Ymhlith y gweithgareddau nad ydynt yn cyfrif fel gwariant ar ymgyrch mae:1
treuliau rhesymol y gellir eu priodoli i ddiogelu pobl neu eiddo, er enghraifft llogi diogelwch, defnyddio Blwch Swyddfa’r Post i osgoi hysbysebu cyfeiriad cartref neu swyddfa ar argraffnodau, neu brynu meddalwedd gwrthfeirws ar gyfer diogelu cyfrifiaduron ymgyrchu
costau staff parhaol, cyfnod penodol neu dros dro lle mae gan yr aelod o staff gontract cyflogaeth uniongyrchol â'r blaid
amser gwirfoddolwyr
costau rhedeg swyddfa, heblaw am gostau sy'n uwch na'r arfer oherwydd gwaith ymgyrchu, fel biliau ffôn
costau teithio, bwyd a llety pobl tra byddant yn ymgyrchu, oni bai eich bod yn eu had-dalu
treuliau a delir o arian cyhoeddus. Er enghraifft, costau diogelwch ar gyfer ymweliadau VIP
cylchlythyrau lleol am gynrychiolwyr etholedig neu ddarpar ymgeiswyr
unrhyw beth y mae ymgeisydd yn ei ddatgan yn briodol ar ei ffurflen gwariant3
unrhyw beth y mae ymgyrchydd deiseb adalw cofrestredig yn ei ddatgan yn briodol ar ei ffurflen gwariant4
Amser gwirfoddolwyr
Weithiau efallai na fyddwch yn siŵr a yw rhywun yn wirfoddolwr neu a ddylai ei amser gael ei drin fel gwariant tybiannol. Er enghraifft, efallai fod yr unigolyn yn cynnig gwasanaethau tebyg yn broffesiynol i'r rhai y mae'n eu cyflawni i chi.
Byddant yn wirfoddolwyr:
na fydd ei gyflogwr yn talu am yr amser a dreulir ganddo ar eich ymgyrch, neu
os bydd yn defnyddio ei wyliau blynyddol, neu
os byddant yn hunangyflogedig, ni fyddwch yn elwa ar unrhyw yswiriant proffesiynol sydd ganddynt
Os byddant yn defnyddio cyfarpar neu ddeunyddiau arbenigol, dylech ystyried a yw eu defnydd yn wariant tybiannol, gan ddefnyddio'r egwyddorion yn yr adran nesaf.