Gwariant pleidiau a rhoddion a benthyciadau cyn y bleidlais: Etholiad cyffredinol Senedd y DU
Dyrannu gwariant ledled Prydain Fawr
Yn Etholiadau Cyffredinol Senedd y DU, mae cyfyngiadau gwariant gwahanol ar gyfer gwahanol rannau o'r DU (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon).
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi ddyrannu'r gwariant rhwng y rhannau, a sicrhau eich bod yn aros o fewn y terfyn ar gyfer pob rhan.1
Os yw eich plaid wedi'i chofrestru yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i'ch holl wariant gael ei ddyrannu i Ogledd Iwerddon.
Os yw eich plaid wedi'i chofrestru ym Mhrydain Fawr, mae'n rhaid i chi ddyrannu eich gwariant rhwng Cymru, Lloegr a'r Alban.
Rhaid i'r eitemau a ddefnyddir ym mhob rhan o Brydain Fawr gael eu cyfrif tuag at y terfyn gwariant ar gyfer y rhan honno.
examples
Er enghraifft, os mai dim ond yn yr Alban rydych yn sefyll fel ymgeiswyr, yna caiff eich holl wariant ei ddyrannu i'r Alban.
Ar gyfer enghraifft arall, os gwnaethoch ddosbarthu 10,000 o daflenni yng Nghymru a 10,000 o daflenni yn Lloegr, byddai angen i chi ddyrannu hanner y gost i wariant ar ymgyrchu yng Nghymru a hanner ar wariant ar ymgyrchu yn Lloegr.
Minor overlaps
Mân orgyffwrdd
Mewn rhai achosion gall eich gwariant mewn un rhan o Brydain Fawr gael effaith fach ar ran arall.
Dylech ddyrannu gwariant i'r rhan o Brydain Fawr yr anelwyd eich gwariant ati.
examples
Er enghraifft, os gwnaethoch hysbysebu mewn papur newydd yng Nghymru, gellir ei ddosbarthu i ran o sir ffiniol yn Lloegr. Yn yr achos hwn, byddech yn dyrannu'r holl wariant i Gymru.
Spending that relates equally to parts of Great Britain
Gwariant sy'n gysylltiedig yn gyfartal â rhannau o Brydain Fawr
Efallai y bydd rhai mathau o wariant yn gysylltiedig yn gyfartal â rhannau gwahanol o Brydain Fawr. Ymysg yr enghreifftiau mae gwefannau, neu hysbysebu mewn papur newydd a ddosberthir ledled Prydain Fawr.
Yn yr achosion hyn, rhaid i chi rannu'r gost rhwng y rhannau o Brydain Fawr, yn gymesur â nifer seddi Senedd y Deyrnas Unedig a geir ym mhob un.
Example
Er enghraifft, rydych yn cynnal ymgyrch cyfryngau cymdeithasol sy’n costio £40,000 gan dargedu pleidleiswyr yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban. Ni allwch nodi faint o’r gwariant sy’n cael effaith mewn unrhyw ran o Brydain Fawr; dim ond y ffigur cyfan sydd gennych.
Mae’r gwariant yn cael effaith ar draws Prydain Fawr i gyd ac felly rhaid ei briodoli i bob rhan yn gymesur â nifer yr etholaethau ym mhob rhan.2
Mae’r gwariant yn cael effaith ym mhob un o’r 543 o etholaethau yn Lloegr, y 57 o etholaethau yn yr Alban, a’r 32 o etholaethau yng Nghymru – 632 o etholaethau i gyd.
Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio'r cyfrifiad canlynol:
Cyfanswm gwariant × (nifer yr etholaethau yn y rhan honno o Brydain Fawr ÷ cyfanswm nifer yr etholaethau y mae’r gwariant yn cael effaith ynddynt)
Swm y gwariant a briodolwyd i Loegr:
£40,000 × (543 ÷ 632) = £34,367.09
Swm y gwariant a briodolwyd i’r Alban:
£40,000 × (57 ÷ 632) = £3,607.59
Swm y gwariant a briodolwyd i Gymru:
£40,000 × (32 ÷ 632) = £2,025.32
Rydych wedi gwario £34,367.09 tuag at eich terfyn gwariant yn Lloegr, £3,607.59 tuag at eich terfyn gwariant yn yr Alban, a £2,025.32 tuag at eich terfyn gwariant yng Nghymru.
- 1. Atodlen 9, paragraff 2 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 9, paragraff 2(1)(a) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2