysebu'r digwyddiad, drwy unrhyw ddull.
Mae'n cynnwys cost digwyddiad sy'n cael ei gynnal drwy ddolen o unrhyw fath neu sy'n cael ei ffrydio'n fyw neu ei ddarlledu, lle mae'r digwyddiad hwnnw yn agored i'w weld gan ddefnyddwyr sianel neu lwyfan neu drwy ddull arall.
Mae'n cynnwys cost darparu unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn y digwyddiad, er enghraifft cost llogi seddi.
Mae'n cynnwys cost prynu unrhyw gyfarpar mewn perthynas â:
chynnal cyfarfod cyhoeddus i hyrwyddo'r blaid
ffrydio cyfarfod cyhoeddus yn fyw neu ei ddarlledu drwy unrhyw ddull
Costau cysylltiedig
Mae'n cynnwys cyfran berthnasol o gostau:
swyddfa
ardrethi busnes
trydan
rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd
sy'n gysylltiedig â:
hyrwyddo rali neu ddigwyddiad arall
cynnal rali neu ddigwyddiad arall i hyrwyddo'r blaid
ffrydio rali neu ddigwyddiad arall yn fyw neu ei (d)darlledu drwy unrhyw ddull
Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn perthynas â:
hyrwyddo rali neu ddigwyddiad arall
cynnal rali neu ddigwyddiad i hyrwyddo'r blaid
ffrydio rali neu ddigwyddiad arall yn fyw neu ei (d)darlledu drwy unrhyw ddull