Ymhlith y gweithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ar ymgyrchu mae:1
darllediadau pleidiau gwleidyddol, os oes gan eich plaid hawl i gael un
hysbysebion plaid o unrhyw fath. Er enghraifft, baneri stryd, gwefannau neu fideos YouTube
deunydd am y blaid a anfonir at bleidleiswyr yn ddigymell. Er enghraifft, llythyrau neu daflenni a anfonwch nad ydynt mewn ymateb i ymholiadau penodol
y maniffesto a dogfennau eraill yn nodi polisïau eich plaid
ymchwil i'r farchnad neu ddulliau eraill o ganfod pa blaid y mae pobl yn bwriadu pleidleisio drosti (os yw'r ymchwil yn ymwneud ag ymgeiswyr penodol, fodd bynnag, gall fod yn wariant ymgeisydd)
cynadleddau i'r wasg neu ddelio â'r cyfryngau mewn ffyrdd eraill
ralïau a digwyddiadau pleidiol, gan gynnwys cost presenoldeb pobl, ac unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir
cludiant mewn cysylltiad â hyrwyddo neu roi cyhoeddusrwydd i'ch plaid
Pa gostau a gaiff eu cynnwys?
Rhaid i chi gynnwys unrhyw gostau perthnasol sy'n gysylltiedig â phob gweithgaredd. Er enghraifft, os ydych yn llunio taflenni neu hysbysebion, rhaid i chi gynnwys y costau dylunio a dosbarthu. Rhaid i chi hefyd gynnwys gorbenion neu gostau gweinyddol sy'n gysylltiedig â phob gweithgaredd.
Rhaid i bob cost gynnwys TAW, hyd yn oed os gallwch adennill taliadau TAW.
Mae'r canllawiau ar y costau perthnasol sy'n gysylltiedig â phob gweithgaredd wedi'u cynnwys yn yr adrannau canlynol. Nid yw'n rhestr gynhwysfawr. Os oes gennych ymholiadau am gostau gorbenion penodol, cysylltwch â ni i gael cyngor.