Gwariant pleidiau a rhoddion a benthyciadau cyn y bleidlais: Etholiad cyffredinol Senedd y DU

Rhannu gwariant

Pam y gall fod angen i chi wahanu gwariant 

Efallai y bydd angen i chi wahanu eich costau rhwng gweithgareddau a deunyddiau sy'n cyfrif fel gwariant ar ymgyrch a'r rheini nad ydynt. 

Dyma ddwy enghraifft gyffredin i ddangos ble mae angen i chi wahanu gwariant:

  • os defnyddiwch eich swyddfa fel lleoliad ar gyfer canfasio dros y ffôn, bydd angen i chi rannu'r bil ffôn rhwng galwadau canfasio, a galwadau nad ydynt yn ymwneud â'r ymgyrch
  • os byddwch yn defnyddio gwaith dylunio ar gyfer ymgyrchu cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau, ac yn parhau i'w ddefnyddio ar ôl iddo ddechrau, bydd angen i chi wahanu'r costau dylunio rhwng y ddau gyfnod
     

Splitting spending summary box 1

Er enghraifft, rydych yn comisiynu gwaith dylunio ar gyfer logo ymgyrch ar gyfer eich plaid a ddefnyddiwch ar eich gwefan, cyfryngau cymdeithasol eraill ac ar holl ddeunydd eich ymgyrch am fis cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau ac yn ystod y cyfnod a reoleiddir o 12 mis. 

Dylech wahanu'r gost dylunio yn gyfartal ar draws yr holl amser y byddwch yn ei ddefnyddio yn y ffordd hon. 

Costiodd y gwaith dylunio £19,500, a gwnaethoch ei ddefnyddio am gyfnod o 13 mis, felly'r gost fesul mis yw £19,500 ÷ 13 = £1,500 y mis. 

Cwmpasodd y cyfnod a reoleiddir y 12 mis olaf, felly cost y gwariant yn ystod y cyfnod a reoleiddir yw:

12 x £1,500 = £18,000 

rhaid i £18,000 gael ei gofnodi fel gwariant ymgyrchu plaid
 

The honest assessment principle

Yr egwyddor asesu gonest

Ym mhob achos dylech wneud asesiad gonest, yn seiliedig ar y ffeithiau, o gyfran y gwariant y gellir ei phriodoli'n deg i'ch ymgyrch.

Weithiau, gall fod yn anodd gwahanu costau'n union gywir. Er enghraifft, efallai mai dim ond dadansoddiad o gostau galwadau dros werth penodol y gall eich bil ffôn ei ddarparu.

Yn yr achosion hyn, dylech ystyried y ffordd orau o wneud asesiad gonest ar sail y wybodaeth sydd gennych. Er enghraifft, gallech gymharu'r bil ag un nad yw'n cwmpasu cyfnod a reoleiddir.

Os ydych yn dal yn ansicr, ffoniwch neu e-bostiwch ni i gael cyngor.

Pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen gwariant rhaid i chi ddatgan bod y ffurflen yn gyflawn a chywir hyd eithaf eich gwybodaeth a'ch cred. Mae'r datganiad hwn yn cwmpasu unrhyw asesiadau rydych wedi'u gwneud ynghylch rhannu gwariant.

Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu'n fyrbwyll.1
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2023