Gwariant ar ymgyrchu yw'r hyn y mae eich plaid yn ei wario ar weithgareddau penodol i hyrwyddo'r blaid neu i feirniadu pleidiau eraill ar adeg benodol yn y cyfnod cyn yr etholiad.
Gelwir y cyfnod hwn yn ‘gyfnod a reoleiddir’. Y cyfnod a reoleiddir yw'r adeg benodol pan fydd y terfynau gwariant a'r rheolau yn gymwys.
Dechreuodd y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024 ar 6 Gorffennaf 2023, a bydd yn rhedeg tan y diwrnod pleidleisio ar 4 Gorffennaf 2024.
Mae hyn yn golygu bod y cyfnod a reoleiddir wedi dechrau ymhell cyn i'r etholiad gael ei gyhoeddi.
Cwmpesir unrhyw wariant yr ewch iddo sy'n hyrwyddo eich plaid neu unrhyw un o'i hymgeiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir, oni bai y rhoddwyd gwybod am y gwariant hwnnw ar ffurflen ymgeisydd neu ffurflen deiseb adalw.
Mae hyn yn cynnwys gwariant sy'n hyrwyddo eich plaid yn Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig, ynghyd â gwariant sy'n hyrwyddo eich plaid mewn unrhyw etholiadau eraill yn ystod y cyfnod a reoleiddir.