Gwariant ar ymgyrch yw'r hyn y mae eich plaid yn ei wario ar weithgareddau penodol i hyrwyddo ei hun neu ei hymgeiswyr, neu i feirniadu pleidiau eraill, yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Mae gwariant ar ymgyrchu yn cynnwys unrhyw eitemau neu wasanaethau a ddefnyddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir, gan gynnwys:
eitemau neu wasanaethau a brynwyd cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau, ond a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod hwnnw1
eitemau neu wasanaethau a roddir i'r blaid am ddim neu am bris gostyngol anfasnachol o fwy na 10% ac a ddefnyddir yn eich ymgyrch (gweler Gwariant tybiannol)2
Rhaid rhoi gwybod i'r Comisiwn Etholiadol am bob gwariant gan y blaid ar ôl yr etholiad.3