Gwariant pleidiau a rhoddion a benthyciadau cyn y bleidlais: Etholiad cyffredinol Senedd y DU
Adrodd
Os bydd eich gwariant yn hyrwyddo'r blaid ond nid unrhyw ymgeisydd penodol, yna rhaid rhoi gwybod amdano fel gwariant y blaid.
Rhaid rhoi gwybod am wariant sy'n hyrwyddo ymgeisydd penodol ond nad yw'n ymddangos ar ffurflen ymgeisydd hefyd fel gwariant y blaid.
Fodd bynnag, bydd unrhyw wariant y mae'n rhaid iddo ymddangos ar ffurflen ymgeisydd wedi'i eithrio o wariant y blaid.1
Mae dwy ffordd y gallai fod angen i'ch gweithgaredd ymddangos ar ffurflen yr ymgeisydd:
- gwariant tybiannol gan yr ymgeisydd
- gwariant awdurdodedig gan y blaid ei hun ar ran yr ymgeisydd
Gwariant tybiannol gan yr ymgeisydd
Os ydych wedi darparu neu drosglwyddo rhywbeth i'r ymgeisydd, a'i fod wedyn yn cael ei ddefnyddio gan neu ar ran yr ymgeisydd yn y cyfnod a reoleiddir ar gyfer ymgeiswyr, a'i fod yn werth mwy na £50, yna gwariant tybiannol gan yr ymgeisydd fydd hyn.2
Yn yr achos hwn, rhaid i'r ymgeisydd roi gwybod am y gwariant. Gan fod yn rhaid iddo ymddangos ar ffurflen yr ymgeisydd, nid oes angen i'r gwariant ymddangos ar ffurflen y blaid.
Os bydd yr ymgeisydd yn ei chael ar ôl iddo ddod yn ymgeisydd, bydd hwn hefyd yn rhodd gan y blaid i'r ymgeisydd, a rhaid ei hadrodd hefyd fel rhodd yn y datganiad.3
Gwariant awdurdodedig
Os nad ydych wedi darparu na throsglwyddo unrhyw beth i'r ymgeisydd, ond os ydych wedi gwario arian yn hyrwyddo'r ymgeisydd ar ôl iddo ddod yn ymgeisydd yn swyddogol, gelwir hyn weithiau yn ‘ymgyrchu lleol’ neu'n ‘wariant adran 75’.
Rhaid i chi gael awdurdodiad ysgrifenedig gan asiant yr ymgeisydd os byddwch am wario mwy na £700 yn hyrwyddo ymgeisydd penodol.4
Os bydd yr asiant yn eich awdurdodi i fynd i'r gwariant, bydd gennych awdurdod i wneud y taliad ar gyfer y gwariant hwnnw.5 Os byddwch yn gwneud y taliadau, yna os caiff y gwariant ei dderbyn ar ôl iddynt ddod yn ymgeisydd yn swyddogol a'i fod yn fwy na £50, bydd yn rhodd i'r ymgeisydd.
Rhaid i'r asiant roi gwybod am y gwariant awdurdodedig ar ffurflen yr ymgeisydd.6
Gan fod yn rhaid iddo ymddangos ar ffurflen yr ymgeisydd, nid oes angen iddo ymddangos ar ffurflen y blaid. Fodd bynnag, os aethoch i wariant o fwy na £700, yna rhaid i chi hefyd gwblhau ffurflen ar wahân ynghyd â datganiad. Rhaid i chi gyflwyno'r rhain i'r Swyddog Canlyniadau yn etholaeth yr ymgeisydd o fewn 21 diwrnod i'r canlyniad gael ei ddatgan.7
Gwariant anawdurdodedig
Os nad yw'r asiant wedi eich awdurdodi i fynd i'r gwariant, yna nid oes angen iddo ymddangos ar ffurflen yr ymgeisydd. Yn yr achos hwn, rhaid i chi ei gynnwys ar ffurflen eich plaid fel arfer.8
Mae'n drosedd gwario mwy na £700 yn hyrwyddo unrhyw ymgeisydd penodol ar ôl iddo ddod yn ymgeisydd yn swyddogol heb gael awdurdodiad ysgrifenedig gan yr asiant.9
Ceir rhagor o fanylion am adrodd ar wariant ymgeiswyr yn Gwariant a Rhoddion Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU.
- 1. PPERA s72(7)(a) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. RPA s73 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2A, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl ↩ Back to content at footnote 3
- 4. RPA s75 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. RPA s73(5)(ca) ↩ Back to content at footnote 5
- 6. RPA s81(1)(a) ↩ Back to content at footnote 6
- 7. RPA s75(2) ↩ Back to content at footnote 7
- 8. PPERA s72 and s80 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. RPA s75(1) ↩ Back to content at footnote 9