Ystyrir gweithgaredd sy'n hyrwyddo plaid yn weithgaredd sy'n hyrwyddo ymgeisydd1
pan fydd y gweithgaredd:
yn enwi'r ymgeisydd penodol
yn enwi'r ardal etholiadol benodol lle mae'r ymgeisydd yn sefyll
examples of promoting a candidate
Enghraifft A
Mae plaid wleidyddol yn cynhyrchu llythyr sy'n nodi polisïau'r blaid ac yn annog pleidleiswyr i bleidleisio dros ymgeisydd penodol yn yr ardal etholiadol honno yn y llinellau olaf. Gan fod modd adnabod yr ymgeisydd, dylid ystyried bod y llythyr wedi cael ei ddosbarthu at ddibenion ethol yr ymgeisydd.
Enghraifft B
Mae plaid wleidyddol yn cynhyrchu hysbyseb sy'n nodi polisïau'r blaid ac yn gofyn i bleidleiswyr bleidleisio dros y blaid yn yr ardal etholiadol honno. Er nad yw'r hysbyseb yn enwi'r ymgeisydd, mae'n enwi'r ardal etholiadol. Felly dylid ystyried bod yr hysbyseb wedi cael ei dosbarthu at ddibenion ethol ymgeisydd y blaid.
Enghraifft C
Mae plaid wleidyddol yn cynhyrchu llythyr sy'n nodi polisïau'r blaid ac yn annog pleidleiswyr i bleidleisio dros y blaid. Er bod y llythyr yn cael ei anfon i gartref yn yr ardal etholiadol, nid yw'r llythyr ei hun yn nodi enw'r ymgeisydd na'r ardal etholiadol. Ni ddylid ystyried bod hwn yn cael ei ddefnyddio at ddibenion etholiad yr ymgeisydd. Gwariant y blaid yw hyn.
Enghraifft D
Mae plaid wleidyddol yn cynnal digwyddiad ymgyrchu cyhoeddus. Unigolion o'r blaid yn hyrwyddo'r blaid yn y digwyddiad. Maent hefyd yn treulio 25% o'r digwyddiad yn hyrwyddo ymgeisydd lleol y blaid. Dylid ystyried bod y 25% honno o'r digwyddiad yn cael ei defnyddio at ddibenion etholiad yr ymgeisydd.