Mae'n rhaid i'r unigolyn cyfrifol dderbyn a thalu pob anfoneb ar gyfer eich gwariant ar ymgyrchu o fewn terfynau amser penodol.1
Cael anfonebau gan gyflenwyr
Rhaid i chi gael pob anfoneb ar gyfer eich gwariant ar ymgyrchu gan gyflenwyr o fewn 30 diwrnod i'r etholiad - 5 Awst 2024 (6 Awst yn yr Alban).
Os bydd y dyddiad hwn yn syrthio ar benwythnos, Gŵyl y Banc neu wyliau cyhoeddus arall, caiff ei symud i’r diwrnod gwaith nesaf.
Caiff anfonebau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau hwn eu galw'n hawliadau heb eu talu at ddibenion adrodd. Rhaid i chi gofnodi hawliadau heb eu talu ar eich ffurflen gwariant.
Ni chewch dalu hawliadau heb eu talu oni bai bod gorchymyn llys ar waith sy'n eich galluogi i wneud hynny. Gelwir hyn yn ganiatâd i dalu a gallwch chi neu'r cyflenwr ei gael drwy wneud cais i'r llys perthnasol cyn talu.
Talu anfonebau gan gyflenwyr
Rhaid i chi dalu eich holl anfonebau gan gyflenwyr o fewn 60 diwrnod i'r etholiad - 2 Medi 2024.
Os bydd y dyddiad hwn yn syrthio ar benwythnos, Gŵyl y Banc neu wyliau cyhoeddus arall, caiff ei symud i’r diwrnod gwaith nesaf.
Caiff anfonebau a dderbynnir ar amser ond sydd heb eu talu ar ôl y dyddiad cau hwn eu galw'n hawliadau sy'n destun anghydfod.2
Rhaid i chi gofnodi hawliadau sy'n destun anghydfod ar eich ffurflen gwariant.
Ni chewch dalu hawliadau sy'n destun anghydfod oni bai bod dyfarniad neu orchymyn llys ar waith sy'n eich galluogi i wneud hynny. Gelwir hyn yn ganiatâd i dalu a gallwch ei gael drwy wneud cais i'r llys perthnasol cyn talu. Gall cyflenwyr hefyd wneud cais i'r llys perthnasol er mwyn cael dyfarniad neu orchymyn llys am daliad.
Gorfodi
Gwneir penderfyniadau terfynol ar erlyn am dderbyn a thalu anfonebau'n hwyr gan yr erlynydd cyhoeddus perthnasol (Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru a Lloegr, Swyddfa'r Goron/Procuradur Ffisgal yn yr Alban, a'r Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon).
Gallwn roi cosb sifil am dorri'r rheolau hyn.
Fodd bynnag, ni fyddwn fel arfer yn ystyried cymryd camau gorfodi er mwyn bod yn gymesur pan fydd yr oedi neu'r symiau yn fach.